Leda

Leda, gan Michelangelo.
Leda a'r Alarch ar lamp o Attica, 3edd ganrif OC.
Am ystyron eraill gweler Leda (gwahaniaethu).

Ym mytholeg Roeg, brenhines Sparta oedd Leda a mam y Dioscuri, sef Castor a Pollux, ac Elen o Gaerdroea. Ceir sawl chwedl amdani.

Yn ôl Homer a thraddodiadau eraill, roedd Leda yn ferch i Thestius, brenin Aetolia, ac yn chwaer i Althea. Priododd Tyndareos, brenin Sparta, a chawsant yn blant y gefeilliaid Castor a Pollux, y ddau dduw a adnabyddid fel y Dioscuri yn Roeg a'r Polydeuces yn Lladin. Cafodd Elen, arwres ganolog yr Iliad, gan y duw Iau (Zeus).

Ond yn gyffredinol, derbyniai'r Groegiaid fod Elen a Pollux yn blant Iau tra bod Clytaemnestra a Castor yn blant meidrol Leda gan Tyndareos.

Datblygwyd y chwedl a chafwyd trydydd fersiwn o'r hanes. Dyma'r chwedl enwog am Iau yn ymweld â Leda yn rhith alarch ac yn cael cyfathrach rywiol gyda hi, sy'n un o sawl chwedl am Frenin y Duwiau yn ymserchu mewn merch feidrol ac yn cenhedlu plant ganddi. Rhoddodd Leda enedigaeth i ddau ŵy: o un ohonynt daeth y Gefeilliaid Castor a Pollux ac o'r ail daeth Elen. Roedd y chwedl hon yn enwog yn yr Henfyd a cheir fersiwn ohoni ym Metamorphoses Ofydd. Mae wedi ysbrydoli nifer o artistiaid byth ers hynny, yn cynnwys Leonardo da Vinci a Michelangelo.

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: