Siarlymaen

Siarlymaen
Ganwyd740s Edit this on Wikidata
Francia, Liège, Aachen Edit this on Wikidata
Bu farw28 Ionawr 814 Edit this on Wikidata
Aachen Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFrancia Edit this on Wikidata
Galwedigaethteyrn, brenin neu frenhines Edit this on Wikidata
Swydddug Bafaria, brenin y Ffranciaid, brenin y Lombardiaid, Carolingian Roman emperor Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl18 Ionawr Edit this on Wikidata
Taldra1.84 metr Edit this on Wikidata
TadPepin Fychan Edit this on Wikidata
MamBertrada o Laon Edit this on Wikidata
PriodDesiderata o Lombardia, Hildegard, Fastrada, Luitgard, Himiltrude Edit this on Wikidata
PartnerRegina, Himiltrude, Madelgard, Gersuinda, Ethelind Edit this on Wikidata
PlantPepin Cefngrwm, Siarl yr Ieuengaf, Rotrude, Bertha, Pepin o'r Eidal, Louis Dduwiol, Gisela, Theodrada, Drogo, Hugh, Alpais, Adelaide, Lothair, Hildegard, Chrotais, Hiltrude, Ruodhaid, Theodoric, Adaltrude Edit this on Wikidata
LlinachY Carolingiaid Edit this on Wikidata
llofnod

Roedd Siarlymaen (742 neu 74728 Ionawr 814) yn frenin y Ffranciaid o 768 ymlaen ac yn ymerawdwr 25 Rhagfyr, 800 pan y coronwyd ef gan Bab Leo III yn Rhufain. Carolus Magnus oedd ei enw ef yn Lladin, a Charlemagne yn Ffrangeg. Ei deitl lawn o 800 ymlaen oedd: Karolus serenissimus augustus a Deo coronatus magnus pacificus imperator Romanum imperium gubernans qui et per misericordiam dei rex Francorum atque Langobardorum (Cyfieithiad rydd: Siarl rheolwr araul urddasol, coronwyd gan Dduw, rheolwr sydd yn rheoli'r Ymerodraeth Rufeinig ac yn creu hedd mawr, gyda chaniatâd Duw yn frenin y Francaid a'r Langobardaid). Ystyrir mai ef oedd yr Ymerawdwr Glân Rhufeinig cyntaf.

Bywyd

Roedd Siarlymaen yn fab hynaf Pippin III, y brenin Carolingaidd cyntaf. Ar ôl i Pippin farw roedd Siarlymaen yn rheoli un rhan o'r deyrnas a'i frawd, Carloman, y llall. Wedi marwolaeth Carloman ym 771 daeth Siarlymaen yn rheolwr ar y deyrnas gyfan.

Fideo byr ar blasty'r Siarlymaen yn Aachen

Oherwydd i Siarlymaen gytuno i'w dad Pippin y byddai'n rhoi tir i'r eglwys, roedd y berthynas rhwng Siarlymaen a'r Pab yn dda iawn. Daeth Irene yn ymerodres yr Ymerodraeth Fysantaidd yn 797, ond nid oedd yn cael ei chydnabod gan y Pab, nad oedd yn barod i dderbyn merch fel rheolwr. Coronodd Pab Leo III Siarlymaen i fod yn ymerawdwr tra y bu'n aros yn Rhufain ar ddydd Nadolig y flwyddyn 800. Siarlymaen oedd y rheolwr cyntaf yng ngorllewin Ewrop i ddefnyddio'r teitl yma ers cwymp Romulus Augustulus ym 476. Wrth gwrs, nid oedd yr yn croesawu'r ymerawdwr gorllewinol newydd.

Roedd 350 o siroedd, a reolid gan ieirll, yn Ymerodraeth Siarlymaen, ac roedd yr ieirll hynny'n gwasanethu fel barnwyr a gweinyddwyr. Bu hefyd i Siarlymaen gyflwyno'r system Missi Dominici ("Negesyddion Duw"). O dan y system hon roedd cynrychiolydd yr eglwys a chynrychiolydd yr Ymerawdwr yn rheoli'r siroedd ac yn rhoi adroddiad ar gyfer y sir i Siarlymaen bob blwyddyn.

Claddwyd Siarlymaen yn ei eglwys gadeiriol ei hun yn ninas Aachen pan fu farw ym 814. Daeth Louis y Duwiol, yr unig fab a goroesodd ef, yn frenin dros yr holl ymerodraeth, ond ar ôl hynny rhannwyd yr ymerodraeth rhwng meibion Louis, yn ôl y traddodiad Ffrancaidd. Roedd y tair teyrnas a ffurfiwyd o ganlyniad i hynny yn ragflaenyddion teyrnas Ffrainc a'r Ymerodraeth Lân Rufeinig.

Llenyddiaeth

Un o gadwen o chwedlau Cymraeg am y Siarlymaen: Ystorya de Carolo Magno: Rhamant Otfel allan o Lyfr Coch hergest (Coleg yr Iesu, Rhydychen, MS 111), 14g

Cafwyd nifer o chwedlau am Siarlymaen a oedd yn cynnig tir ffrwythlon i feirdd a llenorion yr Oesoedd Canol. Efallai'r gerdd enwocaf am gylch Siarlymaen yw'r gerdd Ffrangeg Canol adnabyddus La Chanson de Roland. Cafodd hynny ei chyfieithu neu eu hadasu i sawl iaith, gan gynnwys Cymraeg Canol (Cân Rolant). Gyda'r testun hanes arwrol Cronicl Turpin a Rhamant Otuel, addaswyd Cân Roland i'r Gymraeg yn y testunau a elwir yn Ystorya de Carolo Magno. Yn ogystal ceir y testun rhyddiaith Pererindod Siarlymaen. Ceir y testunau hyn yn Llyfr Coch Hergest a Llyfr Gwyn Rhydderch.

Llyfryddiaeth

  • Stephen J. Williams (gol.), Ystorya de Carolo Magno (Caerdydd, 1968)
Rhagflaenydd:
Ymerawdwr Glân Rhufeinig
800814
Olynydd:
Louis I (Louis Dduwiol)

Cyfeiriadau