Eredivisie

Yr Eredivisie (Cymraeg: Adran Anrhydedd) yw prif adran bêl-droed yr Iseldiroedd. Mae 18 tîm yn cystadlu yn y gynghrair gyda timau yn disgyn i – ac yn esgyn o'r – Eerste Divisie. Mae'r tymor yn rhedeg rhwng Awst a Mai.

Ffurfiwyd y gynghrair ym 1956, dwy flynedd ar ôl i bêl-droed droi'n broffesiynol yn yr Iseldiroedd. Ajax yw'r tîm mwyf llwyddiannus ar ôl ennill 33 o bencampwriaethau.

Hanes

Ffurfiwyd y Nederlands landskampioenschap voetbal (Cymraeg: Pencampwriaeth Cynghrair bêl-droed yr Iseldiroedd) ym 1888 fel pencampwriaeth amatur i glybiau'r Iseldiroedd gyda'r bencampwriaeth yn cael ei benderynu gyda gemau ail gyfle i lond llaw o glybiau oedd wedi ennill eu pencampwriaeth rhanbarthol. Er gwaethaf ymdrechion Cymdeithas Bêl-droed yr Iseldiroedd (KNVB) i rwystro chwaraewyr rhag troi'n broffesiynol ac ym 1954 ffurfiwyd cymdeithas broffesiynol answyddogol (NBVB) a chynghrair broffesiynol.

Chwaraeodd y ddwy gynghrair 11 o gemau cyn i'r ddwy ffederasiwn gyfarfod i drafod uno. Diddymwyd y ddwy gynghrair a ffurfiwyd cystadleuyaeth newydd gyda Willem II yn sicrhau'r bencampwriaeth trwy gemau ail gyfle. Ym 1956-57 pendefynwyd hepgor y gemau ail gyfle rhanbarthol a ffurfiwyd un gynghrair genedlaethol gyda 18 o glybiau.

Y Tymor Cyntaf

Y 18 clwb cafodd eu dewis i ar gyfer tymor cyntaf yr Eredivisie oedd Ajax, BVC, BVV, DOS, EVV, Elinkwijk, SC Enschede, Feijenoord, Fortuna '54, GVAV, MVV, NAC, NOAD, PSV, Rapid J.C., Sparta, VVV '03 a Willem II gydag Ajax yn dod y pencampwyr cyntaf a Willem II a PSV yn dod y clybiau cyntaf i gwympo allan o'r Eredivisie.

Pencampwyr

Clwb Pencampwriaethau Blwyddyn enillwyd
Ajax 33 1917-18, 1918-19, 1930-31, 1931-32, 1933-34, 1936-37, 1938-39, 1946-47, 1956-57, 1959-60, 1965-66, 1966-67, 1967-68, 1969-70, 1971-72, 1972-73, 1976-77, 1978-79, 1979-80, 1981-82, 1982-83, 1984-85, 1989-90, 1993-94, 1994-95, 1995-96, 1997-98, 2001-02, 2003-04, 2010-11, 2011-12, 2012-13, 2013-14
PSV Eindhoven 23 1928-29, 1934-35, 1950-51, 1962-63, 1974-75, 1975-76, 1977-78, 1985-86, 1986-87, 1987-88, 1988-89, 1990-91, 1991-92, 1996-97, 1999-00, 2000-01, 2002-03, 2004-05, 2005-06, 2006-07, 2007-08, 2014-15, 2015-16
Feyenoord 15 1923-24, 1927-28, 1935-36, 1937-38, 1939-40, 1960-61, 1961-62, 1964-65, 1968-69, 1970-71, 1973-74, 1983-84, 1992-93, 1998-99, 2016-17
HVV Den Haag 10 1890-91, 1895-96, 1899-00, 1900-01, 1901-02, 1902-03, 1904-05, 1906-07, 1909-10, 1913-14
Sparta Rotterdam 6 1908-09, 1910-11, 1911-12, 1912-13, 1914-15, 1958-59
RAP 5 1891-92, 1893-94, 1896-97, 1897-98, 1898-99
Go Ahead Eagles 4 1916-17, 1921-22, 1929-30, 1932-33
HBS 3 1903-04, 1905-06, 1924-25
HFC 3 1889-90, 1892-93, 1894-95
Willem II 3 1915-16, 1951-52, 1954-55
ADO Den Haag 2 1941-42, 1942-43
AZ 2 1980-81, 2008-09
Heracles Almelo 2 1926-27, 1940-41
RCH 2 1922-23, 1952-53
Be Quick 1 1919-20
De Volewijckers 1 1943-44
DOS 1 1957-58
DWS 1 1963-64
EVV Eindhoven 1 1953-54
BVV 1 1947-48
FC Twente 1 2009-10
Haarlem 1 1945-46
Limburgia 1 1949-50
NAC 1 1920-21
Quick Den Haag 1 1907-08
Rapid JC 1 1955-56
SC Enschede 1 1925-26
SVV 1 1948-49
VV Concordia 1 1888-89

Cyfeiriadau

  1. "Netherlands – Regional Analysis". RSSSF.
  2. "Eredivisie – ontstaan". Vak Q. 2013-10-13. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2015-05-25.
  3. "Netherlands Final Tables 1950–1954". RSSSF.
  4. "Netherlands 1954/55". RSSSF.
  5. 5.0 5.1 "Netherlands 1956/57". RSSSF.



Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.