Alessandro Manzoni | |
---|---|
Ganwyd | Alessandro Francesco Tommaso Antonio Manzoni 7 Mawrth 1785 Milan |
Bu farw | 22 Mai 1873 Milan |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, bardd, gwleidydd, nofelydd, dramodydd |
Swydd | member of the Chamber of Deputies of the Kingdom of Sardinia |
Plaid Wleidyddol | Historical Right |
Tad | Giovanni Verri |
Mam | Giulia Beccaria |
Priod | Enrichetta Manzoni Blondel, Teresa Borri |
Plant | Pietro Luigi Manzoni |
Llinach | House of Manzoni |
llofnod |
Bardd a nofelydd Eidalaidd oedd Alessandro Manzoni (7 Mawrth 1785 – 22 Mai 1873) sydd yn nodedig am ei nofel hanesyddol I promessi sposi a ystyrir yn un o glasuron llên yr Eidal. Roedd yn genedlaetholwr Eidalaidd brwd yn ystod cyfnod y Risorgimento, ac mae ei farddoniaeth yn cyfleu ei Gatholigiaeth.
Ganed ym Milan, Dugiaeth Milan, yn fab i Pietro Manzoni, un o'r fân-bendefigaeth yn Lombardi, a'i wraig Giulia Beccaria, a oedd yn ferch i Cesare Bonesana, Marchese di Beccaria, diwygiwr cyfreithiol yn oes yr Oleuedigaeth. Mae'n debyg nad oedd Pietro yn dad biolegol Alessandro, ac ym 1792 gwahanodd Pietro a Giulia wedi saith mlynedd yn briod. Treuliodd Alessandro ei addysg mewn ysgolion preswyl Catholig, ac o ganlyniad i'r profiad hwnnw fe fagodd deimladau gwrthlglerigol yn ei ieuenctid.
Ym 1805 aeth Manzoni i fyw gyda'i fam, a'i chariad, ym Mharis. Yn ystod ei bum mlynedd yno bu'n cymdeithasu â deallusion a radicalwyr y ddinas, gan gynnwys yr idéologues, a chofleidiodd sgeptigiaeth Voltairaidd. Priododd â Henriette Blondel, merch 16 oed o Galfinydd, ym 1808.
Trodd Henriette yn Gatholig yn fuan wedi'r briodas, gyda chymorth offeiriad Jansenaidd, ac ym 1810 dychwelodd Manzoni ei hun at y ffydd ac ailgysegrwyd y briodas yn ôl y ddefod Gatholig Rufeinig. Symudasant i fila ym mhentref Brusuglio, ar gyrion Milan, ac yno cyfansoddodd Manzoni ei gylch o gerddi crefyddol, yr Inni sacri. Er iddo droi'n ôl at Gatholigiaeth, parhaodd i fynegi taliadau gwrthglerigiol, er enghraifft yn ei gerdd "Il trionfo della libertà" (1821). Yn y cyfnod hwn ysgrifennodd hefyd ei draethawd Osservazioni sulla morale cattolica (1819), yr awdl Marzo 1921, awdl er cof am Napoleon, Il cinque maggio (1822), a dwy drasiedi hanesyddol a ysbrydolwyd gan waith Shakespeare, Il conte di Carmagnola (1820) ac Adelchi (1822).
Cyhoeddwyd campwaith Manzoni, I promessi sposi, mewn tair cyfrol o 1825 i 1827. Dyma nofel a leolir yn Lombardi yn nechrau'r 17g ac yn ymwneud â gwrthryfel y Milaniaid yn erbyn y Hapsbwrgiaid yn y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain (1618–48) a'r Pla Mawr (1629–31). Fe'i ysgrifennwyd mewn iaith debyg i'r hyn a glywid ar lafar yn Fflorens, mewn ymgais i ffurfio ffurf lenyddol ar Eidaleg a fyddai'n eglur i ddarllenwyr ar draws yr Eidal. Erbyn yr argraffiad olaf o I promessi sposi a olygwyd ganddo (1840–42), llwyddodd Manzoni i ddileu'r holl briod-ddulliau hen ffasiwn o'i waith, a daeth y nofel hon yn fodel i lenorion Eidaleg iau.
Cafodd Alessandro a Henreitte 10 o blant, a bu farw wyth ohonynt yn ystod oes y tad. Bu farw Henriette ym 1833.
Penodwyd Manzoni yn seneddwr yn senedd gyntaf Teyrnas yr Eidal ym 1860. Fe'i urddwyd yn ddinesydd anrhydeddus Rhufain ym 1872. Bu farw ym Milan yn 88 oed. Mynychwyd ei angladd gwladwriaethol gan Umberto, Tywysog Safwy.