Gorynys Penrhyn York

Gorynys Penrhyn York
Mathgorynys Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Awstralia Awstralia
Uwch y môr67 metr Edit this on Wikidata
GerllawGwlff Carpentaria Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau15°S 143°E Edit this on Wikidata
Map

Penrhyn mawr yn Queensland, Awstralia, yw Gorynys Penrhyn York. Penrhyn York yw pwynt mwyaf gogleddol y gorynys.

Dyma'r anialwch mwyaf digyffwrdd yng ngogledd Awstralia. Mae ganddo amrywiaeth fawr o fflora a ffawna endemig. Mae ganddo ecosystemau o laswelltiroedd, coetiroedd ewcalyptws, fforestydd glaw trofannol a mathau eraill o gynefin sy'n cael eu cydnabod a'u cadw am eu harwyddocâd amgylcheddol byd-eang. Mae'r tir yn wastad ar y cyfan ac mae tua hanner ei arwynebedd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pori gwartheg. Mae peth o'r bywyd gwyllt brodorol yn cael ei fygwth gan ddiwydiant a gorbori yn ogystal â rhywogaethau wedi'u cyflwyno.

Willem Janszoon, fforiwr o'r Iseldiroedd, oedd yr Ewropeaidd gyntaf i lanio yn Awstralia, gan gyrraedd Gorynys Penrhyn York ar y llong Duyfken yn 1606.

Cyfeiriadau

  1. Gareth Jones (gol.), Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999)