math o adran weinyddol Ffrainc, math o endid cyfreithiol yn Ffrainc
Math
awdurdod lleol yn Ffrainc, is-adran weinyddol gwlad ail lefel, is-adran weinyddol gwlad ail lefel, is raniad (lefel 3) o sir, o ran gweinyddiaeth, etholaeth, department, NUTS 3 statistical territorial entity
Mae départements Ffrainc (Ffrangeg: Départements de FranceLlydaweg: Departamantoù gall, Basgeg:Frantziako departmenduak) yn ardaloedd gweinyddol yn Ffrainc a grëwyd yn 1790 ar ôl y Chwyldro Ffrengig. Defnyddir y term i gyfeirio at israniadau nifer o gyn-wladfeydd Ffrainc yn ogystal. Mae'r ardaloedd yn wleidyddol yn cyfateb yn fras i'r siroedd ym Mhrydain. Mae 101 département Ffrainc wedi eu grwpio yn 13 région (rhanbarth) y Ffrainc Fetropolitan a 5 rhanbarth tramor. Mae gan bob département statws cyfreithiol fel rhannau annatod o Ffrainc. Is-rennir y rhanbarthau yn ogystal yn 342 arrondissement (bwrdeistref).
Neilltuwyd rhif 91 ar gyfer Alger, yn yr Algeria Ffrengig gynt.
Neilltuwyd rhif 92 ar gyfer Oran, yn yr Algeria Ffrengig gynt.
Neilltuwyd rhif 93 ar gyfer Constantine, yn yr Algeria Ffrengig gynt
Sefydlwyd prefecture Val-d'Oise yn Pontoise pan grëwyd y département, ond fe'i symudwyd de facto i gomiwn cyfagos Cergy; gyda'i gilydd maent yn creu ville nouvelleCergy-Pontoise.
Mae'r départements tramor yn gyn-wladfeydd tu allan i Ffrainc, sydd erbyn hyn yn mwynhau statws yn un fath a Ffrainc fetropolitan. Maent yn rhan o Ffrainc a'r Undeb Ewropeaidd, er bod rheolau arbennig yr UE yn gymwys. Mae pob un ohonynt yn ardal o Ffrainc ar yr un pryd.
Ers 2018, mae dau départementCorsica wedi uno bellach at ddibenion gwleidyddol, ond yn dal i fodoli yn rhestr y circonscriptions
Ers 2015, mae Métropole Lyon wedi ei gwahanu o département y Rhône gyda statws arbennig.
Ers 2021, mae dau département Alsas wedi uno at ddibenion gwleidyddol.