Herwlongwriaeth

Herwlongwriaeth
Enghraifft o'r canlynolgalwedigaeth, galwedigaeth forwrol, ambiguous Wikidata item Edit this on Wikidata
Mathgwron, morwr, milwyr afreolaidd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yr arfer o ymosod ar longau gwledydd eraill a'u hysbeilio a hynny gydag awdurdod llywodraethol yw herwlongwriaeth neu breifatirio. Rhoddir yr enw preifatîr (o'r Saesneg privateer) neu herwlong ar long a ddefnyddir at y diben hwn, a gelwir capten y fath long hefyd yn breifatîr neu'n herwlongwr. Mae herwlongwriaeth yn wahanol i fôr-ladrad, sef ysbeilio heb ganiatâd unrhyw lywodraeth.

Yn ystod Oes Elisabeth, derbyniodd sawl morwr Seisnig nawddogaeth gudd oddi wrth y Frenhines Elisabeth I i ysbeilio llongau trysor Sbaen ym Môr y Caribî. Ymosodwyd ar lynges Sbaen ym Mae Cádiz gan Syr Francis Drake yn 1587, mewn brwydr a elwir "llosgi barf Brenin Sbaen". Yn y 1590au ymosodwyd ar drefedigaethau Ymerodraeth Sbaen yn y Caribî gan Christopher Newport. a lwyddodd hefyd i gipio sawl llong oddi ar y Sbaenwyr a'r Portiwgaliaid.

Môr-herwyr nodedig

Cyfeiriadau

  1.  preifatîr. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 7 Hydref 2019.
  2.  herwlong. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 7 Hydref 2019.
  3.  herwlongwr. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 7 Hydref 2019.