Arwyddlun sy'n cael ei ddefnyddio mewn negeseuon electronig a thudalennau gwe yw emoji. Maent yn bodoli mewn nifer o ffurfiau, yn cynnwys edrychiadau neu ystumiau'r wyneb, gwrthrychau cyffredin, lleoedd a mathau o dywydd, ac anifeiliaid. Maent yn debyg iawn i emoticonau, ond mae emoji yn lluniau yn hytrach na theipograffigau. Daw'r gair emoji o'r Japaneg e (絵, "llun") + moji (文字, "llythyren" neu "arwyddnod"); cyd-ddigwyddiad yw'r tebygrwydd i'r geiriau 'emosiwn' ac 'emoticon'. Y cod sgript ISO15924 ar gyfer emoji yw Zsye
.
Yn deillio o ffonau symudol Siapaneaidd ym 1997, daeth yr emoji yn fwyfwy poblogaidd ledled y byd yn 2010au ar ôl cael eu hychwanegu at nifer o systemau gweithredu ffonau symudol. Erbyn hyn ystyrir eu bod yn rhan fawr o ddiwylliant poblogaidd yn y gorllewin.
Rhagflaenwyd yr emoji gan yr emoticon testun a mathau eraill o gynrychioliadau graffigol, o fewn a thu allan i Japan.
Cafodd y ffôn symudol cynharaf y gwyddys amdano a oedd yn cynnwys set o emoji ei ryddhau yn Japan gan J-Phone ar 1 Tachwedd 1997. Roedd y set o 90 emoji yn cynnwys llawer a fyddai'n cael eu hychwanegu yn ddiweddarach at y Safon Unicode, fel Tomen o Ddom, ond ni chawsant eu defnyddio'n eang ar y pryd am fod y ffôn yn ddrud iawn i'w brynu.
Yn 1999, creodd Shigetaka Kurita y set gyntaf o emoji a ddefnyddiwyd yn eang. Roedd yn aelod o'r tîm oedd yn gweithio ar lwyfan Rhyngrwyd symudol i-mode NTT DoCoMo. Cymerodd Kurita ysbrydoliaeth o ragolygon y tywydd a oedd yn defnyddio symbolau i ddangos y tywydd, arwyddluniau Tsieineaidd ac arwyddion stryd, ac o Manga a oedd yn defnyddio symbolau stoc i fynegi emosiynau, megis bylbiau golau fel arwydd o ysbrydoliaeth. Defnyddiwyd Emoji i ddechrau (gweler diwylliant ffonau symudol Japan) gan gwmnïau ffonau symudol Japan, NTT DoCoMo, au, a SoftBank Mobile (Vodafone gynt). Diffiniodd y cwmnïau hyn eu hamrywiadau emoji eu hunain gan ddefnyddio safonau perchnogol. Crëwyd y set gyntaf o emoji 12 × 12 picsel ar gyfer negeseuon i-mode i helpu i hwyluso cyfathrebu electronig, ac i fod yn nodwedd oedd yn eu gwahaniaethu oddi wrth wasanaethau eraill. Creodd Kurita y 180 emoji cyntaf yn seiliedig ar yr wynebau a welai bobl yn eu gwneud, a phethau eraill, yn y ddinas.
Ers 2010, mae rhai setiau o arwyddluniau emoji wedi'u hymgorffori i Unicode, system safonol ar gyfer mynegeio arwyddnodau, sydd wedi eu galluogi i gael eu defnyddio y tu allan i Japan ac i gael eu safoni ar draws gwahanol systemau gweithredu.
Mae poblogrwydd emoji wedi arwain at bwysau gan werthwyr a marchnadoedd rhyngwladol i ychwanegu dyluniadau i safon Unicode i gwrdd â gofynion gwahanol ddiwylliannau. Ychwanegodd Unicode 7.0 tua 250 emoji, nifer ohonynt o'r ffontiau Webdings a Wingdings. Mae rhai arwyddnodau sydd bellach wedi'u diffinio fel emoji yn cael eu hetifeddu o amrywiaeth o systemau negesu cyn Unicode, ac nid rhai a ddefnyddiwyd yn Japan yn unig, gan gynnwys Yahoo a MSN Messenger. Ychwanegodd Unicode 8.0 41 emoji arall, gan gynnwys gwrthrychau sy'n offer chwaraeon fel yr bat criced, eitemau bwyd fel y taco, arwyddion y Sidydd, ystumiau wyneb newydd, a symbolau ar gyfer addoldai. Mae galw corfforaethol am safoni emoji wedi rhoi pwysau ar Gonsortiwm Unicode, gyda rhai aelodau'n cwyno ei fod wedi goddiweddyd ffocws traddodiadol y grŵp ar safoni arwyddnodau a ddefnyddir ar gyfer ieithoedd lleiafrifol a thrawsgrifio cofnodion hanesyddol.
Mae arwyddnodau emoji yn amrywio ychydig rhwng platfformau o fewn y cyfyngiadau ystyr a ddiffinnir gan fanyleb Unicode, wrth i gwmnïau wedi geisio ychwnaegu elfennau artistig i syniadau a gwrthrychau. Er enghraifft, yn nhraddodiad Apple, mae'r emoji calendr ar gynnyrch Apple bob amser yn dangos 17 Gorffennaf, y dyddiad y cyhoeddodd y cwmni ei ap calendr iCal ar gyfer macOS yn 2002. Arweiniodd hyn at rai defnyddwyr cynnyrch Apple i alw Gorffennaf 17 yn "Ddiwrnod yr Emoji". Mae ffontiau emoji eraill yn dangos dyddiadau gwahanol neu ddim yn dangos unrhyw ddyddiad penodol.
Ym mis Rhagfyr 2015, cyhoeddwyd dadansoddiad teimladau o emoji, a darparwyd Graddfa Teimlad Emoji 1.0. Yn 2016, perfformiwyd sioe gerdd am emoji am y tro cyntaf yn Los Angeles, a rhyddhawyd y ffilm animeiddiedig The Emoji Movie yn haf 2017.
Ym mis Ionawr 2017, yn yr hyn y credir yw'r astudiaeth raddfa-eang gyntaf o ddefnydd emoji, dadansoddodd ymchwilwyr ym Mhrifysgol Michigan dros 1.2 biliwn o negeseuon a fewnbynnwyd drwy Allweddell Kika Emoji a chyhoeddwyd mai'r emoji o wyneb gyda dagrau o lawenydd oedd yr emoji mwyaf poblogaidd. Daeth y llygaid fel calonnau yn ail a'r emoji calon yn drydydd. Roedd yr astudiaeth yn dangos gwahaniaethau rhwng diwylliannau: y Ffrancwyr oedd yn defnyddio'r emoji calon fwyaf aml, roedd pobl Awstralia, Ffrainc a'r Weriniaeth Tsiec yn gwneud mwy o ddefnydd o'r emoji hapis, tra nad oedd hyn yn wir am bobl ym Mecsico, Colombia, Chile a'r Ariannin, lle roedd pobl yn defnyddio emoji mwy negyddol o gymharu â chanolfannau diwylliannol a oedd yn cael eu gweld yn fwy ymataliol a hunanddisgybledig, fel Twrci, Ffrainc a Rwsia.
Mae ymchwil wedi dangos bod emoji yn aml yn cael ei gamddeall. Mewn rhai achosion, mae'r camddealltwriaeth hwn yn gysylltiedig â sut y caiff y dyluniad emoji ei ddehongli gan y derbynnydd; mewn achosion eraill, nid yw'r emoji a anfonwyd yn cael ei ddangos yn yr un ffordd ar yr ochr sy'n ei dderbyn.
Mae'r mater cyntaf yn ymwneud â dehongliad diwylliannol neu gyd-destunol yr emoji. Pan fydd yr awdur yn dewis emosiwn, maen nhw'n meddwl amdano mewn ffordd benodol, ond efallai na fydd yr un arwyddlun yn sbarduno'r un meddyliau ym meddwl y derbynnydd.
Er enghraifft, mae pobl yn Tsieina wedi datblygu system ar gyfer defnyddio emoji yn gynnil, fel y gellid anfon wyneb hapus i gyfleu agwedd ddirmygus, watwarus, a hyd yn oed yn annymunol, am nad yw'r orbicularis oculi (y cyhyr ger y gornel uchaf llygad) ar wyneb yr emoji yn symud, ac mae'r orbicularis oris (yr un ger y geg) yn tynhau, a chredir ei fod yn arwydd o atal gwên.
Mae'r ail broblem yn ymwneud â thechnoleg a brandio. Pan fydd awdur neges yn dewis emoji o restr, caiff ei amgodio fel arfer mewn modd an-graffigol yn ystod y trosglwyddiad, ac os nad yw'r awdur a'r darllenydd yn defnyddio'r un feddalwedd neu system weithredu ar gyfer eu dyfeisiau, gall dyfais y darllenydd gyflwyno'r un emoji mewn ffordd wahanol. Gall newidiadau bach i olwg arwyddlun newid ei ystyr canfyddedig yn llwyr gyda'r derbynnydd.
Bathwyd y gair gwenoglun gan Nic Dafis ar gyfer emoticon wrth gyfieithu pecyn meddalwedd phpBB i'r Gymraeg yn 2002. Roedd hynny yn bennaf oherwydd fod y meddalwedd yn cyfeirio at 'smileys' - ffordd o osod gwynebau bychain o fewn neges. Daeth y term yn boblogaidd ar wefan drafod Maes-e ond prin yw'r defnydd bellach ar y cyfryngau cymdeithasol wrth i'r defnydd o emojis ddisodli yr hen arddull testunol. Gwelir y defnydd o gwennoglun (sic) wrth gyfeirio at emoji mewn erthygl gan Rhoslyn Prys ym mis Tachwedd 2015.
Cafwyd cyflwyniad ar yr emoji fel yr 'iaith newydd sy'n tyfu gyflymaf gan Dr Viv Evans o Brifysgol Bangor yn 2015 yn nodi twf yn y defnydd o'r ieithwedd. ac holwyd "a yw emojis yn iaith?" ar BBC Radio Cymru yn 2016.
Ar 26 Ionawr 2017 cyhoeddwyd y byddai Unicode yn rhyddhau baner Cymru yn emoji ar gael yn gyhoeddus. Gwnaed hyn yn dilyn ymgyrch i sefydlu emoji baneri gwledydd Prydain ei ddechrau gan Jeremy Burge o Emojipedia a phennaeth cyfryngau cymdeithasol BBC Cymru, Owen Williams.
Hard on the heels of the emoticon comes the Japanese-born emoji, also a DIGITAL icon used to express emotion, but more sophisticated in terms of imagery than those that are created by pressing a colon followed by a parenthesis. Emoji is made up of the Japanese for picture (e) and character (moji), so its resemblance to emotion and emoticon is a particularly happy coincidence.
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)