Yn y corff, math o organ ydyw chwarren (lluosog: 'chwarennau') sy'n creu ac yn rhyddhau hormonau a chemegolion eraill, yn aml i mewn i'r gwaed neu fannau eraill. Ceir sawl math o chwarren yn y corff dynol ac mewn anifeiliaid eraill. Mae'r chwarennau poer yn secretu poer, fel yr awgryma'r gair.
Mathau
Gellir dosbarthu chwarrennau i ddau ddosbarth:
Chwarennau endocrin (diddwythell) — chwarennau sy'n secretu'n (Sa: secrete) uniongyrchol yn hytrach na thrwy ddwythell.
Chwarennau ecsocrin (allnawsiol) — sy'n secretu eu cynnwys drwy dwythell (Sa: duct). Ceir tri math: