Enghraifft o'r canlynol | iaith fyw, iaith |
---|---|
Math | Ieithoedd Basgaidd, Ieithoedd De Ewrop |
Label brodorol | Euskara |
Rhan o | langues régionales de France, iaith swyddogol, languages of Europe |
Yn cynnwys | Biscayan, Gipuzkoan dialect, Upper Navarrese, Navarro-Labourdin, Eastern Navarrese, tafodiaith Souletin, Alavese Basque, Salazarese, Standard Basque |
Rhagflaenydd | Hen Fasgeg |
Enw brodorol | Euskara |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | eu |
cod ISO 639-2 | baq, eus |
cod ISO 639-3 | eus |
Gwladwriaeth | Sbaen, Ffrainc |
Rhanbarth | Gwlad y Basg |
System ysgrifennu | Yr wyddor Fasgeg, yr wyddor Ladin |
Corff rheoleiddio | Euskaltzaindia |
Gwefan | http://www.euskaltzaindia.net |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Iaith Gwlad y Basg yw Basgeg (Basgeg: Euskara; ceir hefyd y ffurfiau Euskera, Eskuara ac Üskara). Siaredir hi gan dros 700,000 o bobl yng Ngwlad y Basg, y mwyafrif llethol ohonynt yn Sbaen. Ynghyd â'r Sbaeneg, mae hi'n iaith swyddogol o fewn Cymunedau Ymreolaethol Gwlad y Basg.
Nid yw'r Fasgeg yn perthyn i deulu'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd fel y rhan fwyaf o ieithoedd eraill Ewrop. Mae hi'n iaith arunig, hynny yw, nid oes perthynas hanesyddol rhyngddi hi ac unrhyw iaith arall, er bod rhai cysylltiadau dadleuol ag ieithoedd y Cawcasws wedi cael eu hawgrymu. Mae'n bosibl felly ei bod yn oroeswr o'r ieithoedd a siaradwyd yng ngorllewin Ewrop cyn dyfodiad yr ieithoedd Indo-Ewropeaidd.
Ceir olion o'r Fasgeg o'r cyfnod Rhufeinig mewn arysgrifau yn yr iaith Acquitaneg o'r dalaith Rufeinig Gallia Aquitania. Y dystiolaeth bwysicaf yw cyfres o arysgrifau Lladin sy'n cynnwys tua 400 o enwau personol a 70 o enwau duwiau. Mae'r rhain yn awgrymu fod gan yr iaith berthynas glos a'r iaith Fasgeg neu'n dafodiaith o'r Fasgeg.
Mae gramadeg y Fasgeg yn wahanol i ramadeg y Gymraeg a ieithoedd Indo-Ewropeaidd eraill mewn nifer o ffyrdd. O ran cyflyrau gramadegol, nid yw'r Fasgeg yn defnyddio'r system enwol-gwrthrychol - yn hytrach, mae'n defnyddio'r cyflwr absolutibo ar gyfer yr asiant gyda berfau cyflawn a gwrthrych berfau anghyflawn, a'r ergatibo ar gyfer goddrych berfau anghyflawn.
Ergatibo–absolutibo | Enwol–gwrthrychol | |
---|---|---|
A= asiant (goddrych) berf anghyflawn | ERG | ENWOL |
O= gwrthrych berf anghyflawn | ABS | GWRTHRYCHOL |
S= asiant berf anghyflawn | ABS | ENWOL |
Dyma enghraifft syml:
Berf cyflawn | Berf anghyflawn | |
---|---|---|
Basgeg | Martin etorri da. | Martinek txakur ikusi du. |
Cymraeg | Mae Martin wedi cyrraedd. | Gwelodd Martin gi. |
Sylwadau | Y cyflwr absolutibo yn Basgeg, y cyflwr enwol yn Gymraeg. | Yn y Fasgeg, rhaid ychwanegu -ek er mwyn dangos mai Martin yw'r goddrych, gan adael y gair txakur (ci) yn y cyflwr absolutibo.
Yn y Gymraeg, rhaid treiglo'r gair "ci" yn feddal er mwyn dangos mai'r ci yw'r gwrthrych, gan adael y gair Martin yn y cyflwr enwol. |
Llafariad blaen | Llafariad canol | Llafariad cefn | |
---|---|---|---|
Llafariad agos | i /i/ |
u /u/ | |
Llafariad canolig | e /e/ |
o /o/ | |
Llafariad agored | a /a/ |
Gwefusol | Llafnol- Deintiol |
Abigol- Alfeolaidd |
Taflodol neu Ôl-daflodol |
Felar | Glotol | ||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Trwynol | m /m/ |
n /n/ |
ñ, -in- /ɲ/ |
||||
Ffrwydrol | Di-lais | p /p/ |
t /t/ |
tt, -it- /c/ |
k /k/ |
||
Lleisiol | b /b/ |
d /d/ |
dd, -id- /ɟ/ |
g /ɡ/ |
|||
Affrithiol | Di-lais | tz /t̪s̻/ |
ts /t̺s̺/ |
tx /tʃ/ |
|||
Ffrithiol | Di-lais | f /f/ |
z /s̻/ |
s /s̺/ |
x /ʃ/ |
h /∅/, /h/ | |
fel arfer1 Lleisiol | j /j/~/x/ |
||||||
Ochrol | l /l/ |
ll, -il- /ʎ/ |
|||||
Rhotig | Crych | r-, -rr-, -r /r/ |
|||||
Trawol | -r- /ɾ/ |
Trefnwyd gwersi Basgeg bob dydd adeg Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2008 gan Gymdeithas yr Iaith.
Mae Cyfieithiadau i'r Gymraeg o ambell i stori fer, yn bennaf yn y cylchgrawn Breizh-Llydaw, a gyhoeddir gan Gymdeithas Cymru-Llydaw:
|