Johnny Cash | |
---|---|
Ganwyd | J. R. Cash 26 Chwefror 1932 Kingsland, Arkansas |
Bu farw | 12 Medi 2003 Nashville, Tennessee |
Label recordio | Sun Records, Charly Records, Columbia Records, American Recordings, House of Cash |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | canwr-gyfansoddwr, actor, gitarydd |
Adnabyddus am | At Folsom Prison, Folsom Prison Blues, I Walk the Line, Ring of Fire |
Arddull | canu gwlad, canu gwlad 'outlaw', cerddoriaeth yr efengyl, roc a rôl, rockabilly, y felan, canu gwerin |
Math o lais | bas-bariton |
Taldra | 1.88 metr |
Plaid Wleidyddol | Annibynnwr |
Tad | Ray Cash |
Mam | Carrie Cloveree Rivers |
Priod | Vivian Liberto, June Carter Cash |
Plant | Rosie Nix Adams, Rosanne Cash, John Carter Cash, Kathy Cash, Cindy Cash, Tara Cash |
Gwobr/au | Y Medal Celf Cenedlaethol, Gwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, Gwobr Grammy Legend, Rock and Roll Hall of Fame, Chwedl Fyw Llyfrgell y Gyngres, Gwobr Horatio Alger, Anrhydedd y Kennedy Center, Americana Award for Artist of the Year, "Spirit of Americana" Free Speech Award, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Willie Nelson Lifetime Achievement Award |
Gwefan | https://johnnycash.com |
Canwr Americanaidd oedd John R. "Johnny" Cash (26 Chwefror 1932 – 12 Medi 2003) ac awdur, a elwir gan rai yn un o gerddorion mwyaf yr 20g. Cafodd ei fagu yn Dyess, Arkansas, a gallai olrhain ei deulu yn ôl i'r Alban.
Roedd ganddo lais bâs-bariton unigryw ac roedd yn hoff o roi cyngherddau am ddim i garcharorion. Roedd rhai'n ei alw'n "The Man in Black" a chychwynai llawer o'i gyngherddau drwy ddweud, "Hello, I'm Johnny Cash."
Roedd llawer o'i ganeuon yn drist neu'n sôn am faddeuant, Cristnogaeth a phroblemau moesol. Ymhlith ei ganeuon mwyaf poblogaidd y mae: I Walk the Line, Folsom Prison Blues, Ring of Fire, Get Rhythm a Man in Black. Roedd rhai o'i ganeuon yn llawn hiwmor, megis A Boy Named Sue.