Alys | |
---|---|
Cerdyn teitl yr ail gyfres | |
Genre | Drama |
Crëwyd gan | Siwan Jones |
Ysgrifennwyd gan | Siwan Jones |
Cyfarwyddwyd gan | Gareth Bryn Lee Haven-Jones Rhys Powys Dylan Richards |
Yn serennu | Sara Lloyd-Gregory prif gast |
Cyfansoddwr/wyr | Strange Village |
Gwlad | United Kingdom |
Iaith wreiddiol | Cymraeg (prif iaith) Saesneg (ychydig) |
Nifer o gyfresi | 2 |
Nifer o benodau | 16 (rhestr penodau) |
Cynhyrchiad | |
Cynhyrchydd/wyr gweithredol | Jon Williams |
Cynhyrchydd/wyr | Paul Jones |
Golygydd(ion) | Dafydd Hunt |
Lleoliad(au) | Barri • Aberhonddu • Caerdydd |
Gosodiad camera | Camera sengl |
Hyd y rhaglen | 52–56 munud |
Cwmni cynhyrchu | Apollo |
Dosbarthwr | Boomerang |
Rhyddhau | |
Rhwydwaith gwreiddiol | S4C S4C Clirlun (HD) |
Fformat y llun | 576i (16:9 SDTV) 1080i (HDTV) |
Fformat y sain | Dolby Digital 5.1 |
Darlledwyd yn wreiddiol | 23 Chwefror 2011 – 30 Rhagfyr 2012 |
Dolennau allanol | |
Gwefan |
Cyfres ddrama Gymraeg oedd Alys, a grëwyd gan y sgriptiwr arobryn Siwan Jones. Mae'r gyfres yn dilyn mam sengl, Alys, sy'n symud i ffwrdd o Gaerdydd i fflat llwm mewn tref fach yng ngorllewin Cymru gyda'i mab 10 mlwydd oed, Daniel, wrth geisio dianc rhag ei gorffennol.
Mae Alys yn cael ei phortreadu gan yr actores Sara Lloyd-Gregory, mewn rôl a gafodd ei ysgrifennu yn arbennig ar ei chyfer. Y sioe oedd ei thro cyntaf mewn rôl arweiniol. Roedd yr actorion arall yn cynnwys William Thomas ac Aneirin Hughes, a weithiodd gyda Gregory ar Con Passionate, cyfres ddrama deledu arall a ysgrifennwyd gan Siwan Jones. Cynhyrchwyd y sioe gan gwmni Apollo ar gyfer S4C. Dechreuodd y gyfres ar ddydd Sul, 23 Ionawr 2011, fel rhan o arlwy'r flwyddyn newydd ar S4C.
Cafwyd ffigyrau gwylio da ar gyfer y gyfres gyntaf, gyda'r bennod gyntaf yn denu 61,000 gwyliwr a ffigwr uchaf y gyfres yn 71,000 gwyliwr ym mhennod tri. Gwelwyd dirywiad yn y gwylwyr yn yr ail gyfres, gyda sgôr hynod o isel o 27,000 gwyliwr ar gyfer pennod chwech, gyda chynnydd bychan ar gyfer y penodau dilynol. Gwyliwyd y bennod olaf gan 37,000 o wylwyr.
Hyd yn hyn, cynhyrchwyd a darlledwyd dwy gyfres o Alys; y cyntaf yn gynnar yn 2011, a darlledwyd yr ail gyfres yn hwyr yn 2012. Nid oes sôn am drydedd cyfres yn cael ei gomisiynu.
Mae'r gyfres wedi ei henwebu ddwywaith yn 2012, yn gyntaf ar gyfer Cyfryngau Celtaidd Wobr ac yna Gwobr BAFTA Cymru. Yn 2013, cafodd y gyfres ei henwebu ar gyfer tair gwobr BAFTA Cymru; ac ennill dwy, gan gynnwys Sara Lloyd-Gregory yn derbyn y wobr am yr Actores Orau.
Crëwyd a ysgrifennwyd Alys gan Siwan Jones, awdur oedd wedi ennill BAFTA Cymru Award a Rose d'Or am ei gwaith ar y cyfresi teledu uchel eu parch Tair Chwaer a Con Passionate.
Ysgrifennwyd y prif gymeriad, Alys yn arbennig ar gyfer yr actores Sara Lloyd-Gregory. Roedd wedi cyfarfod Jones yn 2009 ac wedi cydweithio gyda hi ar y trydedd gyfres o Con Passionate, ac roedd yn ei meddwl i chwarae'r brif ran yn y gyfres ddrama newydd. Cyfaddefodd Gregory nad oedd yn gwybod fod y rhan wedi ei ysgrifennu ar ei chyfer, a bod hynny yn beth da, am fod dal iddi rhaid gwneud clyweliad ac fe fyddai wedi teimlo mwy o bwysau.
Daeth y syniad ar gyfer Alys i Jones tra roedd yn siopa mewn tref fach yng ngorllewin Cymru. Roedd yn gwylio wrth i grŵp o bobl gario dodrefn wrth iddi gerdded o'r maes parcio tuag at y dref. Y tu ôl iddynt roedd twnnel dywyll yn arwain at galon adeilad; tra eu bod yn cerdded, roedd plant yn eu dilyn, ac wrth iddi wylio, sbardunodd hyn ddelwedd ar gyfer y gyfres a ddaeth yn Alys. Syniad Jones ar y dechrau oedd creu dau fyd; un gyda phobl dosbarth gweithiol yn berchnogion siop yn y dref fach; ac eraill a oedd yn ddi-waith ac yn ei chael yn anodd cadw dau ben llinyn ynghyd, megis cymeriad Sara Lloyd-Gregory, 'Alys'. Roedd hi'n anelu i ddangos pa mor wahanol mae'r ddau fyd yma ac eto pa mor debyg maen nhw.
"Wy’n hoff iawn o Alys. Wy’n lico ei bod hi mor gryf. A bod ’na reswm y tu ôl i bopeth mae’n ei wneud. Dyw hi ddim yn berson drwg."
Canolbwynt y stori yw cymeriad Alys wrth iddi symud i dref fach yng ngorllewin Nghymru gyda'i mab 10 mlwydd oed Daniel ar ôl ffoi rhag ei bywyd cythryblus yng Nghaerdydd; mae hi'n bwriadu dechrau bywyd newydd ac yn gwneud unrhyw beth yn ei gallu i gael dau ben llinyn ynghyd ac i edrych ar ôl Daniel. Mae hyn yn cynnwys gweithgarwch troseddol, megis dwyn a phuteindra. Mae gan ei mab freuddwydion am symud i America un dydd a dod yn ofodwr; mae Alys yn ceisio gwireddu ei freuddwyd. Yn ei chymuned newydd, mae rhai o'r bobl dosbarth canol yn ei beirniadu am ei chefndir ac yn elyniaethus tuag ati. Fodd bynnag, mae hi'n llwyddo i wneud ffrindiau a chael ei derbyn gan rhai pobl o fewn yr ardal.
Crëwyd a ysgrifennwyd Alys yn gyfan gwbl gan Siwan Jones. Cynhyrchydd y gyfres oedd Paul Jones gyda Jon Williams yn gynhyrchydd gweithredol. Yn y tymor cyntaf, cyfarwyddodd Gareth Bryn y bennod beilot a'r ail bennod; gyda Lee Haven-Jones a Rhys Powys yn cyfarwyddo penodau dilynol, yn y drefn honno. Cyfarwyddwyd rhan fwyaf o gyfres dau gan Rhys Powys. gyda Dylan Richard yn cyfarwyddo un bennod, a'r gweddill gan Paul Jones.
Cymraeg yw iaith y gyfres i gyd heblaw am ambell olygfa lle siaredir Saesneg. Cyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Strange Village.
Cychwynnodd cynhyrchiad cyfres gyntaf Alys yn ystod haf 2010, tra cynhyrchwyd yr ail gyfres o fis Mawrth 2012 gan Deledu Apollo. Cafodd y gyfres ei ffilmio ar leoliad yn bennaf yng Nghaerdydd, Aberhonddu ac yn nhref glan môr y Barri.
Darparodd cwmni Road2Reel yr holl gerbydau ar gyfer y gyfres.
Mae Alys, mam ifanc yn cyrraedd tref fechan yng Ngorllewin Cymru, ar ôl dianc ei gorffennol cythryblus yng Nghaerdydd lle bu farw ei brawd o orddos cyffuriau a lladdwyd ei brawd mewn damwain car. Mae'n benderfynol i roi bywyd gwell i'w mab deng mlwydd oed, Daniel. Mae gan Daniel freuddwyd o ryw ddydd symud i America i ddod yn astronot av mae Alys yn benderfynol o wireddu ei freuddwyd. Ar ôl cyrraedd, mae'n rhentu fflat o Eirwyn Toms, perchennog garej lleol. Mae Alys yn gwneud popeth i gael deupen llinyn ynghyd, yn cynnwys lladrata, blacmel a phuteindra, yn cynnwys gyda Toms sy'n dod yn gleient rheolaidd. Yn yr adeilad lle mae Alys yn byw, mae'n gwneud ffrindiau newydd gyda'i chymdogion, brodyr Kevin a Shane a chariad Kevin, Ceri - merch ifanc ofidus a chafodd ei threisio a dod yn feichiog. Mae Alys yn ffurfio perthynas glos gyda William, cyn weinidog ac alcoholig sy'n byw fyny grisiau, ond mae nai William, Iestyn yn anhapus a'r berthynas.
Mae sawl unigolyn yn yr ardal yn anghyfeillgar i Alys yn cynnwys gwraig Toms, Heulwen sy'n galw Alys yn "trailer trash" ac yn enwedig Angie, gwraig y cogydd lleol Chris, sy'n cael perthynas gudd gydag Alys. Pan mae Angie yn darganfod y berthynas mae'n dweud wrth Alys mai nad dyma'r tro cyntaf iddo gael affair. Mae Debbie, perchennog y siop ddillad isaf islaw'r fflat yn darganfod fod Alys wedi dwyn sawl peth o'r siop. Pan mae gŵr Debbie, maer y dref Ron yn cynnig swydd i Alys a Ceri yn glanhau ei dŷ, mae Debbie yn rhybuddio Alys i gadw draw. Mae Debbie yn gwneud darganfyddiad dychrynllyd arall pan mae'n datguddio cyfrinach Ron – fod ei liniadur yn cynnwys lluniau o ferched ifanc ac mae Toms a Ron fewn ar y cynllwyn. Mae Alys yn dod i sylweddoli fod ganddi fwy i boeni amdano na'r hyn mae pobl y dref yn feddwl ohoni; mae hi a William yn dod o hyd i'r gyrrwr tacsi, Terry a dreisiodd Ceri ac maen nhw'n benderfynol o wneud iddo dalu. Fodd bynnag, nid yw Alys yn barod pan mae Terry yn ymosod arni yn ddiweddarach.
Nes ymlaen ddatgelir mai Heulwen yw ei modryb, chwaer ei mam, a pan ladretir tŷ Ron, mae Alys yn cael gafael ar ei liniadur ac yn darganfod y lluniau. Mae hi'n cadw'r gliniadur a mynnu cael arian i'w roi nôl. Mae'n cael ymosodiad treisgar gan Toms ac yn ddiweddarach dau labwst y mae Ron wedi danfon i geisio cael y gliniadur, sydd nawr ar goll. Pan mae'r llabystiaid yn cyrraedd a gweld nad yw Alys yno, maen nhw'n ymosod ar William gan ei adael fel petai'n farw. Pan mae William yn yr ysbyty mae Alys yn datgelu mai hi achosodd damwain car ei chariad ac yn ddiweddarach heb iddi wybod mae William yn cael ei adael o'r ysbyty ac yn cael ei fygwch gan Iestyn i gadw oddi wrtho. Mae Ceri yn bwriadu mynd i angladd merch yn ei arddegau a dreisiwyd a llofruddiwyd yn ddiweddar pan mae'n cyrraedd tŷ'r ferch gyda neb tu fewn heblaw Terry. Yn y cyfamser mae gan Toms gynllun dichellgar i losgi lawr y garej a hawlio arian yr yswiriant ac yn gofyn i Shane i helpu. Tra bod Alys a Daniel yn gorwedd ar lawr fflat wag William, mae Daniel yn datgelu mai ganddo fe oedd y gliniadur coll a'i fod wedi ei gadw yn saff. Yn fuan maen nhw'n clywed ffrwydrad yn y pellter a gweld fod garej Tom ar dân.
Wedi darganfod fod y gliniadur wedi ei guddio gan Daniel, mae Alys yn mynd at Debbie a'i blacmelio i roi arian iddi er mwyn cael y gliniadur nôl. Yn dilyn ffrwydrad yn y garej, mae Shane yn mynnu cael arian o Toms am wneud y weithred. Mae corff Ceri yn cael ei ollwng mewn afon gerllaw. Mae deuddeg mis yn pasio, nid oes neb yn gwybod lle mae William. Mae Alys yn symud mewn i dy gyferbyn a Bessie, Kevin a Shane yn ddiarwybod o'i thwyll gyda'r gliniadur er mwyn cael swm mawr o arian ac mae'n poeni y bydd y gyfrinach yn cael ei ddatgelu unwaith i Debbie a Ron ddychwelyd o wyliau yn Sbaen. Mae Alys yn benderfynol o ddod o hyd i'r gwirionedd am lofruddiaeth Ceri ac mae'n siŵr fod Terry y gyrrwr tacsi tu ôl i'r peth ac am wneud iddo dalu.
Yn y cyfamser, nid yw Heulwen yn gallu talu'r morgais ar ei chartref yn dilyn methdaliad Toms a'i chwalfa feddyliol, ac yn cael ei gorfodi i fyw mewn carafan yn yr ardd gefn, gyda ymweliadau cyson o Alys sydd nawr yn gwybod fod yn fodryb iddi. Mae cwpl ifanc, Dylan a'i wraig feichiog Llio, yn penderfynu rhentu'r tŷ ond dyw Dylan ddim yn hapus fod Heulwen yn byw yn yr ardd. Mae Llio yn credu fod endid uwch-naturiol yn y tŷ pan mae pethau anesboniadwy yn dechrau digwydd. Nid yw Dylan wedi ei argyhoeddi o hyn. Fodd bynnag, mae Heulwen yn dweud y gallai fod yn ysbryd ei merch. Sara. Mae mab Bessie, Phil, yn dychwelyd ar ôl cael ei ryddhau o garchar am lofruddio ei gariad; mae'n dechrau syrthio mewn cariad gydag Alys, ac er bod hithau yn teimlo'r un fath, mae'n dechrau cael amheuon pan mae Martin, brawd cyn cariad Phil yn ymddangos a dechrau ei boenydio, gan orfodi Alys i wneud penderfyniad anodd os yw'n gallu ymddiried yn Phil. Mae Chris yn dod yn eiddigeddus pan fod Simon, hen ffrind ysgol i Angie yn symud i'r ardal, ac yn argyhoeddedig fod gan Simon obsesiwn gyda hi. Mae William yn dychwelyd a symud mewn gydag Alys.
Darlledwyd Alys am y tro cyntaf ar S4C ar 23 Ionawr 2011, gydag isdeitlau Saesneg. Roedd yn darlledu ar nosweithiau Sul am 9.00 pm gyda'r penodau yn cael eu ail-ddarlledu ar ddydd Iau am 10.00 pm. Roedd wyth pennod yng nghyfres un a daeth y gyfres i ben ar 13 Mawrth 2011.
Cafodd gwylwyr gyfle i gael rhagolwg o'r bennod gyntaf rhai diwrnodau cyn iddo gael ei darlledu ar y teledu. Roedd rhagolwg i'w weld mewn digwyddiadau yn Neuadd Ddinesig Llandeilo ar ddydd Llun 17 Ionawr am 7.30 pm, Neuadd JP Prifysgol Bangor ar ddydd Mawrth 18 Ionawr, a Theatr Brycheiniog yn Aberhonddu ar ddydd Gwener 21 Ionawr. Yn dilyn y sgrinio, roedd cyfle i'r gynulleidfa drafod y sioe a gofyn cwestiynau i'r panel yn gysylltiedig â'r gyfres, gan gynnwys Siwan Jones, Sara Lloyd-Gregory a'r cynhyrchydd Paul Jones.
Cychwynnodd ail gyfres Alys ar S4C ar ddydd Sul 11 Tachwedd 2012 am 9.00 pm, gyda ailddarllediadau o ddydd Mercher 14 Tachwedd 2012 am 10.00 pm. Roedd wyth pennod yn y gyfres, gan orffen ar ddydd Sul 30 Rhagfyr 2012. Roedd unwaith eto ar gael gydag isdeitlau Saesneg ar alw, ond wedi llosgi ar y sgrîn yn yr ailddarllediadau.
Cafodd y sioe ei darlledu mewn manylder uwch ar sianel Freeview S4C Clirlun, oedd ar gael yng Nghymru yn unig. Fodd bynnag, caewyd y sianel hon ar 1 Rhagfyr 2012 felly darlledwyd y pum pennod olaf o'r ail gyfres ar y sianel diffiniad safonol yn unig.
Ar ôl eu darlledu, roedd cyfres un a dau i'w gweld ar-lein am 35 diwrnod yn unig ar wasanaeth ar-lein S4C, Clic.
Fe gynghorwyd na ddylai unrhyw un o dan 16 oed wylio oherwydd iaith gref. Ar wahân i'r iaith, roedd y sioe hefyd yn cynnwys golygfeydd o drais cryf, rhyw, trais rhywiol a themâu oedolion cryf.
Roedd y gyfres ar gael i'w wylio yng ngweddill gwledydd Prydain, drwy sianel S4C ar lwyfan Sky. Roedd y penodau ar Clic hefyd ar gael i wylwyr yng ngweddill y DU.
Hyd at 2016, nid yw Alys wedi ei ail-ddarlledu heblaw am y darllediad gwreiddiol. Nid oes cynlluniau wedi ei gwneud i ddangos Alys eto ac mae'n ansicr ar hyn o bryd os bydd y gyfres yn cael ei ail-ddarlledu ar S4C. Nid oes cynlluniau ar hyn o bryd i ryddhau'r gyfres ar DVD neu Blu-ray.
Nid oes trydedd gyfres o Alys wedi ei gomisiynu, er bod yr ail gyfres wedi gorffen gyda cliffhanger. Ar hyn o bryd ystyrir fod y gyfres wedi dod i ben.
Roedd adolygiadau ar gyfer y gyfres yn gadarnhaol yn gyffredinol. Ar hyn o bryd mae ganddo raddfa o 8.3/10 ar yr Internet Movie Database.
Blwyddyn | Gwobr | Digwyddiad | Categori | Derbynnydd | Canlyniad |
---|---|---|---|---|---|
Cyfres Ddrama Orau | Alys | Enwebwyd | |||
Cyfarwyddwr Gorau | Gareth Bryn | Enwebwyd | |||
Ffotograffiaeth A Golau | Richard Wyn Hughes | Enwebwyd | |||
Cerddoriaeth Wreiddiol | Strange Villa | Enwebwyd | |||
Awdur | Siwan Jones | Enwebwyd | |||
Dylunio Cynhyrchiad | Gerwyn Lloyd | Buddugol | |||
Awdur Gorau | Siwan Jones | Enwebwyd | |||
Yr Actores Orau | Sara Lloyd-Gregory | Buddugol | |||
Ffotograffiaeth A Goleuo | Richard Wyn | Buddugol | |||
Cyfres Ddrama Orau | Alys | Enwebwyd |
Yng nghyfres cyfres gyntaf Alys defnyddiwyd teitlau agoriadol syml gyda teitl a cherddoriaeth am tua 5 eiliad heb enwau cast. Defnyddiwyd cerddoriaeth thema'r gyfres dros yr agoriad. Er ei fod yn cael ei chwarae'n llawn dros y teitlau cloi, yn y bennod gyntaf ymddangos y teitl cyn yr olygfa agoriadol. Dilynodd pob pennod ddilynol y drefn yma, ond yn cynnwys crynodeb o'r bennod gyntaf cyn y teitl.
Yn yr ail gyfres, defnyddiwyd fersiwn mwy cyfoes o'r teitl agoriadol a 5 eiliad o'r gerddoriaeth. Newidiwyd ffont y teitl a ychwanegwyd testun yn dweud "gan Siwan Jones". Roedd pennod gyntaf yr ail gyfres yn cynnwys crynodeb estynedig o ddigwyddiadau cyfres un. Yn dilyn y teitl, dangoswyd ôl-fflach o bennod olaf cyfres un wedi ei gymysgu gyda golygfeydd newydd. Yn dilyn y bennod yma, dangoswyd y teitl cyn y crynodeb. Dangoswyd y crynodeb i'r ail gyfres mewn agwedd 2.35:1 a newidiwyd y gerddoriaeth ychydig.
|date=
(help)