Anggun | |
---|---|
Ganwyd | Ciptaa Anggun Sasmi 29 Ebrill 1974 Jakarta |
Label recordio | Warner Music Group, Harpa Records, Universal Music Group, Sony Music Entertainment, TF1 Group |
Dinasyddiaeth | Indonesia, Ffrainc |
Galwedigaeth | canwr-gyfansoddwr, canwr, dyngarwr, artist recordio, actor, television personality |
Cyflogwr | |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd, rhythm a blŵs, cerddoriaeth y byd, cerddoriaeth roc, urban contemporary |
Taldra | 1.63 metr |
Priod | Cyril Montana, Christian Kretschmar-Anggun |
Gwobr/au | chevalier des Arts et des Lettres, Tatler 500 Indonesia, Asia's Most Influential Indonesia |
Gwefan | http://www.anggun.com |
Cantores Ffrengig yw Anggun Cipta Sasmi (ganed 29 Ebrill 1974 yn Jakarta, Indonesia). Yr artist Indonesaidd cyntaf i gael llwyddiant yn siartiau senglau Ewropeiaidd ac Americanaidd yw Anggun. Mae hi wedi cael nifer o wobrau am ei gyflawniadau, yn cynnwys derbyn y Chevalier des Arts et Lettres oddi wrth Gweinidog Diwylliant Ffrainc. Mae Anggun wedi cymryd rhan mewn gwaith amgylcheddol a dyngarol hefyd. Mae hi wedi cael ei benodi fel y llysgennad byd-eang y Cenhedloedd Unedig ddwywaith, y tro cyntaf yn y Blwyddyn Ryngwladol Meicrocredyd yn 2005 ac eto yn y Sefydliad Bwyd ac Amaeth yn 2009. Bydd Anggun yn cynrychioli Ffrainc yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2012 a gynhelir yn Baku, Aserbaijan gyda'i chân "Echo (You and I)".