Iwan Llwyd | |
---|---|
Ganwyd | 15 Tachwedd 1957 Carno |
Bu farw | 28 Mai 2010 Bangor |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd |
Bardd, Prifardd a cherddor oedd Iwan Llwyd Williams (15 Tachwedd 1957 – 28 Mai 2010).
Ganed Iwan Llwyd yng Ngharno, Powys, cyn symyd i Dal-y-bont, Dyffryn Conwy, ac yna i Fangor yn 10 oed. Mynychodd Ysgol Gynradd Tal-y-bont, Conwy, Ysgol Gymraeg Sant Paul, Bangor ac Ysgol Friars, Bangor cyn astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Ar ôl iddo raddio gydag MA mewn barddoniaeth ganol oesol, dechreuodd weithio i gwmni cysylltiadau cyhoeddus cyn mynd yn hunan-gyflogedig.
Daeth yn enwog fel bardd wedi iddo ennill y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol 1990, ar y testun "Gwreichion". Cafodd ei lyfr, Be 'Di Blwyddyn Rhwng Ffrindia?: Cerddi 1990-99, ei restru ar Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn, 2004.
Yn gerddor yn ogystal â bardd, fu'n canu'r gitâr fas gyda Geraint Lövgreen a'r Enw Da, yn ogystal â gyda Steve Eaves. Roedd yn aelod o'r grŵp Doctor ar ddechrau'r 1980au.
Roedd yn un o sefydlwyr y mudiad iaith Cymuned.
Bu farw yn ei fflat ym Mangor yn 52 mlwydd oed. Yn ôl y cwest, canfuwyd ei gorff ychydig ddyddiau ar ôl iddo farw, a cofnododd y crwner achos o farwolaeth naturiol.