Mewn ffonoleg, un o set synau llafar (neu ffonau) posibl a ddefnyddir i ynganu ffonem yw aloffon (o'r Roeg: ἄλλος, állos, "arall" a φωνή, phōnē, "llais, sain"). Er enghraifft, mae (fel mewn pili-pala) ac (fel mewn clust ) yn aloffonau'r ffonem /l/ yn Gymraeg. Er bod aloffonau yn gynaniadau gwahanol ar gyfer yr un ffonem, gellir yn aml ragweld pa aloffon fydd yn cael ei dewis mewn sefyllfa benodol. Fel arfer, dydy newid aloffon y mae siaradwyr brodorol yn ei defnyddio mewn cyd-destun penodol ddim yn newdid ystyr y gair, ond mae'n bosibl bod y canlyniad yn swnio'n ddieithr neu'n annealladwy. Mae siaradwyr brodorol fel arfer yn canfod un ffonem yn eu hiaith fel sŵn unigrwy, unigol yn yr iaith honno ac maen nhw'n "ymwybodol o ac hyd yn oed yn cael eu synnu gan" yr amrywiadau aloffonegol a ddefnyddir i gynanu ffonemau unigol.[c 1]
Hanes y cysyniad
Cafodd y gair aloffon (yn Saesneg: allophone) ei fathu gan Benjamin Lee Whorf yn y 1940au. Wrth wneud hynny, cyfnerthodd ddamcaniaeth ffonemegol gynnar. Poblogeiddiodd G. L. Trager a Bernard Bloch y gair mewn papur 1941 am ffonoleg Saesneg, ac aeth y term i fod yn rhan o'r defnydd safonol yn nhraddodiad strwythuraidd Americanaidd.
↑Lee, Penny (1996). The Whorf Theory Complex — A Critical Reconstruction. John Benjamins. tt. 46, 88.CS1 maint: ref=harv (link)
↑Trager, George L. (1959). "The Systematization of the Whorf Hypothesis". Anthropological Linguistics (Operational Models in Synchronic Linguistics: A Symposium Presented at the 1958 Meetings of the American Anthropological Association) 1 (1): 31–35.
↑Hymes, Dell H.; Fought, John G. (1981). American Structuralism. Walter de Gruyter. t. 99.CS1 maint: ref=harv (link)