Y gred bod eneidiau neu fodau ysbrydol gan anifeiliaid a phlanhigion, gwrthrychau difywyd, a ffenomenau naturiol yw eneidyddiaeth neu animistiaeth. Nid yw'r un o brif grefyddau'r byd yn llwyr animistaidd, ond mae'r mwyafrif o grefyddau cyntefig, brodorol a llwythol yn ffurfiau ar eneidyddiaeth.