His Dark Materials

His Dark Materials
Enghraifft o'r canlynolcyfres nofelau, literary trilogy Edit this on Wikidata
AwdurPhilip Pullman Edit this on Wikidata
CyhoeddwrScholastic Corporation Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1995, 1997, 2000 Edit this on Wikidata
Genreffantasi, ffuglen ar gyfer oedolion ifanc, uwch ffantasi, ffuglen yr hanes amgen Edit this on Wikidata
CymeriadauLyra Belacqua, Lord Asriel, Iorek Byrnison, Will Parry, Marisa Coulter, Lord Boreal, Serafina Pekkala, Balthamos, Baruch, Farder Coram, Iofur Raknison, John Faa, Kirjava, Pantalaimon, Lee Scoresby, Roger Parslow, Mary Malone, John Parry, Lady Salmakia, Ruta Skadi, Fra Pavel, The Authority, Metatron, Xaphania Edit this on Wikidata
Prif bwncathroniaeth, crefydd, ffiseg Edit this on Wikidata
Yn cynnwysNorthern Lights, The Subtle Knife, The Amber Spyglass Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.philip-pullman.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Trioleg o nofelau ffantasi gan Philip Pullman yw His Dark Materials. Mae'n cynnwys y tri llyfr:

Mae'r gyfres yn dilyn stori merch ddeuddeg oed, Lyra Belacqua, wrth iddi deithio drwy nifer o fydysawdau cyfochrog. Mae'r llyfr cyntaf yn digwydd mewn byd sydd â rhai tebygrwydd i'n byd ni. Mae'n cychwyn yn Rhydychen, sydd fodd bynnag yn wahanol mewn llawer o fanylion i'r Rhydychen yn ein byd. Mae arddull gwisg yn debyg i oes Edwardaidd. Nid yw'r dechnoleg yn cynnwys ceir nac awyrennau, ond mae sepelinau (awyrlongau) yn ymddangos yn eu lle. Yn wleidyddol mae'r byd yn theocrataeth, o dan reolaeth ormesol y "Magisterium".

Mae'r elfen ffantasi o bwys. Dyma fyd lle mae yna wrachod hedfan, eirth deallus sy'n gallu siarad. Mae gan Lyra'r gallu i weithredu alethiometer – dyfais fel cwmpawd sy'n rhoi atebion gwir i gwestiynau. Rhan bwysig o'r stori yw'r "dæmoniaid". Yn y byd hwn mae gan pob bod dynol "dæmon" sydd ar ffurf anifail sy'n mynd gyda'r unigolyn hwnnw trwy gydol ei oes. Tra bod y person yn blentyn gall ei ddæmon newid siâp ei anifail, ond gyda dyfodiad llencyndod mae'n cael ffurf sefydlog, derfynol.

Mae'r teitl "His Dark Materials" a nifer o themâu yn y gyfres yn deillio o Paradise Lost gan John Milton.

Mae'r nofelau wedi ei haddasu ar lwyfan ac mewn un ffilm. Yn 2019 darlledwyd cyfres deledu ar y BBC a gynhyrchwyd a ffilmiwyd yn helaeth yng Nghymru.

Cyfeiriadau

  • Lenz, Millicent (2005). His Dark Materials Illuminated: Critical Essays on Phillip Pullman's Trilogy. Wayne State University Press. ISBN 0-8143-3207-2.
Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.