Cas gan fwnci

Cas gan fwnci
Parc Cenedlaethol Lanin, yr Ariannin.
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Pinophyta
Dosbarth: Pinopsida
Urdd: Pinales
Teulu: Araucariaceae
Genws: Araucaria
Rhywogaeth: A. araucana
Enw deuenwol
Araucaria araucana
(Molina) K. Koch
Cyfystyron

Araucaria imbricata

Conwydden o Dde America sy'n perthyn i deulu'r Araucariaceae yw'r cas gan fwnci neu binwydden Chile (Araucaria araucana). Mae'n gynhenid i ganolbarth Tsile a gorllewin yr Ariannin lle mae'n tyfu mewn pridd folcanig ar lethrau'r Andes a'r cadwyn Nahuelbuta. Mae'n goeden boblogaidd mewn parciau a gerddi yn rhanbarthau tymherus y byd.

Dail a chonau benywaidd

Mae gan y goeden aeddfed foncyff hir a syth sy'n cyrraedd uchder o 30-50 medr. Mae coron o ganghennau ar dop y boncyff sy'n debyg i barasol. Mae'r dail yn wyrdd tywyll, pigog a lledraidd. Mae'r coed benywaidd yn cynhyrchu conau mawr a chrwn sy'n cynnwys 200 neu fwy o gnau. Mae conau'r coed gwrywaidd yn hirgul ac maent yn cynnwys paill.

Mae'r goeden yn bwysig i'r bobl Mapuche sy'n gwneud defnydd o'r pren, y resin a'r cnau bwytadwy. Defnyddiwyd y boncyffion i wneud hwylbrennau llongau yn y gorffennol. Coeden genedlaethol Tsile yw'r cas gan fwnci.

Cyfeiriadau

  • Chester, Sharon (2008) A Wildlife Guide to Chile, A&C Black, Llundain.
  • Johnson, Owen & David More (2004) Collins Tree Guide, Collins, Llundain.

Dolenni allanol

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: