Homo heidelbergensis Amrediad amseryddol: 0.6–0.3 Miliwn o fl. CP Pleistosen Canol | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Primates |
Teulu: | Hominidae |
Is-deulu: | Homininae |
Llwyth: | Hominini |
Is-lwyth: | Hominina |
Genws: | Homo |
Rhywogaeth: | H. heidelbergensis |
Enw deuenwol | |
Homo heidelbergensis Schoetensack, 1908 |
Rhywogaeth a arferai fyw yn Ewrop, Affrica a gorllewin Asia oedd Homo heidelbergensis – a elwir weithiau'n Homo rhodesiensis. Mae Homo heidelbergensis yn rhywogaeth o'r genws Homo a oedd yn byw rhwng 600 a 200 mil o flynyddoedd cyn y presennol (CP).
Roedd ei ymennydd oddeutu'r un maint ag ymennydd yr Homo sapiens modern. Canfyddwyd y rhywogaeth hon am y tro cyntaf yn Heidelberg yn yr Almaen yn 1907, ac fe'i disgrifiwyd gan Otto Schoetensack; ef hefyd fathodd yr enw.
Mae Dyn Neanderthal, Denisovan a bodau dynol modern (H. s. sapiens) i gyd yn tarddu o H. heidelbergensis. Rhwng 300,000 a 400,000 o flynyddoedd CP, gwahanodd grŵp o H. heidelbergensis yn grŵp annibynnol o'r gweddill cyn gynted ag y gadawodd Affrica. Trodd rhai i gyfeiriad Ewrop a Gorllewin Asia gan esblygu yn nes ymlaen yn Neandertaliaid. Trodd grŵp arall tua'r dwyrain, i gyfeiriad Asia, gan esblygu ymhen hir a hwyr yn Denisovaid. Esblygodd H. heidelbergensis yn H. sapiens tua 130,000 CP.
O astudio'r esgyrn, credir fod H. antecessor a H. heidelbergensis yn tarddu o linach yr Homo ergaster o Affrica. Mae'r ffaith fod gan H. heidelbergensis ymennydd gyda chyfaint o1100–1400 cm³ (o'i gymharu gyda'r ymennyd modern: 1350 cm³) yn peri i baleoanthropolegion gredu fod ganddo allu i drin offer llaw ac ymddygiad cymdeithasol eitha datblygedig. Oherwydd hyn, rhoddwyd iddo ddosbarthiad tacsonomegol ei hun: rhywogaeth unigryw ei hun.
Roedd taldra gwryw y rhywogaeth Homo heidelbergensis oddeutu 1.75 m (5 tr 9 modf) a phwysent 62 kg (136 pwys); taldra cymharol y fenyw oedd 1.57 m (5 tr 2 modf) a 51 kg (112 pwys). Roeddent felly ychydig talach na'r dyn Neanderthal. Yn ôl Lee R. Berger roedd rhai ohonynt cyn daled a 2.13 m (7 tr) - sef yr Homo heidelbergensis a drigai yn Ne Affrica rhwng 500,000 a 300,000 CP.
|accessdate=
(help)