| |||||||||||||||||||||||||||||
538 aelod o'r Coleg Etholiadol 270 pleidlais i ennill | |||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Y nifer a bleidleisiodd | 66.2% (amcangyfrif) | ||||||||||||||||||||||||||||
| |||||||||||||||||||||||||||||
Y map etholiadol ar gyfer etholiad 2020, yn seiliedig ar boblogaethau Cyfrifiad 2010. | |||||||||||||||||||||||||||||
|
Cynhaliwyd Etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau 2020 ar Ddydd Mawrth 3 Tachwedd 2020 i ethol Arlywydd ac Is-arlywydd Unol Daleithiau America. Hwn oedd y 59fed etholiad arlywyddol pedairblyneddol. Roedd pleidleiswyr yn dewis etholwyr arlywyddol a fydd yn eu tro yn pleidleisio ar 14 Rhagfyr 2020, fe wnaethant ethol arlywydd ac is-arlywydd newydd, Joe Biden a Kamala Harris, gan drechu'r deiliad Donald Trump a Mike Pence. Fe wnaeth enillwyr etholiad 2020 cael eu urddo ar Ionawr 20, 2021.
Lansiodd Donald Trump, y 45fed ac Arlywydd presennol, ymgyrch ail-ddewis ar gyfer y Gweriniaethwyr; fe wnaeth sawl sefydliad Plaid Weriniaethol y wladwriaeth canslo eu etholiadau mewn cefnogaeth i'w ymgeisyddiaeth. Daeth yn enwebai tybiedig ym mis Mawrth 2020.
Lansiodd 27 o ymgeiswyr ymgyrchoedd ar gyfer yr enwebiad Democrataidd, a ddaeth yn faes mwyaf yr ymgeiswyr i unrhyw blaid wleidyddol yng ngwleidyddiaeth fodern America. Ym mis Ebrill 2020, daeth y cyn Is-lywydd Joe Biden yn enwebai tybiedig ar ôl curo’r Seneddwr Bernie Sanders.
Dewiswyd Biden Kamala Harris ar yr 11 Awst 2020 i fod yn ymgeisydd ar gyfer fod yn Is-arlywydd America. Pan gafwyd ei hethol hi oedd yr Is-Arlywydd benywaidd cyntaf yn ogystal â'r cyntaf o dras Affricanaidd a De Asia Americanaidd.
Biden a Trump yn y drefn honno yw'r enwebion arlywyddol hynaf ac ail-hynaf yn hanes yr Unol Daleithiau; ac os oedd y naill neu'r llall yn cael eu hethol a'u urddo, nhw hefyd oedd yr arlywydd hynaf sy'n gwasanaethu gan dybio eu bod yn gwasanaethu eu tymor llawn.
Prif faterion yr etholiad oedd effaith y pandemig COVID-19 parhaus, a laddodd dros 220,000 o Americanwyr; protestiadau mewn ymateb i ladd George Floyd ac Americanwyr duon eraill; marwolaeth barnwr y Llys Goruchaf Ruth Bader Ginsburg ac enwebu Amy Coney Barrett, a’r Ddeddf Gofal Fforddiadwy, gyda Biden eisiau ei amddiffyn a’i ehangu a Trump yn pwyso am ddod â hi i ben.
Oherwydd y pandemig coronafirws annogwyd pleidleiswyr Democrataidd i bleidleisio yn gynnar a drwy'r post yn hytrach nac ar y diwrnod. Mewn rhai taleithiau nid oedd yn bosib cyfrif y papurau pleidleisio hynny cyn i ddiwrnod yr etholiad orffen. Roedd miliynau o bleidleisiau i'w cyfri a cymerodd hyn drwy'r wythnos i'w cyfri a gwirio. Cyfrifiwyd pleidleisiau a fwriwyd ar y diwrnod i ddechrau, a roedd mwyafrif y rheiny ar gyfer yr Arlywydd Trump. Felly roedd Trump i weld yn arwain y ras mewn sawl talaith nes i'r pleidleisiau post gael eu cyfri.
Bu llawer o oedi wrth gyfrif y pleidleisiau, am nifer o resymau, gan gynnwys y nifer uchel a bleidleisiodd, cyfran uchel o bleidleisiau post a chanlyniadau agos iawn mewn rhai ardaloedd. Wrth i'r pleidleisiau post gael eu cyfri a rhifau Biden gynyddu, gwnaeth Trump sawl honiad o 'dwyll etholiadol' er na chyflwynodd unrhyw dystiolaeth o hyn. Bygythiodd gymeryd camau cyfreithiol mewn sawl talaith lle nad oedd yn ennill y ras.
Erbyn prynhawn ddydd Sadwrn, 7 Tachwedd 2020 daeth cyhoeddiad am bleidleisiau a gyfrwyd yn Philadelphia, Pennsylvania. Cyfrifwyd felly fod Biden a Harris wedi ennill y dalaith gyda mwyafrif o dros 0.5%. Datganodd y cyfryngau a dadansoddwyr ystadegol fod Biden wedi ennill digon o bleidleisiau ac felly wedi sicrhau dros 270 pleidlais yn y coleg etholiadol. Er hynny ni ildiodd Trump, a parhaodd i ddadlau ei fod wedi 'ennill' yr etholiad er bod gwleidyddion ar draws y byd wedi llongyfarch Biden. Dywedodd Biden fod ennill yn anrhydedd ac y byddai'n ceisio uno'r wlad.
Cyflwynwyd nifer o heriau cyfreithiol i'r canlyniadau gan Trump, gydag achos yn cael ei chyflwyno i'r Llys Goruchaf yr UDA. Methodd pob achos oherwydd diffyg tystiolaeth gan sicrhau llwybr clir i Biden i'r Arlywyddiaeth.
Ardystiwyd canlyniadau'r etholiad ym mhob talaith ac ardal DC erbyn 9 Rhagfyr. Ar 14 Rhagfyr 2020, daeth cadarnhad o'r canlyniad wrth i'r coleg etholiadol bleidleisio, gyda pob talaith yn cyfarfod i gyfri pleidleisau eu etholwyr. Cadarnahwyd fod Joe Biden wedi cael 306 pleidlais a Donald Trump wedi cael 232. Bydd y canlyniad yn cael ei ddanfon ymlaen i'r Gyngres ar 6 Ionawr 2021. Mae Biden a Harris wedi’u hamserlennu i'w gael eu hurddo ar 20 Ionawr, 2021.
Mewn cyfarfod o Gyngres yr Unol Daleithiau ar 6 Ionawr 2021, y bwriad oedd casglu a chyfri'r pleidleisiau gan etholwyr bob talaith, er fod disgwyl i sawl aelod o'r Gweriniaethwyr i wrthod pleidleisiau rhai taleithiau. Yn gynharach yn y diwrnod, roedd yr Arlywydd Trump wedi annerch torf o'i gefnogwyr o flaen y Tŷ Gwyn, a'i annog i orymdeithio i adeilad Capitol Hill i brotestio mai fod yr Etholiad yn 'dwyll' ac mai ef oedd yn fuddugol. Tra fod y Gyngres yn cyfarfod, llwyddodd nifer o gefnogwyr Trump i dorri fewn a meddiannu adeilad y Capitol, gan falurio swyddfeydd y Seneddwyr. Symudwyd y gwleidyddion a'i staff i lefydd diogel. Bu farw un fenyw yn y gwrthdaro gyda'r heddlu a phedwar person arall o “argyfyngau meddygol”, gan gynnwys swyddog heddlu.
Yn ddiweddarach, wedi i'r heddlu a swyddogion arfog gael y sefyllfa dan reolaeth, dychwelodd y gwleidyddion i'r Gyngres, gan gyfri gweddill y pleidleisiau a chymeradwyo etholiad Joe Biden fel yr Arlywydd nesaf.
Ymgyrch etholiadol 2020 | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Digwyddodd urddo Joe Biden fel 46ain arlywydd yr Unol Daleithiau ar 20 Ionawr 2021. Dyma ddechrau tymor pedair blynedd Joe Biden fel arlywydd a Kamala Harris yn is-Arlywydd.
Digwyddodd seremoni gyhoeddus ar Ffrynt Orllewinol Adeilad y Capitol yr Unol Daleithiau yn Washington, D.C. Dyma'r 59fed urddo arlywyddol.
Cymerodd Biden y llw fel arlywydd y diwrnod hwnnw a chymerodd Harris y llw fel is-Arlywydd.
Rhoddodd y Prif Farnwr John Roberts lw Biden a rhoddodd yr ynad Sonia Sotomayor lw i Harris.
Ni wnaeth yr Arlywydd blaenorol, Donald Trump, mynychu gan dorri draddodiad 152 mlwydd oed. Ond roedd yr Is-Arlywydd blaenorol Mike Pence a'i wraig Karen Pence yn bresennol.