Tŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig)

Mae AS (DU) yn cyfeirio yma. Am ystyron eraill, gweler AS (gwahaniaethu)
Tŷ'r Cyffredin Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon
57ain Senedd y DU
Coat of arms or logo
Gwybodaeth gyffredinol
MathTŷ Isaf Senedd y Deyrnas Unedig
Arweinyddiaeth
Llefarydd y TŷSyr Lindsay Hoyle
ers 4 Tachwedd 2019
Prif WeinidogRishi Sunak, Ceidwadwyr
ers 25 Hydref 2022
Arweinydd yr WrthblaidSyr Keir Starmer, Llafur
ers 4 Ebrill 2020
Cyfansoddiad
Aelodau650
UK House of Commons 2020.svg
Grwpiau gwleidyddolLlywodraeth y DU

Yr Wrthblaid

Eraill

Ymatalwyr

Llefarydd

Hyd tymorMwyafr. o 5 mlynedd
Etholiadau
System bleidleisioY cyntaf i'r felin
Etholiad diwethaf12 Rhagfyr 2019
Etholiad nesafCyn neu ar 2 Mai 2024
Newid ffiniauY Comisiwn Ffiniau
Man cyfarfod
House of Commons 2010.jpg
Siambr Tŷ'r Cyffredin
Palas San Steffan
Dinas San Steffan
Llundain
Y Deyrnas Unedig
Gwefan
Tŷ'r Cyffredin

Siambr isaf Senedd y Deyrnas Unedig yw Tŷ'r Cyffredin. Mae'n cynnwys 650 o aelodau (aelodau seneddol neu ASau), wedi'u hethol drwy system 'cyntaf i'r felin' bob pum mlynedd neu yn gynharach os datodir y tŷ gan y prif weinidog ynghynt na hynny. Lindsay Hoyle yw'r Llefarydd presennol.

Seddi Tŷ'r Cyffredin

Sefydlwyd Tŷ Cyffredin Lloegr rywbryd yn y 14g gan newid ei henw i 'Dŷ' Cyffredin Prydain Fawr' wedi uno'r Alban a Lloegr yn 1707, a newid unwaith eto yn y 19g i 'Tŷ'r Cyffredin Prydain Fawr ac Iwerddon' wedi'r Ddeddf Uno gydag Iwerddon. Bathwyd y term presennol yn 1922.

Dan Ddeddf 1911, lleihawyd grym Tŷ'r Arglwyddi i wrthod penderfyniadau Tŷ'r Cyffredin. Mae'r Llywodraeth yn swyddogol yn ddarostyngedig i Dŷ'r Arglwyddi - o ran cyfrifoldeb.

Erys y Prif Weinidog yn ei swydd tra bod ganddo/i gefnogaeth mwyafrif aelodau Tŷ'r Cyffredin. Rhoddir sêl bendith ar y Prif Weinidogaeth gan Frenhines y DU; mae'r person hwn fel arfer yn arweinydd y blaid fwyaf, ond nid o angenrheidrwydd. Gelwir arweinydd yr ail blaid fwyaf yn 'Arweinydd Gwrthblaid Ei Mawrhydi'. Ers 1963, drwy gonfensiwn, mae'r Prif Weinidog yn aelod o Dŷ'r Cyffredin yn hytrach na Thŷ'r Arglwyddi.

Daw'r enw 'Cyffredin' (neu 'commons') o'r gair Saesneg communes, sef gwahanol 'gymunedau' oddi fewn i'r Tŷ.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Current State of the Parties – UK Parliament. Adalwyd 12 Mawrth 2015.
  2. Pollard, A.F. (1920). The Evolution of Parliament. Longmans. tt. 107–08.