Math | basilica minor, basilica patriarchaidd, eglwys gadeiriol |
---|---|
Enwyd ar ôl | Beddrod yr Iesu |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Hen Ddinas Caersalem |
Gwlad | Palesteina |
Cyfesurynnau | 31.7784°N 35.2298°E |
Hyd | 120 metr |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Cristnogaeth Fore, pensaernïaeth Romanésg, pensaernïaeth Gothig |
Sefydlwydwyd gan | Cystennin I, Helena o Gaergystennin |
Cysegrwyd i | Beddrod yr Iesu |
Crefydd/Enwad | Cristnogaeth, yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol, yr Eglwys Gatholig Rufeinig |
Deunydd | craig |
Esgobaeth | Eglwys Uniongred Roegaidd Jeriwsalem, Patriarchaeth Ladin Jeriwsalem |
Eglwys hynafol yn Chwarter Cristnogol dinas Jeriwsalem yw Eglwys y Beddrod Sanctaidd (Groeg: Παναγίου Τάφου; Armeneg: Սուրբ Հարության տաճար; Lladin: Ecclesia Sancti Sepulchri; Amhareg: የቅዱስ መቃብር ቤተክርስቲያን; Hebraeg: כנסיית הקבר; Arabeg: كنيسة القيامة). Yn ôl traddodiad o'r 4g OC, mae'n cynnwys dwy safle sancteiddiaf y byd Cristnogol: y safle lle croeshoeliwyd Iesu Grist, mewn man o'r enw Calfaria neu Golgotha, a bedd gwag yr Iesu, lle cred rhai Cristnogion iddo gael ei gladdu a'i atgyfodi. Amgaeir y beddrod gan gysegrfa o'r 19g a elwir yn yr aedicula. Mae cytundeb a elwir yn Status Quo yn ddealltwriaeth rhwng cymunedau crefyddol sy'n dyddio i 1757, ac yn berthnasol i'r safle hwn.
O fewn yr eglwys ceir pedair lleoliad diwethaf y Groes ar y Ffordd Ddolurus (Lladin: Via Dolorosa), sy'n cynrychioli pedwar rhan o ddyddiau olaf Crist. Bu'r eglwys yn gyrchfan pererindod Gristnogol o bwys ers ei chreu yn y 4g, fel safle traddodiadol atgyfodiad Crist, a roddodd iddi ei henw Groegaidd gwreiddiol, Eglwys yr Anastasis ('Atgyfodiad').
Heddiw, mae'r adeiladau ehangach o amgylch Eglwys y Beddrod Sanctaidd hefyd yn gwasanaethu fel pencadlys patriarch Uniongred Groegaidd Jeriwsalem, tra bod rheolaeth ar yr eglwys ei hun yn cael ei rhannu, ar yr un pryd, ymhlith sawl enwad Cristnogol ac endidau seciwlar mewn trefniadau cymhleth heb eu newid ers dros 160 mlynedd, a rhai yn hirach na hynny. Y prif enwadau sy'n rhannu'r cyfrifoldeb dros yr eglwys yw'r Eglwys Uniongred Roegaidd, yr Eglwys Gatholig Rufeinig, Eglwys Apostolaidd Armenia, ac i raddau llai yr Eglwys Goptaidd, yr Eglwys Uniongred Syrieg, ac Eglwys Uniongred Ethiopia.
Gelwir Eglwys neu Fasilica y Beddrod Sanctaidd (Lladin: Ecclesia Sancti Sepulchri; Hebraeg: כנסיית הקבר, Knesiyat ha-Kever) hefyd yn Eglwys yr Atgyfodiad neu Eglwys yr Anastasis gan Gristnogion y Dwyrain (Arabeg: كَنِيسَةُ ٱلْقِيَامَة, Kanīsatu al-Qiyāmah; Groeg (iaith): Ναὸς τῆς Ἀναστάσεως, Naos tes Anastaseos; Armeneg: Surb Harut'yan tač̣ar).
Yn dilyn gwarchae Jeriwsalem yn 70 OC yn ystod rhyfel cyntaf yr Iddewon a Rhufain, roedd Jeriwsalem wedi'i throi'n adfeilion. Yn 130 OC, dechreuodd yr ymerawdwr Rhufeinig Hadrian adeiladu trefedigaeth Rufeinig, dinas newydd Aelia Capitolina, ar y safle. Tua'r un flwyddyn, gorchmynnodd y dylid llenwi ogof yn cynnwys beddrod wedi'i dorri o'r graig i greu sylfaen wastad ar gyfer teml wedi'i chysegru i'r duw Iau neu'r dduwies Gwener. Fe'i codwyd, ac yno y bu hyd at ddechrau'r 4g.
Ar ôl yr honnir iddo weld gweledigaeth o groes yn yr awyr yn 312, trodd Cystennin Fawr at Gristnogaeth. Llofnododd Orchymyn Milan gan gyfreithloni'r grefydd newydd, ac anfonodd ei fam Helena i Jeriwsalem i chwilio am feddrod Crist. Gyda chymorth Eusebius, esgob Cesarea, a Macarius, esgob Jeriwsalem, daethpwyd o hyd i dair croes ger un beddrod, gan arwain y Rhufeiniaid at gredu eu bod wedi dod o hyd i Galfaria. Gorchmynnodd Cystennin tua 326 y dylid disodli'r deml i Iau neu Gwener a chodi eglwys yn y fan a'r lle. Ar ôl i'r deml gael ei rhwygo, tynnwyd y pridd o'r ogof, gan ddatgelu beddrod wedi'i dorri yn y graig, a nododd Helena a Macarius y fan fel man claddu'r Iesu. Adeiladwyd cysegrfa, yn amgáu waliau'r beddrod.
Yn 327, comisiynodd Cystennin a Helena Eglwys y Geni ym Methlehem yn annibynnol o hon, i gofio genedigaeth yr Iesu.
Codwyd Eglwys y Beddrod Sanctaidd mewn dwy ran: y basilica mawr (neu'r Martyrium), a'r atriwm (y Triportico) a'i rhesi o golofnau, sef safle traddodiadol Calfaria ar y naill law, ac ar draws y buarth, yr ail safle, sef rotwnda o'r enw'r Anastasis ("Atgyfodiad"), lle credai Helena a Macarius fod yr Iesu wedi'i gladdu.
Cysegrwyd yr eglwys ar 13 Medi 335. Bob blwyddyn, mae Eglwys Uniongred y Dwyrain yn dathlu pen-blwydd ei godi.
Dinistriwyd yr adeilad hwn gan dân ym Mai 614 OC, pan oresgynnodd yr Ymerodraeth Sassanid, dan Khosrau II, Jeriwsalem a chipio'r Gwir Groes. Yn 630, ailadeiladodd yr ymerawdwr Heraclius yr eglwys ar ôl ail-gipio'r ddinas. Ar ôl i Jeriwsalem ddod o dan lywodraeth Arabaidd, arhosodd yn eglwys Gristnogol, gyda'r llywodraethwyr Mwslimaidd cynnar yn amddiffyn safleoedd Cristnogol y ddinas, gan wahardd eu dinistrio neu eu defnyddio fel adeiladau preswyl.
Yn gynnar yn y 9g, difrodwyd cromen yr Anastasis gan ddaeargryn arall. Atgyweiriwyd y difrod ym 810 gan y patriarch Thomas I. Yn 841, llosgwyd rhan o'r eglwys. Yn 935, ataliodd y Cristnogion y Mwslimaidd rhag codi mosg ger yr Eglwys. Yn 938, llosgwyd y tu mewn i'r basilica a daeth y tan yn agos at y rotwnda. Yn 966, oherwydd trechu byddinoedd Mwslimaidd yn rhanbarth Syria, torrodd terfysg allan, a llosgwyd y basilica eto a'r drysau a rhan o'r to, a llofruddiwyd y patriarch Ioan VII.
Ar 18 Hydref 1009, gorchmynnodd y califf Ffatimid Al-Hakim bi-Amr Allah ddinistrio'r eglwys yn llwyr fel rhan o ymgyrch yn erbyn addoldai Cristnogol ym Mhalesteina a'r Aifft. Roedd y difrod yn helaeth, heb lawer o rannau o'r eglwys gynnar ar ôl, a difrodwyd to'r beddrod a dorrwyd yn y graig; dinistriwyd y gysegrfa wreiddiol. Dilynwyd gyda pheth atgyweiriadau. Ymatebodd Ewrop Gristnogol gyda sioc a diarddelwyd yr Iddewon, a fu'n ysgogiad i Groesgadau diweddarach.
Mewn trafodaethau eang rhwng y Ffatimidiaid a'r Ymerodraeth Fysantaidd yn 1027–28, cytunodd y califf newydd Ali az-Zahir (mab Al-Hakim) i ganiatáu ailadeiladu ac ailaddurno'r eglwys. Cwblhawyd yr ailadeiladu o'r diwedd ar gost enfawr gan yr ymerawdwr Cystennin IX Monomachos a'r patriarch Nicephoros o Gaergystennin ym 1048. Fel consesiwn, agorwyd y mosg yng Nghaergystennin. Canolbwyntiwyd yr adeiladwaith newydd ar y rotwnda a'r adeiladau o'i amgylch: arhosodd y basilica mawr yn adfeilion.
Roedd safle'r eglwys a ailadeiladwyd yn cynnwys "cwrt ar agor i'r awyr, gyda phum capel bach ynghlwm wrtho". Roedd y capeli i'r dwyrain o gwrt yr Atgyfodiad lle bu wal orllewinol y basilica mawr. Roeddent yn coffáu golygfeydd o'r Croeshoelio, megis lleoliad carchar Crist a'i fflangellu.
Mae cysegriad y capeli hyn yn dangos pwysigrwydd defosiwn y pererinion i ddioddefaint Crist. Fe'u disgrifiwyd fel 'math o Via Dolorosa yn fach' ... gan nad oedd fawr o waith adfer wedi'u wneud ar safle'r basilica mawr. Cofnoda nifer o bererinion o'r Gorllewin yn ystod yr 11g fod yma lawer o adfeilion. Parhaodd rheolaeth Jeriwsalem, a thrwy hynny Eglwys y Beddrod Sanctaidd, i newid dwylo sawl gwaith rhwng y Ffatimidiaid a'r Tyrciaid Seljuk (yn deyrngar i'r califf Abbasid yn Baghdad) nes i'r Croesgadwyr gyrraedd yn 1099.
Mae llawer o haneswyr yn honni mai prif bryder y pab Urbanus II, wrth alw am y Groesgad Gyntaf, oedd y bygythiad i Gaergystennin yn dilyn goresgyniad Asia Leiaf gan y Tyrciaid. Mae haneswyr yn cytuno yr oedd tynged Jeriwsalem a thrwy hynny Eglwys y Beddrod Sanctaidd hefyd yn destun pryder, os nad nod uniongyrchol polisi'r pab ym 1095. Enillodd y syniad o feddiannu Jeriwsalem fwy o rym wrth i'r Groesgad fynd rhagddi. Cymerwyd safle'r eglwys a ailadeiladwyd oddi wrth y Ffatimidiaid gan farchogion y Groesgad Gyntaf ar 15 Gorffennaf 1099.
Rhagwelwyd y Groesgad Gyntaf fel rhyw bererindod arfog, ac ni allai unrhyw groesgadwr ystyried ei daith yn gyflawn oni bai ei fod wedi gweddïo fel pererin yn Eglwys y Beddrod Sanctaidd. Y theori glasurol yw bod y tywysog-Croesgadwr Godefroid o Fouillon, a ddaeth yn frenin cyntaf Teyrnas Jeriwsalem, wedi penderfynu peidio â defnyddio'r teitl "brenin" yn ystod ei oes, ac wedi datgan ei hun yn hytrach yn Advocatus Sancti Sepulchri ("Amddiffynnwr y Beddrod Sanctaidd").
Mae Gwilym o Dyrus, croniclydd teyrnas y Croesgadwyr, yn adrodd ar adnewyddu'r Eglwys yng nghanol y 12g. Ymchwiliodd y Croesgadwyr i'r adfeilion dwyreiniol ar y safle, gan gloddio trwy'r rwbel a darganfod rhan o'r adeiladau gwreiddiol, sef lloc teml Hadrian; fe wnaethant drawsnewid y gofod hwn yn gapel wedi'i gysegru i'r Santes Helena, gan ehangu eu twnnel cloddio gwreiddiol yn risiau. Dechreuodd y Croesgadwyr ail-addurno'r eglwys mewn arddull Romanésg ac ychwanegu clochdy. Unodd yr adnewyddiadau hyn y capeli bach ar y safle ac fe'u cwblhawyd yn ystod teyrnasiad y frenhines Melisende ym 1149, gan roi'r holl leoedd sanctaidd o dan yr un to am y tro cyntaf.
Daeth yr eglwys yn sedd y patriarchiaid Lladin cyntaf a safle sgriptoriwm y deyrnas. Fe'i collwyd, ynghyd â gweddill y ddinas, i Saladin ym 1187, er bod y cytundeb a sefydlwyd ar ôl y Drydedd Groesgad wedi caniatáu i bererinion Cristnogol ymweld â’r safle. Adenillodd yr Ymerawdwr Glân Rhufeinig Ffredrig II y ddinas a'r eglwys trwy gytundeb yn y 13g. Mae'n ymddangos bod yr eglwys wedi bod i raddau helaeth yn nwylo Athanasios II, Patriarch Uniongred Roegaidd Jeriwsalem (c. 1231–47), yn ystod rheolaeth Ladin Jeriwsalem. Cipiwyd y ddinas a'r eglwys gan y Khwarezmiaid yn 1244.
Yn 1545, cwympodd lefel uchaf y eglwys, sef y clochdy. Adnewyddodd brodyr Urdd Sant Ffransis yr eglwys ym 1555, gan iddi gael ei hesgeuluso er gwaethaf niferoedd cynyddol o bererinion. Gosodwyd cysegr marmor a gomisiynwyd gan y mynach Boniffas o Ragusa i orchuddio gweddillion beddrod Crist, yn ôl pob tebyg i atal pererinion rhag cyffwrdd â'r graig wreiddiol neu gymryd darnau bach fel cofroddion. Gosodwyd slabyn marmor dros y gwely claddu calchfaen lle credir bod corff yr Iesu wedi gorwedd.
Ar ôl adnewyddu 1555, pendiliodd reolaeth yr eglwys rhwng y Ffransisgiaid a'r Uniongred, yn aml trwy lwgrwobrwyo. Nid oedd gwrthdaro treisgar yn anghyffredin. Yn ystod Wythnos y Pasg 1757, mae'n debyg bod Cristnogion Uniongred wedi cipio peth o'r eglwys a reolwyd gan y Ffransisgiaid. Efallai mai dyma oedd achos archddyfarniad (firman) y swltan a ddatblygwyd yn ddiweddarach yn y Status Quo.
Llosgwyd rhan arall o'r eglwys yn 1808, gan achosi i romen y rotwnda gwympo a malu addurn allanol yr aedicula. Ailadeiladwyd hwnnw, a thu allan yr aedicula, ym 1809–1810 gan y pensaer Nikolaos Ch. Komnenos o Mytilene yn yr arddull Baróc Otomanaidd gyfoes. Ailadeiladwyd tu mewn yr rhagystafell, a elwir bellach yn "Gapel yr Angel", yn rhannol i gynllun sgwâr yn lle'r pen gorllewinol hanner cylch a arferai fod.
Cadarnhaodd archddyfarniad arall gan y swltan ym 1853 y rhaniad tiriogaethol presennol ymhlith y cymunedau a chadarnhau'r Status Quo i drefniadau "aros yn eu cyflwr presennol", gan fynnu consensws i wneud mân newidiadau hyd yn oed.
Erbyn goresgyniad Palesteina gan Brydain – a Mandad Prydain a ddilynodd hynny, ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf – roedd y cladin o farmor coch a roddwyd ar yr aedicula gan Komnenos wedi dirywio'n ofnadwy ac yn datgysylltu o'r strwythur sylfaenol; o 1947 hyd at waith adfer yn 2016–2017, fe'i cynhaliwyd yn ei le gyda sgaffaldiau allanol o wregysau haearn wedi'u gosod gan y Prydeinwyr.
Adferwyd y gromen eto ym 1994–1997 fel rhan o adnewyddiadau modern helaeth sydd wedi bod ar y gweill ers 1959. Yn ystod y gwaith adfer a chloddio rhwng 1970 a 1978 darganfuwyd mai chwarel calchfaen meleke gwyn oedd y safle gyfan, yn wreiddiol.
Yr enw ar y cwrt sy'n wynebu'r fynedfa i'r eglwys yw'r parvis. Mae ychydig o strwythurau llai wedi'u lleoli o amgylch y parvis.
Mae'r clochdy o'r 12g ychydig i'r de o'r rotwnda, i'r chwith o'r fynedfa. Collwyd ei lefel uchaf mewn cwymp yn 1545. Yn 1719, collwyd dau lawr arall.
Ers y 7g, mae'r teulu Mwslimaidd Nusaybah wedi bod yn gyfrifol am agor y drws fel parti diduedd i enwadau'r eglwys. Yn 1187, cymerodd Saladin yr eglwys oddi wrth y Croesgadwyr ac ymddiriedodd allwedd Joudeh Al-Goudia, sydd wedi'i gwneud o haearn 30 cm (12 modf) o hyd; mae'r Nuseibehs yn parhau i fod yn geidwaid y drws.
|
Ychydig y tu mewn i fynedfa'r eglwys mae grisiau sy'n arwain i fyny at Galfaria (Golgotha), a ystyrir yn draddodiadol fel safle croeshoeliad yr Iesu, a'r rhan o'r eglwys sydd wedi'i haddurno fwyaf. Mae'r allanfa trwy risiau arall gyferbyn â'r cyntaf, gan arwain i lawr at y llwybr troed. Mae Golgotha a'i gapeli ychydig i'r de o brif allor y Catholicon.
Ychydig y tu mewn i fynedfa'r eglwys mae'r Garreg Eneinio (hefyd Carreg yr Eneiniad neu Garreg yr Uniad), lle paratowyd corff Iesu i'w gladdu gan Joseff o Arimathea medd y traddodiad. Ychwanegwyd y garreg bresennol yn 1810.
|
Yng nghorff canolog yr eglwys, a godwyd yn oes y Croesgadwyr ychydig i'r dwyrain o'r rotwnda mwy, mae prif allor yr eglwys, heddiw Catholicon Uniongred Gwlad Groeg. Mae gan y gromen ddiametr o 19.8 metr (65 tr). Dros ganol croesfan transept y cwîr lle mae'r compas wedi'i leoli, ceir carreg omphalos ("bogail") y credwyd unwaith ei bod yn ganolbwynt y byd ac yn dal i gael ei barchu felly gan Cristnogion Uniongred (yn gysylltiedig â safle'r Croeshoeliad a'r Atgyfodiad).
I'r de o'r aedicula mae "Lle'r Tair Mair", wedi'i farcio gan ganopi carreg a brithwaith wal fodern fawr. O'r fan hon, gellir mynd i mewn i'r fynachlog Armenaidd sy'n ymestyn dros y llawr gwaelod a llawr uchaf rhan dde-ddwyreiniol yr eglwys.
I'r gorllewin o'r aedicula, y tu ôl i'r Rotwnda, mae'r Capel Syriaidd gyda Beddrod Joseff o Arimathea, wedi'i leoli yn aps Cystennin, ac yn cynnwys agoriad i feddrod hynafol creigiog Iddewig. Y capel hwn yw lle mae'r Eglwys Uniongred Syrieg yn dathlu eu litwrgi ar ddydd Sul.
|
Yn ochr ogledd-ddwyreiniol y cyfadeilad mae Carchar Crist, yr honnir ei fod lle cafodd Iesu ei ddal. Mae'r Eglwys Uniongred Roegaidd, fodd bynnag yn dangos man arall lle honnir bod Iesu wedi'i ddal.
Rhwng Capel Rhaniad y Brethyn Diwnïad a Chapel Groegaidd y Gwawdio mae grisiau sy'n arwain i lawr at Gapel Santes Helena. Mae'r Armeniaid, sy'n berchen arno, yn ei alw'n Gapel Sant Grigor y Goleuwr, ar ôl y sant a ddaeth â Christnogaeth i'r Armeniaid.
|