Enghraifft o'r canlynol | gwrthdaro arfog, Gwrthdaro ethnig |
---|---|
Lladdwyd | 37,000 |
Rhan o | Israel–Palestine relations, Gwrthdaro Arabaidd-Israelaidd |
Dechreuwyd | 14 Mai 1948 |
Rhagflaenwyd gan | Intercommunal conflict in Mandatory Palestine |
Lleoliad | Israel, Gwladwriaeth Palesteina, Palesteina |
Yn cynnwys | Gwrthdaro Israel-Gaza, 1948 Palestine War, Rhyfel Chwe Diwrnod, Rhyfel Yom Kippur, Palestinian insurgency in South Lebanon, Intifada Cyntaf Palesteina, Ail Intifada'r Palesteiniaid |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Anghydfod rhwng Gwladwriaeth Israel a'r Palesteiniaid yw'r gwrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd. Mae'r ddwy genedl yn hawlio yr un tir ac mae'r gwrthdaro'n ffurfio rhan o'r gwrthdaro Arabaidd-Israelaidd, sef gwrthdaro gwleidyddol a milwrol eangach rhwng Israel a'r byd Arabaidd. Mae'r gwrthdaro wedi bod yn ffactor ganolog yng ngwleidyddiaeth y Dwyrain Canol ers creu gwladwriaeth Israel yn 1948 pan orfodwyd cannoedd o filoedd o Balesteiniaid i ffoi o'u cartrefi yn yr hen Balesteina, ffoedigaeth a adnabyddir gan y Palesteiniaid fel Al Nakba (Arabeg: النكبة "Y Drychineb").
Ceisiwyd ateb dwy-wladwriaeth, sy'n golygu creu gwladwriaeth Balesteinaidd annibynnol ochr yn ochr ag Israel. Ar hyn o bryd, yn ôl nifer o arolygon barn, cytuna'r mwyafrif helaeth o Israeliaid a Phalesteiniaid taw ateb dwy-wladwriaeth yw'r ffordd orau i ddod â therfyn i'r gwrthdaro. Ystyrir y Lan Orllewinol a Llain Gaza gan y mwyafrif o Balesteiniaid fel tir ar gyfer gwladwriaeth, barn a gefnogir gan y mwyafrif o Israeliaid. Cefnogir ateb un-wladwriaeth gan ychydig o academyddion; mae'r syniad hwn yn galw ar Israel, Llain Gaza, a'r Lan Orllewinol i ffurfio un wladwriaeth sy'n cynnwys y ddwy genedl gyda hawliau cyfartal i bawb. Fodd bynnag, mae anghytundeb sylweddol ynglŷn â ffurf unrhyw gytundeb terfynol a hefyd ynglŷn â'r lefel o hygrededd mae'r naill ochr yn ei weld yn y llall wrth gadw at ymrwymiadau sylfaenol.
Mae ymatebion eraill i'r sefyllfa yn cynnwys cael gwared ar Wladwriaeth Israel yn gyfan gwbl a chreu gwladwriaeth newydd yn cynnwys tiriogaeth Israel, Llain Gaza a'r Lan Orllewinol yn ei lle; dyma hen safbwynt Mudiad Rhyddid Palesteina (PLO) a safbwynt presennol Hamas ac eraill. Ar y llaw arall mae rhai Israeliaid sy'n arddel Seioniaeth eithafol yn credu yn y syniad o greu "Israel Fwyaf" a fyddai'n ymestyn o lannau afon Ewffrates i Gwlff Suez, heb le i wladwriaeth Balesteinaidd o gwbl.
Ymglymir nifer o chwaraewyr lleol a rhyngwladol yn y gwrthdaro. Y prif bleidiau sy'n trafod yw llywodraeth Israel, a arweinir gan Benjamin Netanyahu, a'r PLO, a arweinir gan Mahmoud Abbas.
Cyflafareddir y trafodaethau swyddogol gan grŵp rhyngwladol o'r enw'r Pedwarawd ar y Dwyrain Canol, a gynrychiolir gan gennad arbennig, sy'n cynnwys yr Unol Daleithiau, Rwsia, yr Undeb Ewropeaidd a'r Cenhedloedd Unedig. Chwaraewr pwysig arall yw'r Cynghrair Arabaidd, sydd wedi cynnig cynllun heddwch gwahanol. Yn hanesyddol mae'r Aifft, un o'r aelodau a sefydlodd y Cynghrair Arabaidd, wedi bod yn chwaraewr allweddol a blaenllaw yn y trafodaethau.
Dechreuodd y trafodaethau heddwch diweddaraf yn Annapolis, UDA, ym mis Tachwedd 2007. Amcan y trafodaethau hyn oedd ennill penderfyniad terfynol erbyn diwedd 2008. Cytunodd y pleidiau fod chwe mater craidd, neu "statws terfynol", sydd angen eu hateb: statws Jerwsalem, ffoaduriaid Palesteinaidd, aneddiadau Israelaidd, diogelwch, ffiniau a dŵr.
Ers 2006, holltir yr ochr Balesteinaidd gan wrthdaro rhwng y ddwy brif garfan: Fatah, y blaid fwyaf, a Hamas. O ganlyniad, rhennir y diriogaeth a reolir gan Awdurdod Cenedlaethol Palesteina (llywodraeth dros dro Palesteina) rhwng Fatah yn y Lan Orllewinol a Hamas yn Llain Gaza. Mae hyn yn faen tramgwydd oherwydd ystyrid Hamas yn fudiad terfysgol gan Israel a nifer o wledydd eraill felly er gwaethaf i'r blaid ennill etholiadau democrataidd yn 2006, ni chaniaeteir iddi fod yn rhan o'r trafodaethau swyddogol.
O fewn cymdeithas Israelaidd a Phalesteinaidd, mae amrywiaeth eang o farn a safbwyntiau ar y gwrthdaro a'r broses heddwch. Mae hyn yn amlygu'r rhaniadau sy'n bodoli nid yn unig rhwng yr Israeliaid a'r Palesteiniaid, ond hefyd ymhlith ei gilydd.
Un o brif nodweddion y gwrthdaro ers iddo dechrau yw'r lefel o drais, gyda byddinoedd rheolaidd, grwpiau parafilwrol a chelloedd terfysgol i gyd yn ymladd. Nid aelodau'r lluoedd arfog yn unig a leddir; mae colledion enfawr o ran sifiliaid y ddwy ochr.
Dyma'r niferoedd sydd wedi'u lladd neu eu hanafu gan y ddwy ochr; daw'r ffigurau canlynol oddi wrth 'The Office for the Coordination of Humanitarian Affairs for the occupied Palestinian territory' (OCHAoPt).
Blwyddyn | Marwolaethau | Anafiadau | ||
---|---|---|---|---|
Palesteiniaid | Israeliaid | Palesteiniaid | Israeliaid | |
2005 | 216 (52) | 48 (6) | 1,260 (129) | 484 (4) |
2006 | 678 (127) | 25 (2) | 3,194 (470) | 377 (7) |
2007 | 396 (43) | 13 (0) | 1,843 (265) | 322 (3) |
2008 | 887 (347) | 34 (6) | 2,325 (556) | 819 (10) |
2009 | 1,059 (90) | 11 (1) | 6,401 (2,393) | 112 (1) |
2010 | 87 (9) | 8 (0) | 1,572 (342) | 177 (2) |
2011 | 117 (14) | 16 (8) | 2,143 (442) | 120 (2) |
2012 | 259 (45) | 7 (0) | 4,677 (1,082) | 571 (2) |
2013 | 39 (5) | 6 (0) | 3,992 (1,251) | 151 (8) |
2014 | 2,327 (567) | 88 (4) | 17,533 (4,710) | 2,708 (413) |
2015 | 174 (32) | 26 (0) | 14,639 (2,732) | 313 (17) |
2016 | 108 (37) | 12 (1) | 34,64 (1,048) | 210 (13) |
2017 | 77 (14) | 17 (0) | 8,449 (1,205) | 157 (5) |
2018 | 299 (57) | 13 (0) | 31,259 (6,427) | 117 (7) |
2019 | 137 (27) | 10 (1) | 15,491 (5,557) | 123 (8) |
2020 | 30 (9) | 3 (0) | 2,751 (425) | 58 (1) |
2021 | .. | .. | .. | .. |
Cyfanswm | 6,890 (2950) | 337 (29) | 120,993 (28,637) | 6,819 (503) |
Yn ystod ymosodiad 2008 Israel ar y Palesteiniaid yn Llain Gaza credir fod oddeutu bron i 400 o blant. Yn ôl grŵp o Aelodau Seneddol a ymwelodd â Llain Gaza yn 2009 (sef Britain-Palestine All Party Parliamentary Group) mae oddeutu 6,500 o blant wedi'u carcharu yn Israel. Ym Mehefin 2012 croesawodd Richard Burden AS (sef cadeirydd y grŵp) Adroddiad a gomisiynwyd gan y Swyddfa Dramor a ddaeth i'r canlyniad fod Awdurdodau Israel yn fwriadol dorri Pedwerydd Confensiwn Genefa dros Hawliau'r Plentyn. Dywed yr Adroddiad mai o flaen llysoedd milwrol caëdig y daw'r plant i'w dedfydu. Mae'r Adroddiad yn nodi fod sytem cwbwl wahanol i blant Israelaidd. Mae plant Palesteinaidd mor ifanc â deuddeg oed yn cael eu herlyn yn y llysoedd milwrol, ond 14 yw lleiafswm oedran plentyn Israelaidd i gael ei erlyn mewn llys sifil. Ni erlynir plant Israelaidd mewn llysoedd milwrol. Nid oes hawl gan blant Palesteiniaidd i'w rhieni (na chyfreithwyr) i fod yn bresennol. Mae'r gwahaniaeth rhwng plant y ddwy genedl hefyd yn aruthrol o ran y cyfnod y gellir eu dal mewn carchar heb fynd o flaen y llys: 40 diwrnod i Israeliad, 188 diwrnod i Balesteiniad.
Dywed yr Adroddiad hwn gan gyfreithwyr o Wledydd Prydain:
“ | ...those who have been identified as offenders or suspects are arrested by soldiers, usually in night-time
raids on their homes are blindfolded, and, with their wrists painfully bound behind them, are then transported to interrogation centres, sometimes face-down on the floor of military vehicles. The majority are verbally and / or physically abused and, without being informed of their right to silence or the right to see a lawyer, are sometimes held in solitary confinement, pressured to inculpate themselves and others, and are often made to sign statements which they cannot read because they are written in Hebrew. |
” |
Rhwng 2000 a 2009 cafodd 6,700 o blant dan 18 oed eu harestio gan Awdurdodau Israel, yn ôl Amddiffyn Plant Rhyngwladol (Defence for Children International). Roedd 423 ohonynt mewn carchardai yn 2009; erbyn 280 roedd y ffigwr i lawr i 280. Dywedodd llefarydd ar eu rhan fod hyn yn gwbwl groes i Ddeddfau Rhyngwladol. Nid yw'n anghyffredin i'r plant gael eu dal mewn carchar am 6 mis heb weld eu teulu a'u bod yn cael eu poenydio.