Eglwys Asyriaidd y Dwyrain

Eglwys Gadeiriol Sant Ioan Fedyddiwr yn Ankawa, Arbil, yng ngogledd Irac.

Un o eglwysi Cristnogol y Dwyrain yw Eglwys Asyriaidd y Dwyrain, yn llawn Eglwys Asyriaidd Catholig Apostolaidd Sanctaidd y Dwyrain. Defnyddir Syrieg yn iaith litwrgïaidd yr eglwys.

Mae Eglwys Asyriaidd y Dwyrain yn honni llinach â'r Eglwys Nestoraidd, yr eglwys gyfundrefnol gyntaf yn y Gristionogaeth, a sefydlwyd ar sail dysgeidiaeth Nestorius yn y 5g. Mae nifer o Asyriaid yn ystyried yr eglwys hon yn eglwys genedlaethol iddynt. Mae nifer o Gristnogion neo-Aramaeg sydd yn aelodau'r Eglwys Gatholig Galdeaidd a'r Eglwys Uniongred Syrieg yn ystyried eu hunain yn Asyriaid hefyd.

Cyfeiriadau

  1. Erica McClure, "Language and identity in the Assyrian diaspora", Studies in the Linguistic Sciences 31:1 (2001), t. 109.

Dolen allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.