Delwedd:Olympic rings without rims.svg, Olympic Rings Icon.svg | |
Enghraifft o'r canlynol | digwyddiad rheolaidd ym myd chwaraeon |
---|---|
Math | cystadleuaeth rhyngwladol, digwyddiad aml-chwaraeon, digwyddiad rheolaidd ym myd chwaraeon |
Dechrau/Sefydlu | 1896 |
Rhagflaenwyd gan | Gemau Olympaidd yr Henfyd |
Lleoliad | Olympic venue |
Gwefan | https://olympics.com/en/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Digwyddiad cystadleuol aml-chwaraeon yw'r Gemau Olympaidd Modern. Cânt eu rhannu yn emau Haf a gemau Gaeaf, a chânt eu cynnal pob pedair mlynedd (sef cyfnod yr Olympiad). Cynhaliwyd y gemau cyntaf yn 1896 yn Athen, Gwlad Groeg. Cynhaliwyd hwy yr un flwyddyn hyd 1992, ond ers hynny maent yn cael eu cynnal dyflwydd ar wahân.
Recorwyd y Gemau Olympaidd gwreiddiol (Groegaidd: Ολυμπιακοί Αγώνες; Olympiakoi Agones) yn 776 CC am y tro cyntaf, yn Olympia, Groeg, a dathlwyd hwy hyd 393. Dangoswyd diddordeb mewn adfywio'r gemau am y tro cyntaf gan y golygydd papur newydd a'r bardd Panagiotis Soutsos yn ei bennill "Dialogue of the Dead" yn 1833. Fe noddodd Evangelos Zappas y cynhaliwyd y Gemau Olympaidd Modern rhyngwladol cyntaf yn 1859. Fe ariannodd hefyd adnewyddiad y Panathinaiko Stadium ar gyfer cynnal y gemau yno yn 1870 ac 1875. Nodwyd hyn mewn cyhoeddiadau a phapurau newydd ar draws y byd, gan gynnyws y London Review, a ddywedodd "the Olympian Games, discontinued for centuries, have recently been revived! Here is strange news indeed ... the classical games of antiquity were revived near Athens".
Sefydlwyd Pwyllgor Rhyngwladol Olympaidd (PRhO) yn 1894, ar symbyliad y bonheddwr Ffrengig, Pierre Frédy, Baron de Coubertin. Y gemau cyntaf i gael eu trefnu gan y PRhO oedd Gemau Olympaidd 1896, yn Athen, Groeg. Cynyddodd cyfranogaeth y Gemau Olympaidd i gynnwys athletwyr o bron pob gwlad ar draws y byd, oddigerth i Gymu a'r Alban! Gyda gwelliant yng nghyfathrebu lloerenol a darllediadau byd-eang ar y teledu, mae'r gemau'n ennill cefnogaeth yn gyson. Y gemau diweddaraf oedd 2004 yn Athen, a'r gemau gaeafol diweddaraf oedd Gemau Olympaidd y Gaeaf, 2006 yn Torino. Cynhaliwyd Gemau Olympaidd yr Haf 2008 yn Beijing. bydd 302 o gystadleuau mewn 28 o chwaraeon Olympaidd. Mae Gemau Olympaidd y Gaeaf yn cynnwys 84 cystadleuaeth mewn 7 o chwaraeon Olympiadd ers 2006.
Y 5 Cylch
Baron de Coubertin a luniodd y 5 Cylch yn symbol o'r gemau. Mae'r 5 cylch yn cyrychioli prif gyfandiroedd y byd sef Asia, Ewrop, Affrica, Amerig ac Oceania.
Cystadlu'n Deg
Ar ddechrau pob gemau Olympaidd bydd y cystadleuwyr yn cymryd llw i gystadlu'n deg ac i gadw at yr holl reolau. Mae un cystadleuydd o'r wlad lle mae'r gemau yn darllen y llw ar ran gweddill y cystadleuwyr. Gŵr o'r enw Baron de Coubertin, sef sylfaenydd y gemau modern, ysgrifennodd y llw a ddefnyddiwyd am y tro cyntaf yn 1920.
Sukan Olimpik Musim Panas | Sukan Olimpik Musim Sejuk | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Tahun | Olimpiad ke- | Bandar Tuan Rumah | Negara | № | Bandar Tuan Rumah | Negara | |
1896 | I | Athens (1) | Yunani (1) | ||||
1900 | II | Paris (1) | Perancis (1) | ||||
1904 | III | St. Louis, Missouri(1) (1) | Amerika Syarikat (1) | ||||
1906 | Intercalated | Athens | Yunani | ||||
1908 | IV | London (1) | United Kingdom (1) | ||||
1912 | V | Stockholm (1) | Sweden (1) | ||||
1916 | VI (2) | Berlin | Empayar Jerman | ||||
1920 | VII | Antwerp (1) | Belgium (1) | ||||
1924 | VIII | Paris (2) | Perancis (2) | I | Chamonix (1) | Perancis (1) | |
1928 | IX | Amsterdam (1) | Belanda (1) | II | St Moritz (1) | Switzerland (1) | |
1932 | X | Los Angeles, California(1) | Amerika Syarikat (2) | III | Lake Placid, New York (1) | Amerika Syarikat (1) | |
1936 | XI | Berlin (1) | Jerman (1) | IV | Garmisch-Partenkirchen (1) | Jerman (1) | |
1940 | XII (3) | Tokyo→Helsinki | Jepun→
Finland |
V (2) | Sapporo→St Moritz→Garmisch-Partenkirchen | Jepun→
Switzerland→ Jerman | |
1944 | XIII (3) | London | United Kingdom | V (3) | Cortina d'Ampezzo | Itali | |
1948 | XIV | London (2) | United Kingdom (2) | V | St Moritz (2) | Switzerland (2) | |
1952 | XV | Helsinki (1) | Finland (1) | VI | Oslo (1) | Norway (1) | |
1956 | XVI | Melbourne (1) +
Stockholm (2)(4) |
Australia (1) +
Sweden (2) |
VII | Cortina d'Ampezzo (1) | Itali (1) | |
1960 | XVII | Rome (1) | Itali (1) | VIII | Squaw Valley, California (1) | Amerika Syarikat (2) | |
1964 | XVIII | Tokyo (1) | Jepun (1) | IX | Innsbruck (1) | Austria (1) | |
1968 | XIX | Mexico City (1) | Mexico (1) | X | Grenoble (1) | Perancis (2) | |
1972 | XX | Munich (1) | Jerman Barat (2) | XI | Sapporo (1) | Jepun (1) | |
1976 | XXI | Montreal, Quebec (1) | Kanada (1) | XII | Innsbruck (2) | Austria (2) | |
1980 | XXII | Moscow (1) | Kesatuan Soviet (1) | XIII | Lake Placid, New York (2) | Amerika Syarikat (3) | |
1984 | XXIII | Los Angeles, California (2) | Amerika Syarikat (3) | XIV | Sarajevo (1) | Yugoslavia (1) | |
1988 | XXIV | Seoul (1) | Korea Selatan (1) | XV | Calgary, Alberta (1) | Kanada (1) | |
1992 | XXV | Barcelona (1) | Sepanyol (1) | XVI | Albertville (1) | Perancis (3) | |
1994 | XVII | Lillehammer (1) | Norway (2) | ||||
1996 | XXVI | Atlanta, Georgia (1) | Amerika Syarikat (4) | ||||
1998 | XVIII | Nagano (1) | Jepun (2) | ||||
2000 | XXVII | Sydney (1) | Australia (2) | ||||
2002 | XIX | Salt Lake City, Utah (1) | Amerika Syarikat (4) | ||||
2004 | XXVIII | Athens (2) | Yunani (2) | ||||
2006 | XX | Turin (Torino) (1) | Itali (2) | ||||
2008 | XXIX | Beijing (1) (5) | China (1) | ||||
2010 | XXI | Vancouver, British Columbia (1) | Kanada (2) | ||||
2012 | XXX | London (3) | United Kingdom (3) | ||||
2014 | XXII | Sochi (1) | Rusia (1) | ||||
2016 | XXXI | Rio de Janeiro (1) | Brazil (1) | ||||
2018 | XXIII | Pyeongchang (1) | Korea Selatan (1) | ||||
2021(6) | XXXII | Tokyo (2) | Jepun (2) | ||||
2022 | XXIV | Beijing (2) | China (2) |
Datblygodd y syniad o amaturiaeth yn y 19g yn Lloegr fel ffordd o atal y dosbarth gweithiol rhag cystadlu yn erbyn y byddigion. Gallai'r byddigion gymryd rhan mewn chwaraeon heb boeni am ennill bywoliaeth. Nid felly y werin. Byddent yn treulio amser yn ymarfer ac yn dod yn broffesiynol pe baent yn derbyn arian am berfformio. Dros y blynyddoedd newidiwyd y diffiniad o 'amaturiaeth'.