Giosuè Carducci | |
---|---|
Ffugenw | Enotrio Romano |
Ganwyd | Giosuè Alessandro Giuseppe Carducci 27 Gorffennaf 1835 Valdicastello Carducci, Pietrasanta |
Bu farw | 16 Chwefror 1907 Bologna, Pietrasanta |
Man preswyl | Casa Carducci |
Dinasyddiaeth | Teyrnas yr Eidal |
Addysg | laurea |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, bardd, newyddiadurwr, gwleidydd, academydd, beirniad llenyddol, ieithegydd |
Swydd | aelod o Siambr Dirprwyon Teyrnas yr Eidal, seneddwr ym Mrenhiniaeth yr Eidal |
Cyflogwr |
|
Plaid Wleidyddol | Historical Far Left |
Tad | Michele Carducci |
Mam | Ildegonda Celli |
Priod | Elvira Menicucci |
Plant | Beatrice Carducci, Libertà Carducci |
Gwobr/au | Gwobr Lenyddol Nobel |
llofnod | |
Bardd ac athro Eidalaidd oedd Giosuè Carducci (27 Gorffennaf 1835 – 16 Chwefror 1907). Roedd yn ddyn dylanwadol iawn ac ystyrid ef fel y bardd cenedlaethol. Enillodd Carducci Wobr Lenyddol Nobel yn 1906, ac ef oedd yr Eidalwr cyntaf i'w hennill.
Fe'i ganwyd yn Valdicastello di Pietrasanta. Meddyg oedd ei dad ond roedd hefyd yn ymwneud â'r Carbonari a chredodd yn gryf mewn Eidal unedig. Oherwydd ei ddaliadau gwleidyddol, gorfodwyd ei deulu i symud cartref sawl gwaith pan oedd Giosuè'n ifanc, gan sefydlu yn y diwedd yn Florence.
Cariad at wlad yw'r elfen bwysicaf yn ei waith, a chariad at harddwch, natur a bywyd.. Bu farw yn Bologna yn 71 oed.