Friedrich Nietzsche | |
---|---|
Ganwyd | Friedrich Wilhelm Nietzsche 15 Hydref 1844 Röcken |
Bu farw | 25 Awst 1900 o neurosyphilis Weimar |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prwsia |
Addysg | doethuriaeth |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | athronydd, bardd, ysgrifennwr, cyfansoddwr, addysgwr, ieithegydd clasurol, beirniad cerdd, ysgolhaig clasurol |
Swydd | athro prifysgol |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Felly Llefarodd Zarathustra |
Prif ddylanwad | Arthur Schopenhauer, Heraclitos, Ralph Waldo Emerson, Charles Darwin, Parmenides, Auguste Comte, Blaise Pascal, Richard Strauss, Niccolò Machiavelli, Richard Wagner, Adalbert Stifter, Edgar Allan Poe, Protagoras, Giacomo Leopardi, Paul Bourget, Sextus Empiricus, François de La Rochefoucauld, Hippolyte Taine, Ruđer Josip Bošković, Lev Shestov, Baruch Spinoza, Zarathustra, Baltasar Gracián, Bernard Mandeville, African Spir, William Butler Yeats, Michel de Montaigne, Democritus, Epicurus, Heinrich Heine, Stendhal, Oswald Spengler, Stefan George, Johann Joachim Winckelmann, Georg Christoph Lichtenberg, Johann Wolfgang von Goethe, Paul Tillich, Friedrich Albert Lange, Paul Rée, Jean-Jacques Rousseau, William Shakespeare, Jean-Marie Guyau, Friedrich Hölderlin, Max Scheler, Max Stirner, Mary Wigman, Stefan Zweig, Adam Mickiewicz, Empedocles, Platon, Aristoteles, Gottfried Wilhelm Leibniz, Voltaire, Socrates, Georg Hegel, Immanuel Kant, Fyodor Dostoievski, ancient Greek philosophy, Dionysus, Alecsander Fawr, Homeros, Iŵl Cesar, Aeschulos, Theognis of Megara, Friedrich Wilhelm Ritschl, Lou Andreas-Salomé, Manu, Thucydides, Cesare Borgia, Napoleon I, Alexander Ivanovich Herzen |
Mudiad | Lebensphilosophie |
Tad | Carl Ludwig Nietzsche |
llofnod | |
Athronydd ac ieithegwr o Almaenwr oedd Friedrich Wilhelm Nietzsche (15 Hydref 1844 - 25 Awst 1900) (/ˈfʁiːtʁɪç ˈniːtʃə/).
Ganwyd Nietzsche ar 15 Hydref, 1844, yn Röcken, Prwsia. Bu farw ei dad, gweinidog Lutheraidd, pan oedd yn blentyn ifanc felly fe'i magwyd gan ei fam mewn tŷ gyda'i nain, dwy fodryb, a chwaer. Dysgodd ieitheg glasurol ym mhrifysgolion Bonn a Leipzig ac fe'i apwyntiwyd yn Athro Ieitheg Glasurol ym Mhrifysgol Basel yn 24 oed. Ymddeolodd yn 1879 o ganlyniad i'w iechyd gwael (dioddefodd o olwg gwael a chur pennau trwy gydol ei fywyd). Deng mlynedd yn ddiweddarach fe'i trawyd gan salwch meddyliol na wellodd ohono. Bu farw Nietzsche yn Weimar ar 25 Awst, 1900.