Gwlad Pwyl y Gyngres

Kingdom of Poland
Królestwo Polskie  (Pwyleg)
Царство Польское (Rwseg)
Motto: Z nami Bóg!
"God is with us!"
Anthem: Pieśń narodowa za pomyślność króla
"National Song to the King's Well-being"
Location of Poland
PrifddinasWarsaw
Ieithoedd swyddogol Pwyleg, Rwsieg
Llywodraeth Constitutional monarchy
Cyfreithiol Sejm
Arian

Gwlad Pwyl y Gyngres neu Teyrnas y Gyngres (yn swyddogol: Teyrnas Gwlad Pwyl) (Pwyleg: Królestwo Polskie, Rwseg: Королевство Польское, Korolevstvo Polskoje, Царство Польское, Tsarstvo Polskoje) oedd enw'r diriogaeth lled-annibynnol a sefydlwyd yng Nghyngres Fienna yn 1815 yn dilyn dadfeiliad ymerodraeth a rhyfeloedd Napoleon. Fe'i dyfarnwyd mewn undeb personol â Rwsia a chollodd ei hymreolaeth ym 1831.

Hanes

Rhoddwyd Teyrnas y Gyngres i Alexander I, tsar Rwsia gan Gyngres Fienna. Roedd yn cwmpasu'r rhan fwyaf o Ddugiaeth Napoleon Warsaw: y tiriogaethau a gafwyd yn adrannau Gwlad Pwyl gan Prwsia ac Ymerodraeth Awstria, De Prwsia (namyn talaith Posen, a ddaeth unwaith eto i Prwsia), Dwyrain Prwsia Newydd (namyn yr ardal o amgylch Białystok, a oedd o dan lywodraeth uniongyrchol Rwsia), Silesia Newydd a Gorllewin Galicia (namyn Krakow, a ddaeth yn annibynnol fel Gweriniaeth Krakow.

Roedd ymddangosiad y wladwriaeth newydd hon i'w briodoli i raddau helaeth i'r Tywysog Adam Czartoryski, a oedd wedi ceisio adfer gwladwriaeth Gwlad Pwyl mewn cynghrair â Rwsia.

RhoddoddAlexander I, tsar Rwsia gyfansoddiad rhyddfrydol iawn i'r deyrnas ym 1815. Roedd gan Gyngres Gwlad Pwyl ei senedd ei hun hefyd a allai bleidleisio ar gyfreithiau, ei byddin ei hun, arian cyfred a chyfiawnder troseddol. Penododd y Tsar ei frawd Grand Prince Constantine Pavlovich yn raglaw, a oedd â phwerau unbenaethol bron ac a oedd wedi ymrwymo i achos Gwlad Pwyl.

Fodd bynnag, rhoddodd olynydd Alexander, Niclas I ddiwedd ar "arbrawf rhyddfrydol" Gwlad Pwyl. Ym mis Tachwedd 1830, dechreuodd gwrthryfel arfog mewn ymateb i'w reolaeth ormesol. Llwyddodd Grand Prince Constantine i ddianc o ymgais i'w lofruddio, ond gwrthododd ymyrryd i ddechrau, er gwaethaf anogaeth gan deyrngarwyr Pwylaidd fel Czartoryski a Ksawery Drucki-Lubecki. Ym mis Rhagfyr, penododd Senedd Gwlad Pwyl Józef Chłopicki yn unben. Profodd cymod â Nicholas yn amhosibl, ac ym mis Ionawr datganodd y senedd fod y Tsar wedi ei orfodi. I ddechrau, cafodd byddin Gwlad Pwyl rai llwyddiannau yn erbyn byddin Rwsia a anfonwyd i Wlad Pwyl ar hyn, ond fe’i trechwyd yn y pen draw. Daeth teyrnas y Gyngres â chysylltiad agosach â Rwsia ar ôl y gwrthryfel; collodd ei statws a'i gyfansoddiad ymreolaethol.

Natur y Diriogaeth

Lleolwyd y brifddinas yn Warsaw, a ddaeth tuag at ddechrau'r 20g yn drydedd ddinas fwyaf Ymerodraeth Rwsia ar ôl St Petersburg a Moscow. Amcangyfrifwyd bod poblogaeth gymedrol amlddiwylliannol Gwlad Pwyl y Gyngres yn 9,402,253 o drigolion ym 1897. Roedd yn cynnwys Pwyliaid, Iddewon, Almaenwyr ethnig, Lithwaniaid a lleiafrif bach o Rwsiaid. Y brif grefydd oedd Catholigiaeth Rufeinig a'r iaith swyddogol a ddefnyddid yn y wladwriaeth oedd Pwyleg tan Gwrthryfel Ionawr 1863 pan ddaeth Rwsieg yn gyd-swyddogol. Siaradwyd Iddeweg ac Almaeneg yn eang gan eu siaradwyr brodorol.

Amsugno gan Rwsia

Gwlad Pwyl y Gyngres, 1815-1830

Mwynhaodd Teyrnas Gwlad Pwyl gryn ymreolaeth wleidyddol fel y'i gwarantwyd gan y cyfansoddiad rhyddfrydol. Fodd bynnag, roedd ei lywodraethwyr, Ymerawdwyr Rwsia, yn gyffredinol yn diystyru unrhyw gyfyngiadau ar eu pŵer. Felly, daeth yn fawr ddim na thalaith byped i Ymerodraeth Rwsia yn ystod ail hanner yr 19g. Cwtogwyd yr ymreolaeth yn ddifrifol yn dilyn gwrthryfeloedd yn 1830–31 a 1863, wrth i’r wlad gael ei llywodraethu gan raglawniau, a’i rhannu’n llywodraethiaethau (taleithiau) yn ddiweddarach. Felly, o'r dechrau, arhosodd ymreolaeth Gwlad Pwyl fawr mwy na ffuglen.

O ganlyniad uniongyrchol, cafodd unrhyw statws ar wahân yn y deyrnas ei ddileu ac ymgorfforwyd yr endid gwleidyddol yn uniongyrchol yn Ymerodraeth Rwseg. Disodlodd yr enw answyddogol Privislinsky Krai (Rwseg: Привислинский Край), h.y. 'Tir Vistula', 'Teyrnas Gwlad Pwyl' fel enw swyddogol yr ardal a daeth yr ardal yn namestnichestvo dan reolaeth namiestnik tan 1875, pan ddaeth yn Guberniya (talaith)

Parhaodd Pwyleg yn iaith swyddogol tan ganol y 1860au, pan ddaeth Rwsieg yn ei lle. Arweiniodd hyn at arwyddion stryd a dogfennau dwyieithog, ond methodd gweithrediad llawn sgript Cyrillig i'r iaith Bwyleg.

Hyd at y Gwrthryfel ym mis Tachwedd ym 1831, roedd y deyrnas mewn undeb personol â tsars Rwsia. Wedi hynny, cafodd y wladwriaeth ei hintegreiddio'n rymus i Ymerodraeth Rwseg yn ystod y 19g. Ym 1915, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, disodlwyd y Pwerau Canolog y deyrnas a chrewyd Theyrnas Rhaglywiaeth Gwlad Pwyl (pyped Almaenig), nes i Wlad Pwyl adennill annibyniaeth yn 1918.

Breninoedd

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 "The Social and Political History of the Polish Language in the Long 19th Century". Kamusella. 24 January 2017. Cyrchwyd 1 November 2018.
  2. 2.0 2.1 Nicolson, Harold George (2001). The Congress of Vienna: A Study in Allied Unity, 1812–1822. New York: Grove Press. t. 171. ISBN 0-8021-3744-X.
  3. 3.0 3.1 Palmer, Alan Warwick (1997). Twilight of the Habsburgs: The Life and Times of Emperor Francis Joseph. Boston: Atlantic Monthly Press. t. 7. ISBN 0-87113-665-1.
  4. Agnieszka Barbara Nance, Nation without a State: Imagining Poland in the Nineteenth Century, dissertation for the degree of Doctor of Philosophy, The University of Texas at Austin, pp. 169-88
Eginyn erthygl sydd uchod am Wlad Pwyl. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.