Math | maint corfforol, meintiau sgalar, maint ymestynnol |
---|---|
Rhan o | cywerthedd mas-ynni, bydysawd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mewn ffiseg, mae egni yn cyfeirio at allu gwrthrych i symud neu weithio. Gair sy'n tarddu o'r Frythoneg yw 'egni', a chaiff ei gofnodi yn gyntaf yn y Gymraeg yn y 14g yn un o gywyddau Iolo Goch. (Ond daw'r gair Saesneg energy o'r gair Groeg energos neu ἐνεργός , sef "gweithio"). Mae'n bosib storio egni a'i ddefnyddio i wneud gwaith rhywbryd arall.
Ni ellir creu egni, dim ond ei drosglwyddo neu ei gyfeirio; crewyd y syniad o gadwraeth egni ar ddechrau'r 19g. Yn ôl Theorem Noether, mae cadwraeth egni yn ganlyniad i'r ffaith nad ydy deddfau ffiseg ddim yn newid gydag amser.
Er nad yw cyfanswm yr egni ddim yn newid dros amser, mae ein gallu i'w fesur yn dibynnu ar ble rydym; e.e. person yn eistedd mewn awyren sy'n hedfan: mae ei egni cinetic o'i gymharu a'r awyren yn sero; o'i gymharu a'r ddaear, fodd bynnag, mae ganddo egni cinetic.
Pan fôm yn trafod egni naturiol yr haul neu'r gwynt yn cael ei droi'n bwer trydanol neu yn sain, defnyddiwn y gair ynni, er enghraifft: ynni'r haul, ynni gwynt neu ynni hydro.