Valérie Trierweiler | |
---|---|
Ganwyd | Valérie Massonneau 16 Chwefror 1965 Angers |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | newyddiadurwr, ysgrifennwr, gwleidydd |
Swydd | spouse of the President of France |
Cyflogwr | |
Priod | Denis Trierweiler, Franck Thurieau |
Partner | François Hollande |
Plant | Léonard Trierweiler |
Gwobr/au | Uwch Cordon Urdd y Goron Anwyl |
llofnod | |
Awdur o Ffrainc yw Valérie Trierweiler (née Massonneau; ganwyd 16 Chwefror 1965) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel newyddiadurwr a gwleidydd. Mae wedi cadeirio rhaglenni teledu gwleidyddol ac wedi cyfrannu i'r cylchgrawn 'Paris Match'. Hyd at Ionawr 2014 hi oedd parter François Hollande, Arlywydd Ffrainc.
Fe'i ganed yn Angers ac wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Pantheon-Sorbonne, Prifysgol Gorllewin Paris a Nanterre La Défense. Priododd Denis Trierweiler ac mae Léonard Trierweiler yn blentyn iddi.
Ganwyd Valérie Massonneau yn Angers, y pumed plentyn o chwech. Roedd ei thad, Jean-Noël Massonneau, wedi colli ei goes ar ffrwydryn-tir yn ystod yr Ail Ryfel Byd, pan oedd yn 13, a bu farw yn 53 oed, pan oedd Valérie yn 21 oed. Roedd ei mam yn gweithio mewn derbynfa canolfan sglefrio iâ yn Angers yn dilyn marwolaeth ei gŵr.
Astudiodd Hanes a Gwyddor Gwleidyddol a chafodd radd Meistr mewn gwyddoniaeth wleidyddol gan Brifysgol Paris 1 Pantheon-Sorbonne.
Yn 2005, dechreuodd gynnal sioeau siarad gwleidyddol, yn enwedig cyfweliadau, ar sianel deledu Direct 8. Cyflwynodd y sioe siarad wleidyddol wythnosol Le Grand 8 tan 2007, a gyda Mikaël Guedj mae wedi cyd-gynnal y sioe wythnosol Politiquement parlant ("siarad yn wleidyddol") ers mis Medi'r flwyddyn honno.
Yn 2012, cyhoeddodd y byddai'n cadw ei chytundeb fel newyddiadurwr gyda'r cylchgrawn Paris Match er gwaethaf i'w chariad gael ei hethol yn Arlywydd Ffrainc.