Math | nendwr |
---|---|
Agoriad swyddogol | 24 Ebrill 1913 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Tribeca |
Gwlad | UDA |
Cyfesurynnau | 40.7124°N 74.00822°W |
Arddull pensaernïol | yr Adfywiad Gothig |
Statws treftadaeth | New York City Landmark, lleoliad ar Gofrestr Llefydd Hanesyddol Cenedlaethol UDA, National Historic Landmark, New York City Landmark, New York State Register of Historic Places listed place |
Manylion | |
Nendwr cynnar yn Efrog Newydd yw Adeilad Woolworth (Saesney: Woolworth Building) a gwblhawyd ym 1913. Roedd yn adeilad talaf y byd hyd at 1930 pan adeiladwyd 40 Wall Street ac Adeilad Chrysler, hefyd yn Efrog Newydd. Mae’n sefyll yn ymyl ardal Tribeca ar ynys Manhattan. Cynlluniwyd yr adeilad gan Cass Gilbert i fod yn bencadlys i gwmni F.W. Woolworth yn Efrog Newydd.
Mae gan yr adeilad 60 llawr, ac mae'n sefyll 792 troedfedd uwchben Broadway. Erbyn hyn, mae yna fflatiau moethus ar y 33 llawr uchaf.