Herta Müller | |
---|---|
Ganwyd | 17 Awst 1953 Nițchidorf |
Man preswyl | Berlin |
Dinasyddiaeth | yr Almaen, Rwmania |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, ieithydd, bardd, cyfieithydd, nofelydd, awdur ysgrifau |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Nadirs, The Passport, The Land of Green Plums, The Hunger Angel |
Arddull | nofel, barddoniaeth, traethawd |
Priod | Richard Wagner, Harry Merkle |
Gwobr/au | Gwobr Lenyddol Nobel, Adam Müller-Guttenbrunn-Förderpreis, Premiul UTC la secțiunea „lucrări în limbile naționalităților conlocuitoare", Gwobr Llenyddiaeth Aspekte, Rauriser Literaturpreis, Förderpreis zum Literaturpreis der Stadt Bremen, gwobr Marieluise-Fleißer, Deutscher Sprachpreis, Gwobr Roswitha, Gwobr Kranichsteiner am Lenyddiaeth, Deutscher Kritikerpreis, Gwobr Kleist, Aristeion Prize, Gwobr Franz-Nabl, Ida-Dehmel-Literaturpreis, International Dublin Literary Award, Gwobr Franz-Kafka, Cicero Orator Prize, Tübinger Poetik-Dozentur, Medal Carl Zuckmayer, Gwobr Joseph-Breitbach, Literaturpreis der Konrad-Adenauer-Stiftung, Berliner Literaturpreis, Würth-Preis für Europäische Literatur, Gwobr Lenyddol Hasenclever Walter, Ehrengabe der Heinrich-Heine-Gesellschaft, Franz Werfel Human Rights Award, Gwobr Hoffmann von Fallersleben, Gwobr Samuel-Bogumil-Linde, Gwobr Monismanien, Stadtschreiber von Bergen, Gwobr Ricarda-Huch, Best Translated Book Award, Croes Marchog-Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Urdd Maximilian Bafaria am Wyddoniaeth a Chelf, Hannelore Greve literature award, Gwobr-Heinrich-Böll, Eugen Kogon Award, Brüder-Grimm-Poetikprofessur, Friedrich Hölderlin Prize, honorary doctor of the University of Jena, honorary doctor of the University of Paderborn, Q1596394 |
llofnod | |
Delwedd:Herta Müller - signature.jpg, Herta Mueller signature.png |
Nofelydd, bardd a thraethodydd yn yr Almaeneg ydy Herta Müller (ganwyd 17 Awst 1953). Enillodd hi'r Wobr Nobel am Lenyddiaeth yn 2009. Cafodd ei geni ym mhentref Niţchidorf, yng ngogledd-orllewin Rwmania ond mae hi'n Almaenes o ran iaith a thras. Cyfieithwyd ei gwaith i dros 20 o ieithoedd ers y nawdegau. Un o brif nodweddion ei gwaith yw trais a chreulondeb y cyfnod dan Nicolae Ceauşescu yn aml o safbwynt y gymuned Almaeneg yn y Banat, a Transylvania. Sail ei nofel Atemschaukel yw carcharu'r lleiafrif Almaeneg yn y Gwlagau dan Stalin adeg yr Ail Ryfel Byd. Roedd ei phentref Niţchidorf (Almaeneg: Nitzkydorf) yn siarad Almaeneg tan yr wythdegau, wedyn aeth bron pawb i'r Almaen, gan ddod â dwy ganrif o'r gymuned i ben.
O 1976 tan 1979 gweithiodd fel cyfieithydd, cyn i'r Securitate fynnu ei hymddiswyddiad, wedyn gweithiodd mewn kindergarten a thrwy rhoi gwersi Almaeneg preifat. Fe wrthodwyd yr hawl iddi allfudo i'r Almaen ym 1985, ond llwyddodd wedyn ym 1987, a symudodd efo'i gŵr Richard Wagner i Berlin. Daeth yn aelod o'r Deutsche Akademie für Sprache und Dichtung yn 1995
Literaturnobelpreis geht an Herta Müller | Kultur & Leben | Deutsche Welle | 08.10.2009.