Tŷ uchaf Senedd y Deyrnas Unedig yw Tŷ'r Arglwyddi (Saesneg: House of Lords). Fel Tŷ'r Cyffredin, mae'n cyfarfod ym Mhalas San Steffan.
Mae wedi bodoli mewn rhyw ffurf neu'i gilydd ers y 14g. Yn wahanol i Dŷ'r Cyffredin, cânt eu henwebu'n hytrach na chael eu hethol. Nid oes nifer penodol o aelodau gan dŷ'r Arglwyddi ac ar hyn o bryd, mae yna 779 ohonynt: rhai'n "Arglwydd Ysbrydol" sef esgobion Eglwys Loegr, nifer am oes, Arglwyddi etifeddol a 2 "Swyddog Mawr y Wladwriaeth".
O'r Arglwyddi Temporal, mae'r rhan fwyaf yn arglwyddi am oes, wedi'u penodi gan y Frenhines ar gyngor Prif Weinidog y Deyrnas Unedig neu Gomisiwn Penodi Tŷ'r Arglwyddi. Ceir hefyd rhai arglwyddi etifeddol.