Louis XIV, brenin Ffrainc

Louis XIV, brenin Ffrainc
Ganwyd5 Medi 1638 Edit this on Wikidata
Château de Saint-Germain-en-Laye Edit this on Wikidata
Bedyddiwyd21 Ebrill 1643 Edit this on Wikidata
Bu farw1 Medi 1715 Edit this on Wikidata
Palas Versailles Edit this on Wikidata
Man preswylPalas Versailles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Ffrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, casglwr celf, actor, teyrn, gwladweinydd Edit this on Wikidata
Swyddbrenin Ffrainc a Navarre, Cyd-Dywysog Ffrainc Edit this on Wikidata
TadLouis XIII, brenin Ffrainc Edit this on Wikidata
MamAnn o Awstria Edit this on Wikidata
PriodMaria Theresa o Sbaen, Madame de Maintenon Edit this on Wikidata
PartnerLouise de La Vallière, Madame de Montespan, Claude de Vin des Œillets, Catherine Bellier, Marie Mancini, Olympia Mancini, Anne-Madeleine de Conty d'Argencourt, Catherine Charlotte de Gramont, Bonne de Pons d'Heudicourt, Anne de Rohan-Chabot, Isabelle de Ludres, Marie Angélique de Scorailles Edit this on Wikidata
PlantLouis, Marie Thérèse, Philippe Charles, Y Dywysoges Anne Élisabeth o Ffrainc, Y Dywysoges Marie Anne o Ffrainc, Louis François, Françoise Marie de Bourbon, Louise Françoise de Bourbon, Louis Auguste, Louis, iarll Vermandois, Louis César, Louise Marie Anne de Bourbon, Marie Anne de Bourbon, Louise de Maisonblanche, Charles de La Baume Le Blanc, Philippe de Bourbon, mab anhysbys Bourbon, mab anhysbys, Louise Françoise de Bourbon, Louis Alexandre Edit this on Wikidata
LlinachHouse of Bourbon in France, House of Bourbon Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd yr Ysbryd Glân, Urdd Sant Mihangel, Order of Saint Louis Edit this on Wikidata
llofnod

Brenin Ffrainc o 14 Mai 1643 tan 1 Medi 1715 oedd Louis XIV (Louis-Dieudonné neu le Roi-Soleil) (5 Medi 16381 Medi 1715). Bu'n frenin am gyfnod hirach nag unrhyw frenin arall, o genedl a'r maint hwn: 72 blwyddyn a 110 diwrnod.

I louis mae'r diolch am gryfhau Ffrainc yn uned a oedd yn cael ei rheoli o'i phrifddinas, Paris. Dileodd y syniad fod ffiwdaliaeth yn dderbyniol i raddau helaeth. A thrwy fynu fod yr uchelwyr cefnog yn byw yn ei balas yn Versailles, a oedd cyn hynny'n blasty hela, llwyddodd i ddofi'r pendefigion, hyd yn oed y rhai hynny a fu'n aelodau o Wrthryfel y Fronde. Roedd yn ymgorfforiad o frenhiniaeth absoliwt ac elfennau waethaf yr Ancien Régime a ddaeth i ben gyda'r Chwyldro Ffrengig.

Plentyndod a phriodas

Cafodd ei eni yn Saint-Germain-en-Laye, yn rhanbarth Île-de-France. Ei dad oedd y Brenin Louis XIII a'i fam oedd Ann o Awstria (1601 – 1666). Fe'i galwyd yn Louis Dieudonné (Louis, rhodd gan Dduw) ynghyd a'r teitl traddodiadol, Ffrengig y darpar frenin: Y Dauphin. Pan anwyd ef roedd ei rieni wedi bob yn briod am 23 mlynedd, ac wedi colli pedwar plentyn ar eu genedigaeth, rhwng 1619 ac 1631. Roedd y gwleidyddion ac uchelwyr y cyfnod, felly, gweld geni Louis yn rodd gan Dduw, ac yn wyrth.

Ei wraig gyntaf oedd Maria Teresa o Awstria (1638–1683) (Sbaeneg: María Teresa; Ffrangeg: Marie-Thérèse), tywysoges o Sbaen. Cawsant chwech o blant ond un yn unig a dyfodd yn oedolyn: Monseigneur. Bu farw Maria Teresa yn 1683 a phriododd Louis ei gariad newydd Madame de Maintenon yng ngaeaf 1685-86.

Cyfeiriadau

  1. "Louis XIV". MSN Encarta. 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-11-01. Cyrchwyd 20 Ionawr 2008.
  2. Sturdy, D. J. (2004). Richelieu and Mazarin : a study in statesmanship (yn Saesneg). Efrog Newydd: Palgrave Macmillan. t. 61. ISBN 9781403943927.
  3. Brémond, Henri (1908). La Provence mystique au XVIIe siècle (yn French). Paris: Plon-Nourrit. tt. 381–382.CS1 maint: unrecognized language (link)
  4. François Bluche (translated by Mark Greengrass (1990). Louis XIV. New York: Franklin Watts. t. 11. ISBN 0-531-15112-3.

Dolenni allanol

Rhagflaenydd:
Louis XIII
Brenin Ffrainc
14 Mai 16431 Medi 1714
Olynydd:
Louis XV