Math | cangen o'r fyddin, uned o'r llynges |
---|---|
Yn cynnwys | môr-filwr, Gwylwyr y glannau, naval reserve force |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Casgliad o longau yw llynges (enw benywaidd), boed yn llynges fasnach neu'n llynges filwrol.
Mae'r llynges filwrol yn bodol fel rhan fyddin fwy, gyda'r nod o ddefnyddio trais er mwyn ymosod neu amddiffyn ar eu gelyn. Gall gynnwys gweithgareddau o longau, llongau tanfor ac awyrennau morwrol yn ogystal â thaflegrau wedi'u tanio ohonynt.
Arferai llongau gadw at ei gilydd mewn grŵp er mwyn amddiffyn eu hunain. Cyn dyddiau'r canon a'r magnel, defnyddiwyd dull o drawo un llong yn ei hochor gyda blaen cwch neu long arall, a pherffeithiwyd hynny mor gynnar â chyfnod y Groegwiaid a'r Rhufeiniaid. Cofnodwyd sawl brwydr rhwng llyngesau anferthol ers y Frenhinllin Qin rhwng 221 a 206 C.C.
Mae'n bosibl mai llynges oedd gan Madog ab Owain Gwynedd a hwyliodd i gyfandir America tua 1170 ac ymsefydlu yno, dros dri chan mlynedd cyn mordaith gyntaf Christopher Columbus yn 1492. Roedd gan y Tywysogion Cymreig lyngesau arfog yn yr Oesoedd Canol.