Sgwâr Trafalgar

Sgwâr Trafalgar
Mathsgwâr, atyniad twristaidd Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlBrwydr Trafalgar Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDinas Westminster
Cysylltir gydaNorthumberland Avenue, Whitehall, St Martin's Place, Y Strand, Duncannon Street, Cockspur Street, Pall Mall East Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1840 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlundain Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd0.92 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.5081°N 0.1281°W Edit this on Wikidata
Cod OSTQ3000780447 Edit this on Wikidata
Rheolir ganAwdurdod Llundain Fwyaf Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethparc rhestredig neu ardd restredig Gradd I Edit this on Wikidata
Manylion

Sgwâr yn Ninas Westminster, canol Llundain, yw Sgwâr Trafalgar (Saesneg: Trafalgar Square), yn agos at ganol swyddogol y ddinas a'i nodir gan gerflun o Siarl I yn Charing Cross, i'r de o'r sgwâr. Yn wreiddiol safai rhwng dinasoedd Llundain a Westminster, a lleolwyd y stablau brenhinol yno ers teyrnasiad Edward I. Yn 1820au adnewyddwyd yr ardal gan y pensaer John Nash ar gyfer Tywysog Rhaglyw. Enwir y sgwâr ar ôl buddugoliaeth y llynges Brydeinig ym Mrwydr Trafalgar ym 1805, ac fe saif Colofn Nelson, cofadail er coffa'r Arglwydd Nelson, yn y canol. Mae'r sgwâr o hyd wedi bod yn boblogaidd â phrotestwyr, er gwaethaf ad-drefniad y safle yn yr 1840au gan y pensaer Charles Barry, a cheisiodd lleihau'r nifer o bobl all ymgynull yno. Cafodd y sgwâr ei ail-gynllunio eto ym 1938 gan Edwin Lutyens ac yn 2003 gan Norman Foster.

Lleolir yr Oriel Genedlaethol ar ochr ogleddol y sgwâr, llysgenhadaeth De Affrica i'r dwyrain, a llysgenhadaeth Canada i'r gorllewin. Bu'r sgwâr ynghynt yn enwog am y nifer o golomennod a ddaeth yno i gael eu bwydo gan y twristiaid, ond gwaharddwyd hyn gan Ken Livingstone tra'r oedd yn Faer Llundain.

Eginyn erthygl sydd uchod am Lundain. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.