Mae angen diweddaru'r erthygl hon. Gallwch helpu drwy newid yr erthygl i adlewyrchu digwyddiadau diweddar neu ychwanegu gwybodaeth newydd. |
Cystadleuaeth bêl-droed blynddol ar gyfer prif glybiau Ewrop yw Cynghrair y Pencampwyr UEFA. Fe'i drefnir gan Undeb y Cymdeithasau Pêl-droed Ewropeiadd (UEFA).
Cyflwynwyd Cynghrair y Pencampwyr UEFA ym 1992 fel olynydd i Gwpan Pencampwyr Ewrop neu Cwpan Ewrop oedd wedi bodoli ers 1955. Cyn 1992 dim ond pencampwr pob gwlad oedd yn cystadlu ond cafodd y gystadleuaeth ei hymestyn ym 1992. Ychwanegwyd rownd o grwpiau i'r gystadleuaeth a chafodd y gwledydd cryfaf yrru hyd at bedwar clwb i'r gystadleuaeth.
Yn ei ffurf bresennol, mae Cynghrair y Pencampwyr UEFA yn cychwyn yng nghanol mis Gorffennaf gyda tair rownd o gemau dros ddau gymal a gêm ail gyfle dros ddau gymal. Mae'r 10 tîm sydd weddill yn dilyn y rowndiau rhagbrofol yn ymuno â'r 22 o glybiau sydd yn ymuno'n syth yn rownd y grwpiau. Mae'r 32 tîm yn cael eu gosod mewn wyth grŵp o bedwar ac yn chwarae yn erbyn eu gilydd gartref ac oddi cartref gydag wyth enillydd y grŵp a'r wyth tîm orffennodd yn yr ail safle yn camu ymlaen i'r rowndiau olaf..
Mae enillwyr Cynghrair y Pencampwyr UEFA yn sicrhau eu lle yn Super Cup UEFA a Chwpan Clwb y Byd FIFA.
Real Madrid ydi'r clwb mwyaf llwyddiannus yn hanes y gystadleuaeth ar ôl ennill y tlws ar 10 achlysur, gan gynnwys y pum tlws cyntaf. Sbaen ydi'r wlad â'r nifer fwyaf o bencampwyr (15) tra bod gan Lloegr a'r Eidal 12 buddugoliaeth yr un. Mae 22 o glybiau gwahanol wedi torri eu henwau ar y tlws, gyda 12 ohonynyt wedi codi'r tlws ar fwy nag un achlysur. Ers newid ffurf ac enw'r gystadleuaeth ym 1992, nid oes yr un clwb wedi llwyddo i amddiffyn eu coron; A.C. Milan oedd y clwb diwethaf i amddiffyn eu coron yn ystod tymor 1989-90.
Yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf a diddymiad yr Ymerodraeth Awstro-Hwngariaidd, sefydlodd Awstria, Hwngari a Tsiecoslofacia gynghrieiriau pêl-droed proffesiynol; y gwledydd cyntaf ar gyfandir Ewrop i wneud hyn, ac er mwyn sicrhau arian i'r clybiau proffesiynol newydd cafwyd cyfarfod yn Fenis, Yr Eidal ym 1927 er mwyn sefydlu Cwpan Mitropa. Am y ddau dymor cyntaf cafwyd dau glwb o Awstria, Hwngari, Iwgoslafia a Tsiecoslofacia gyda chlybiau o'r Eidal yn cymryd lle clybiau Iwgoslafia o 1929 ymlaen.
Ceisiodd clwb Servette o'r Swistir i sefydlu tlws ar gyfer pencampwyr gwledydd Ewrop ym 1930 gyda 10 o glybiau yn cystadlu yn y Coupe des Nations gyda Újpest o Hwngari yn codi'r tlws. Er ei lwyddiant, ni chafwyd ail gystadleuaeth oherwydd problemau ariannol.
Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, cafywd cystadleuaeth newydd ar gyfer timau Ffrainc, Yr Eidal, Sbaen a Phortiwgal o'r enw'r Cwpan Lladin (Saesneg: Latin Cup; Ffrangeg: Coupe Latine; Eidaleg: Coppa Latina; Portiwgaleg: Taça Latina; Sbaeneg: Copa Latina) ond yn dilyn sefydlu Cwpan Pencampwyr Ewrop daeth y Cwpan Lladin i ben ym 1957.
Ar ôl cael adroddiadau ffafriol o'r Campeonato Sudamericano de Campeones ym 1948, dechreuodd Gabriel Hanot, golygydd papur newydd L'Équipe, withio i ffurfio cystadleuaeth tebyg ar gyfer cyfandir Ewrop. Wedi i Stan Cullis, rheolwr Wolverhampton Wanderers, gyhoeddi mai Wolves oedd "Pencampwyr y Byd" yn dilyn cyfres o fuddugoliaethau mewn gemau cyfeillgar yn y 1950au llwyddodd Hanot i ddwyn perswâd ar UEFA i sefydlu'r gystadleuaeth a daeth Cwpan Pencampwyr Clybiau Ewrop i fodolaeth yn dilyn cyfarfod ym Mharis ym 1955.
Cynhelir twrnament Cynghrair y Pencampwyr Merched UEFA hefyd ar hyd strwythur debyg i'r gystadleuaeth i ddynion.
Ysgrifennwyd anthem Cynghrair y Pencampwyr UEFA gan Tony Britten ac mae'n addasiad o Zadok the Priest gan Georg Friedrich Händel. Perfformiwyd y darn gan y Gerddorfa Ffilarmonig Brenhinol gyda lleisiau Academi St. Martin in the Fields. Mae'r corws yn defnyddio tair iaith swyddogol UEFA: Saesneg, Almaeneg a Ffrangeg. Chwaraeir yr anthem cyn pob un gêm yng Nghynghrair y Pencampwyr UEFA.
Mae 22 o glybiau gwahanol wedi ennill y gystadleuaeth ers ei sefydlu ym 1955 gyda Real Madrid â'r record am y nifer fwyaf o fuddugoliaethau ar ôl codi'r tlws ar 10 achlysur. Dim ond dau glwb arall sydd wedi cyrraedd 10 rownd derfynol; A.C. Milan a F.C. Bayern München. Mae 12 clwb wedi ennill y tlws ar fwy nag un achlysur; Real Madrid, AC Milan, Bayern München, Lerpwl, Ajax, Barcelona, Internazionale, Manchester United, Benfica, Nottingham Forest, Juventus a Porto. Mae 17 o glybiau gwahanol wedi cyrraedd y rownd derfynol heb godi'r tlws.
Mae clybiau o 10 gwahanol gwlad wedi ennill y gystadleuaeth gyda chlybiau Sbaen y mwyaf llwyddiannus wrth ennill 15 tlws. Mae Lloegr a'r Eidal yn gyfartal gyda 12 buddugoliaeth tra bo clybiau'r Almaen wedi codi saith tlws, Yr Iseldiroedd chwech a Phortiwgal pedwar. Mae'r Alban, Rwmania, Iwgoslafia a Ffrainc wedi sicrhau un tlws yr un.
Gwlad | Enillwyr | Ail |
---|---|---|
Sbaen | 15 | 10 |
Yr Eidal | 12 | 15 |
Lloegr | 12 | 7 |
Yr Almaen | 7 | 10 |
Yr Iseldiroedd | 6 | 2 |
Portiwgal | 4 | 5 |
Ffrainc | 1 | 5 |
Yr Alban | 1 | 1 |
Romania | 1 | 1 |
Iwgoslafia | 1 | 1 |
Gwlad Groeg | 0 | 1 |
Gwlad Belg | 0 | 1 |
Sweden | 0 | 1 |
Ers dechrau'r gystadleuaeth mae pump rownd derfynol wedi gweld dau glwb o'r un wlad: Sbaen yn 2000 a 2014, Yr Eidal yn 2003, Lloegr yn 2008 a'r Almaen yn 2013.
† | Cafodd y gêm ei hennill wedi Amser ychwanegol |
* | Cafodd y gêm ei hennill ar Giciau o'r smotyn |
‡ | Cafodd y gêm ei hennill wedi gêm ail-chwarae |
A. ^ 1-1 oedd y sgôr wedi amser ychwanegol yn y rownd derfynol gyntaf chwaraewyd dau ddiwrnod yn gynharach.
B. ^ 1-1 oedd y sgôr wedi 90 munud ac wedi amser ychwanegol. Lerpwl enillodd 4-2 ar giciau o'r smotyn.
C. ^ 0-0 oedd y sgôr wedi 90 munud ac wedi amser ychwanegol. Steaua București enillodd 2-0 ar giciau o'r smotyn.
Ch. ^ 0-0 oedd y sgôr wedi 90 munud ac wedi amser ychwanegol. PSV Eindhoven enillodd 6-5 ar giciau o'r smotyn.
D. ^ 0-0 oedd y sgôr wedi 90 munud ac wedi amser ychwanegol. Red Star Belgrade enillodd 5-3 ar giciau o'r smotyn.
Dd. ^ 1-1 oedd y sgôr wedi 90 munud ac wedi amser ychwanegol. Juventus enillodd 4-2 ar giciau o'r smotyn.
E. ^ 1-1 oedd y sgôr wedi 90 munud ac wedi amser ychwanegol. Bayern München enillodd 5-4 ar giciau o'r smotyn.
F. ^ 0-0 oedd y sgôr wedi 90 munud ac wedi amser ychwanegol. Milan enillodd 3-2 ar giciau o'r smotyn.
Ff. ^ 3-3 oedd y sgôr wedi 90 munud ac wedi amser ychwanegol. Lerpwl enillodd 3-2 ar giciau o'r smotyn.
G. ^ 1-1 oedd y sgôr wedi 90 munud ac wedi amser ychwanegol. Manchester United enillodd 6-5 ar giciau o'r smotyn.
Ng. ^ 1-1 oedd y sgôr wedi 90 munud ac wedi amser ychwanegol. Chelsea enillodd 5-3 ar giciau o'r smotyn.
Mae pedwar Cymro wedi ennill Cwpan Ewrop/Cynghrair y Pencampwyr UEFA. Joey Jones oedd y Cymro cyntaf i ennill y tlws gyda Lerpwl ym 1976-77 ac roedd Jones hefyd yn eilydd y tymor canlynol pan lwyddodd Lerpwl i drechu Club Brugge. Roedd Ian Rush yn rhan o dîm Lerpwl drechodd A.S. Roma ar giciau o'r smotyn ym 1983-84 ac yn aelod o dîm Lerpwl gollodd yn erbyn Juventus ym 1984-85.
Ryan Giggs ydi'r unig Gymro sydd wedi ennill y tlws ar fwy nag un achlysur. Roedd yn rhan o dîm Manchester United drechodd Bayern München ym 1998-99, a hefyd o'r tîm drechodd Chelsea yn 2007-08. Mae Giggs hefyd wedi colli mewn dwy rownd derfynol, yn erbyn Barcelona yn 2008-09 ac yn 2010-11.
Gareth Bale oedd y Cymro cyntaf i sgorio mewn rownd derfynol wrth iddo helpu Real Madrid godi'r tlws yn 2013-14.
Terry Yorath oedd y Cymro cyntaf i chwarae yn y rownd derfynol, fel rhan o dîm Leeds United gollodd yn erbyn Bayern München ym 1974-75. Roedd y golgeidwad, Glan Letheren, yn eilydd i Leeds yn yr un flwyddyn. Roedd Craig Bellamy yn eilydd yn rownd derfynol 2006-07 pan gollodd Lerpwl yn erbyn A.C. Milan.
Cymru sydd wedi ennill Cwpan Ewrop a Chynghrair y Pencampwyr UEFA
Tymor | Enw | Gêm |
---|---|---|
1976–77 | Joey Jones | Lerpwl 3-1 Borussia Mönchengladbach |
1983–84 | Ian Rush | Lerpwl 1-1† A.S. Roma |
1998-99 | Ryan Giggs | Manchester United 2-1 Bayern München |
2007–08 | Ryan Giggs | Manchester United 1-1‡ Chelsea |
2013-14 | Gareth Bale | Real Madrid 4-1(w.a.y.) Atlético Madrid |
† Lerpwl yn ennill 4-2 ar c.o.s.
‡ Manchester United yn ennill 6-5 ar c.o.s.
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)