Awdures o Ddenmarc oedd y farwnes Karen Christenze von Blixen-Finecke neu fel arfer, Karen Blixen, (17 Ebrill1885 - 7 Medi1962) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel awdur a hunangofiannydd. Ysgrifennai yn y Ddaneg a'r Saesneg; defnyddiai'r enw-awdur 'Isak Dinesen' ar lyfrau a gyhoeddwyd yn y gwledydd Almaeneg eu hiaith, ac ar adegau defnyddiai 'Osceola' a 'Pierre Andrézel'.
Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: Out of Africa sy'n fywgraffiad o'r cyfnod pan roedd yn byw yn Cenia, a Babette's Feast; troswyd y ddau lyfr ar gyfer y sgrin mawr. Derbyniodd y ddwy ffilm, hefyd Wobr yr Academi. Yn Denmarc mae'n nodedig am ei chyfrol 'Saith Chwedl Gothig' (Syv Fantastiske Fortællinger; 1934).
Ganed Karen Dinesen ym mhlasty Rungstedlund, gogledd Copenhagen ar 17 Ebrill1885 a bu farw yno hefyd; fe'i claddwyd yn Rungstedlund. Roedd ei thad, Wilhelm Dinesen (1845-1895), yn awdur, swyddog y fyddin o deulu a oedd yn dirfeddiannwyr cefnog yn ardal Jutland a oedd â chysylltiad agos â brenhiniaeth Denmarc, yr eglwys a gwleidyddiaeth geidwadol. Daeth ei mam, Ingeborg Westenholz (1856-1939), o deulu o fasnachwr bourgeois cyfoethog. Karen Dinesen oedd yr ail hynaf mewn teulu o dair chwaer a dau frawd. Tyfodd ei brawd iau, Thomas Dinesen, i ennill Croes Victoria yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Dylanwadwyd ar y Dinesen ifanc gan ffordd hamddenol ei thad a'i gariad at yr awyr agored. Ysgrifennodd drwy gydol ei oes a daeth ei hunangofiant, Boganis Jagtbreve (Llythyrau o'r Helfa) yn glasur bach yn llenyddiaeth Daneg. Rhwng Awst 1872 a Rhagfyr 1873, roedd William wedi byw ymhlith Indiaid Chippewa yn Wisconsin, a thadogodd ferch gan un o'r indiaid. Ar ôl iddo ddychwelyd i Ddenmarc, dioddefodd o syffilis a arweiniodd at gyfnodau o iselder ysbryd dwfn. Er hyn, bu iddo dadogi merch gan y forwyn Anna Rasmussen, gan dorri ei addewid i fod yn ffyddlon i'w wraig. Crogodd ei hun ar 28 Mawrth 1895 pan oedd Karen bron yn ddeg oed.
Yn wahanol i'w brodyr, a fynychodd yr ysgol, cafodd ei haddysgu gartref gan ei mam-gu o ochr ei mam, a'i modryb Mary B. Westenholz, a fagodd hi yn nhraddodiad cadarn yr Undodiaid. Dylanwadwyd ar Dinesen gan Fodryb Bess, fel y galwai Westenholz. Roedd eu trafodaethau'n fywiog, eang a thwfn ar hawliau merched a'r berthynas rhwng dynion a merched.
Ym 1898, treuliodd Dinesen a'i dwy chwaer flwyddyn yn y Swistir, lle dysgodd siarad Ffrangeg. Yn 1902, aeth i ysgol gelf Charlotte Sode yn Copenhagen cyn parhau â'i hastudiaethau yn Academi Celfyddydau Cain Brenhinol Denmarc, o dan Viggo Johansen o 1903 i 1906. Yn ei chanol-oed, ymwelodd hefyd â Pharis, Llundain a Rhufain.
Bu'n briod i farwn Bror von Blixen-Finecke. Roedd Aage Westenholz (1859–1935) yn ewyrth i'r ddau ohonynt, ac awgrymodd y gallent sefydlu fferm goffi yn Siam, a buddsoddodd yn y fenter: 150,000 Coron Daneg. Yn gynnar ym 1913, gadawodd Bror Blixen-Finecke i Kenya. Dilynwyd ef gan ei ddyweddi ym mis Rhagfyr.
Bu farw Blixen, o ddiffyg maeth, yn Rungstedlund, yn 77 oed.
Gwaith llenyddol
Mae archif Karen Blixen yn Llyfrgell Frenhinol Denmarc, ac mae'n cynnwys cerddi heb eu cyhoeddi, dramâu a straeon byrion. Yn ei harddegau ac yn ei hugeiniau cynnar, mae'n debyg iddi dreulio llawer o'i hamser hamdden yn ymarfer y grefft o ysgrifennu. Dim ond pan oedd hi'n 22 oed y penderfynodd gyhoeddi rhai straeon byrion mewn cylchgronau llenyddol, gan fabwysiadu'r enw-awdur Osceola, sef enw ci ei thad.
Eneboerne (The Hermits), Awst 1907, cyhoeddwyd mewn Daneg yn Tilskueren dan yr enw Osceola)
Pløjeren (The Ploughman), Hydref 1907, cyhoeddwyd mewn Daneg yn Gads danske Magasin, dan yr enw Osceola)
Familien de Cats (The de Cats Family), Ionawr 1909, cyhoeddwyd mewn Daneg yn Tilskueren dan yr enw Osceola)
Sandhedens hævn – En marionetkomedie, Mai 1926, cyhoeddwyd mewn Daneg yn Tilskueren, dan yr enw Karen Blixen-Finecke; cyfieithwyd i'r Saesneg gan Donald Hannah dan y teitlThe Revenge of Truth: A Marionette Comedy a argraffwyd yn Performing Arts Journal yn 1986
Carnival: Entertainments and Posthumous Tales (1977, UDA)
Daguerreotypes and Other Essays (1979, United States)
On Modern Marriage and Other Observations (1986, UDA)
Letters from Africa, 1914–1931 (1981, UDA)
Karen Blixen in Danmark: Breve 1931–1962 (1996, Denmarc)
Karen Blixen i Afrika. En brevsamling, 1914–31 i IV bind (2013, Denmark)
Aelodaeth
Bu'n aelod o Academi Celfyddydau Cain Bafaria am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau
Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Beirniaid Daneg ar gyfer Llenyddiaeth (1957), Gwobr Tagea Brandt Rejselegat (1939), Ingenio et Arti (1950), Medal Holberg (1949), De Gyldne Laurbær (1952) .
↑Marianne T. Stecher (2014). The Creative Dialectic in Karen Blixen's Essays: On Gender, Nazi Germany, and Colonial Desire (yn Saesneg). University of Chicago Press. t. 107. ISBN9788763540612.