Zaz

Zaz
FfugenwZaz Edit this on Wikidata
GanwydEnol Edit this on Wikidata
1 Mai 1980 Edit this on Wikidata
Tours Edit this on Wikidata
Label recordioPlay Two Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Ffrainc Ffrainc
Alma mater
  • Toulouse Conservatory school Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr-gyfansoddwr, artist recordio Edit this on Wikidata
Arddullchanson, cerddoriaeth boblogaidd, Canu gwerin, jazz, Gypsy jazz Edit this on Wikidata
Taldra1.62 metr Edit this on Wikidata
Gwobr/auMusic Moves Europe Award Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://zazofficial.com/ Edit this on Wikidata
llofnod

Cantores a chyfansoddwr Ffrengig yw Zaz (ganwyd 1 Mai 1980), sy'n cymysgu arddulliau jazz, cerddoriaeth ysgafn Ffrengig, soul ac acwstig. Ei henw iawn yw Isabelle Geffroy.

Cafodd Zaz ei geni yn Tours, yn ferch i athrawes Sbaeneg a thrydanwr. Astudiodd yn y Conservatoire de Tours. Yn 2000 enillodd ysgoloriaeth ac astudiodd yn Ysgol Cerddoriaeth Fodern Bordeaux, y Centre d'Information et d'Activités Musicales (CIAM). Daeth yn aelod o'r band "Fifty Fingers" yn 2001, ac wedyn yn y band Izar-Adatz o Wlad y Basg.

Un o'i chaneuon mwyaf adnabyddus yw "Je veux", o'i albwm cyntaf, Zaz, a ryddhawyd yn 2010. Ymhlith ei chaneuon mwyaf poblogaidd ar Youtube mae; Qué vendrá a ryddhawyd yn hydref 2018 ac a welwyd gan 74 miliwn o bobl erbyn Mai 2022; Eblouie par la nuit a ryddhawyd yn 2011 ac oedd wedi ei gwylio gan dros 54 miliwn erbyn Mai 2022. Roedd ei fersiwn o gân a ganwyd gan Edith Piaf, "Sous le Ciel de Paris" ("Dan Awyr Paris") oedd wedi ei gwylio dros 16 miliwn o weithiau erbyn Mai 2020. Erbyn Mai 2022 roedd ei chân "Imagine", a ryddhawyd ym mis Medi 2021, wedi ei gwylio dros 2.5 filiwn o weithiau ar Youtube.

Albymau

  • Zaz (2010)
  • Recto Verso (2013)
  • Paris (2014)
  • Effet miroir (2018)
  • Isa (2021)

Cyfeiriadau

  1. "interview et live de Zaz, chanteuse aux actualités A2" (yn Ffrangeg). 2424actu. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-06-10. Cyrchwyd 28 Mai 2010.
  2. "Zaz: de saltimbanque chanteuse de rue... au sommet des charts !" (yn Ffrangeg). Purepeople. Cyrchwyd 28 Mai 2010.
  3. "Zaz n'a pas la voix dans sa poche". Respectmag. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-15. Cyrchwyd 5 Ionawr 2011. (Ffrangeg)
  4. "Zaz, un brillo en la canción francesa". El País. 23 Gorffennaf 2015.
  5. "Qué vendrá". Zaz Official. 12 Hydref 2018.
  6. "Eblouie par la nuit". Zaz Official. 11 Tachwedd 2011.
  7. "Sous le ciel de Paris". Zaz. 19 Ionawr 2015.
  8. "Imagine". Zaz. Cyrchwyd 9 Mai 2022.