Édith Piaf | |
---|---|
Ffugenw | Édith Piaf |
Ganwyd | Édith Giovanna Gassion 19 Rhagfyr 1915 Paris |
Bu farw | 10 Hydref 1963 Grasse, 16ain bwrdeistref o Baris |
Man preswyl | Paris, Unol Daleithiau America, Normandi, Ffrainc |
Label recordio | Capitol Records, Pathé-Marconi, Columbia Records, Polydor Records, Philips Records |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | canwr, actor, artist recordio, chansonnier, artist stryd, cyfansoddwr caneuon |
Adnabyddus am | La Vie en rose, Milord, Non, je ne regrette rien |
Arddull | chanson, chanson réaliste, ballade |
Math o lais | contralto |
Taldra | 157 centimetr |
Tad | Louis Gassion |
Mam | Line Marsa |
Priod | Jacques Pills, Theophanis Lamboukas |
Partner | Marcel Cerdan, Louis Gérardin, Yves Montand, Unknown |
Plant | Marcelle Dupont |
Gwobr/au | Gwobr Neuadd Enwogion y Grammy, silver record, gold record, platinum record |
llofnod | |
Cantores o Ffrainc oedd Édith Piaf (ganed Édith Giovanna Gassion) (19 Rhagfyr 1915 – 11 Hydref 1963). Cafodd ei geni ym Mharis. Adlewyrchai'r caneuon a ganai ei bywyd, ac arbenigodd mewn canu caneuon serch. Ymhlith ei chaneuon enwocaf mae "La Vie en Rose" (1946), "Hymne à l'Amour" (1949), "Milord" (1959), "Non, Je Ne Regrette Rien" (1960), "l'Accordéoniste" (1955), "Padam... Padam..." (1951), a "La Foule" (1957).
Er gwaethaf nifer o gofiannau amrywiol, ceir cryn dipyn o ansicrwydd am fywyd Piaf. Fe'i ganed yn Édith Giovanna Gassion yn Belleville, Paris, a oedd yn ardal o fewnlifiad uchel. Yn ôl yr hanesion, cafodd eo geni ar bafin Rue de Belleville 72, ond dywed ei thystysgrif geni mai yn Hôpital Tenon y'i ganed.
Cafodd ei henwi'n Édith ar ôl nyrs Brydeinig o'r Ail Ryfel Byd, Edith Cavell, a ddienyddiwyd am helpu milwyr Ffrengig i ddianc rhag yr Almaenwyr. Roedd Piaf—a yn derm llafar am ddryw a daeth hyn yn ffugenw iddi ugain mlynedd yn ddiweddarach.