Juan Ramón Jiménez | |
---|---|
Ganwyd | Juan Ramón Jiménez Mantecón 23 Rhagfyr 1881 Moguer |
Bu farw | 29 Mai 1958 San Juan |
Dinasyddiaeth | Sbaen |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, ysgrifennwr |
Cyflogwr | |
Arddull | barddoniaeth, lyricism |
Mudiad | Generation of 1914 |
Priod | Zenobia Camprubí |
Gwobr/au | Gwobr Lenyddol Nobel, Honorary Doctorate from the National Autonomous University of Mexico |
Gwefan | http://fundacion-jrj.es/ |
llofnod | |
Roedd Juan Ramón Jiménez Mantecón (23 Rhagfyr 1881 – 29 Mai 1958) yn fardd o Sbaen, awdur toreithiog a dderbyniodd y Wobr Nobel mewn Llenyddiaeth ym 1956 "am ei farddoniaeth delynegol, sydd yn yr iaith Sbaeneg yn enghraifft o ysbryd aruchel a phurdeb artistig ". Un o gyfraniadau pwysicaf Jiménez i farddoniaeth fodern oedd ei eiriolaeth o'r cysyniad Ffrengig o "farddoniaeth bur."
Ganwyd Juan Ramon Jimenez ym Moguer, ger Huelva, yn Andalucia, ar 23 Rhagfyr 1881. Derbyniodd ei addysg uwchradd yn Sefydliad IES La Rábida. Yn ddiweddarach, astudiodd y gyfraith ac arlunio ym Mhrifysgol Sevilla, ond ni ddefnyddiodd yr hyfforddiant hwn. Yna wnaeth ymroi ei hun i'r bywyd llenyddol a chafodd ei ddylanwadu gan Rubén Darío a symbolaeth. Cyhoeddodd ei ddau lyfr cyntaf yn ddeunaw oed, ym 1900. Fe wnaeth marwolaeth ei dad yr un flwyddyn ei effeithio'n ddirfawr, ac arweiniodd yr iselder a ddioddefai o ganlyniad iddo gael ei anfon am y tro cyntaf i Ffrainc, lle cafodd berthynas â gwraig ei feddyg, ac yna i sanatoriwm ym Madrid a oedd yn cael ei redeg gan leianod ifanc, lle'r oedd yn byw rhwng 1901 i 1903. Yn 1911 a 1912, ysgrifennodd lawer o gerddi erotig yn darlunio perthynas rhywiol gyda nifer o ferched mewn sawl lle gwahanol. Cyfeiriodd rhai ohonynt at gael rhyw gyda lleianod a oedd yn nyrsys. Yn y pen draw, mae'n debyg, gwnaeth yr abades ddarganfod yr hyn yr oedd wedi bod yn ei wneud a'i ddiarddel, er nad yw'n hysbys a oedd y weithgaredd rhywiol a ddisgrifir yn ei gerddi wedi digwydd mewn gwirionedd.
Prif bynciau llawer o'i gerddi eraill oedd cerddoriaeth a lliw, a oedd, ar brydiau, yn ei ddefnyddio i ddelweddu cariad a chwant.
Dioddefodd chwalfa feddyliol ac Iselder, ac felly arhosodd mewn ysbytai yn Ffrainc a Madrid. Yn ei gerdd rhyddiaeth Platero a minnau (1914), sy'n sôn am awdur a'i asyn, mae'n dathlu ardal ei febyd yn Sbaen. Yn 1916 priododd ef â'r awdur a'r bardd o Sbaen, Zenobia Camprubí, yn yr Unol Daleithiau. Datblygodd Zenobia i fod yn gymar a chydweithredwr anhepgor iddo. Wedyn, yn y flwyddyn 1916, symudon nhw i Bortiwgal.
Ar ddechrau Rhyfel Cartref Sbaen, alltudiwyd ef a Zenobia i Puerto Rico, ac arhoson nhw yno o 1946 ymlaen. Bu Jiménez yn yr ysbyty am wyth mis oherwydd iselder dwfn arall. Yn ddiweddarach roedd yn Athro Iaith a Llenyddiaeth Sbaeneg ym Mhrifysgol Puerto Rico. Mae ei ddylanwad llenyddol ar awduron o Puerto Rico yn amlwg yng ngweithiau Giannina Braschi, René Marqués, Aurora de Albornoz, a Manuel Ramos Otero. Fe enwodd y brifysgol adeilad ar y campws a rhaglen ysgrifennu er anrhydedd iddo. Roedd hefyd yn Athro ym Mhrifysgol Miami yn Coral Gables, Florida. Pan oedd yn byw yn Coral Gables ysgrifennodd "Romances de Coral Gables" (Cerddi o Coral Gables). Yn ogystal, roedd yn Athro yn Adran Sbaeneg a Phortiwgaleg Prifysgol Maryland, ac ailenwyd adeilad yn Jiménez Hall ar ei ôl ym 1981.
Yn 1956, derbyniodd y Wobr Nobel mewn Llenyddiaeth; ddeuddydd yn ddiweddarach, bu farw ei wraig o ganser yr ofari. Ni wellodd Jiménez erioed o'r boen emosiynol, a bu farw ddwy flynedd wedi hynny, ar 29 Mai 1958, yn yr un clinig lle bu farw ei wraig. Mae'r ddau wedi'u claddu yn ei dref enedigol, Moguer, Sbaen.
Er mai bardd ydoedd yn bennaf, gwerthodd gwaith rhyddiaith Jiménez, Platero y yo, yn dda yn America Ladin ac, ar ôl iddo gael ei gyfieithu i'r Saesneg, daeth yn boblogaidd yn UDA. Cydweithiodd hefyd gyda'i wraig wrth gyfieithu gwaith y dramodydd Gwyddelig John Millington Synge, Riders to the Sea (1920). Roedd ei allbwn barddonol yn ystod ei fywyd yn aruthrol. Ymhlith ei weithiau mwy adnabyddus mae Sonetos espirituales 1914–1916 (1916; “Sonedau Ysbrydol, 1914–15”), Piedra y cielo (1919; “Carreg ac Awyr”), Poesía, en verso, 1917–1923 (1923 "Barddoniaeth, mewn rhigwm"), Poesía en prosa y verso (1932; “Barddoniaeth mewn rhyddiaith a rhigwm”), Voces de mi copla (1945; “Lleisiau fy nghân”), ac Animal de fondo (1947; “Anifail yn y bôn”). Cyhoeddwyd casgliad o 300 o gerddi (1903-53) mewn cyfieithiad Saesneg gan Eloise Roach ym 1962.
Mae sawl stryd wedi eu henwi ar ôl Jiménez, gan gynnwys un ym Madrid ac un yn Valencia .
His lyrical and philosophical work influencing Puerto Rican writers such as Manuel Ramos Otero and René Marqués.