Lled-ddargludydd

Diagram band

Mae lled-ddargludydd yn fath o ddeunydd sydd gyda dargludiad trydanol rhwng dargludyddion megis copr, aur, ac ynysyddion megis plastig a gwydr. Geill y rhinwedd dargludo gael ei addasu trwy ddulliau fel dopio, sydd yn cyflwyno amhurdebau i'r prif ddeunydd. Golyga hyn bod strwythur deunydd o'r unfath yn amrywio o un ardal i'r llall. Pan fo dwy ardal gyda phriodwedd dopio gwahanol yn bodoli o fewn yr un crisial, ceir cysylltle lled-ddargludol. Ymddygiad cludyddion gwefr ger y cysylltle lled-ddargludol yw sail cydrannau electronig megis diodau, transistorau a nwyddau electronig modern.

Nid yw lled-ddargludd pur yn ddefnyddiol iawn gan nad yw'n ddargludydd da nac yn ynysydd da. Nodwedd pwysig lled-ddargludydd yw'r gallu i reoli dargludiad trydanol gyda dopio a presenoldeb maes trydanol. Bydd dopio a phresenoldeb maes trydanol yn symud y band dargludo neu'r band ynysu yn agosach i'r lefel Fermi, gan gynyddu'r nifer o stadau rhannol llawn.