Math | dinas yn Wcráin |
---|---|
Enwyd ar ôl | Afon Luhan |
Poblogaeth | 417,990 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Manolis Piławow |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00, EET |
Gefeilldref/i | Rostov-ar-Ddon, Lublin, Caerdydd, Saint-Étienne, Daqing, Székesfehérvár, Pernik, Bwrdeistref Vansbro, Belgorod, Voronezh, Nizhniy Tagil, Santos, Moscfa |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Wcreineg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Luhansk urban hromada |
Gwlad | Wcráin |
Arwynebedd | 257 km² |
Uwch y môr | 105 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 48.571708°N 39.297315°E |
Cod post | 91001–91479, 291001–291479 |
Pennaeth y Llywodraeth | Manolis Piławow |
Dinas yn nwyrain Wcráin ger y ffin â Rwsia yn ardal ddadleuol y Donbas yw Luhansk (Wcreineg: Луганськ, yngenir ) neu Lugansk (Rwseg: Луганск, yngenir ; trawnslythrennu: Lwgansc), a elwid gynt yn Voroshilovgrad (Wcreineg a Rwseg: Ворошиловград) yn 1935-1958 a 1970-1990. Ar hyn o bryd, mae Luhansk yn brifddinas a chanolfan weinyddol ar Weriniaeth Pobl Luhansk, ardal a dorrodd yn rhydd yn 2014 o blaid Rwsia. Y ddinas hon a'r ardaloedd cyfagos sydd wedi bod yn un o'r prif safleoedd Rhyfel y Donbas. Nes i Luhansk gael ei chipio gan y Weriniaeth, canolfan weinyddol Oblast Luhansk oedd hi. Amcangyfrifir mai 399,559 o bobl sydd yn byw yn y ddinas heddiw.
Mae'r ddinas yn olrhain ei hanes yn ôl i 1795 pan sefydlodd y diwydiannwr Prydeinig Charles Gascoigne ffatri fetel ger anheddiad y Cosaciaid Zaporizhiaidd, Kamianyi Brid. Roedd yr anheddiad o gwmpas y ffatri yn dwyn yr enw Luganskiy Zavod a chyfunwyd hi â thref Kamianyi Brid yn 1882 i greu dinas Luhansk. Ar Fasn Donets, datblygodd Luhansk yn ganolfan ddiwydiannol bwysig yn Nwyrain Ewrop, yn enwedig fel cartref i gwmni mawr adeiladu locomotifau Luhanskteplovoz. Meddiannwyd y ddinas gan yr Almaen Natsïaidd rhwng 14 Gorffennaf 1942 a 14 Chwefror 1943.
Ar 5 Tachwedd 1935, ailenwyd y ddinas yn Voroshilovgrad (Rwsieg: Ворошиловград; Wcreineg: Ворошиловград) er mwyn anrhydeddu'r cadlywydd a'r gwleidydd Sofietaidd Kliment Voroshilov. Ar 5 Mawrth 1958, yn dilyn galwad gan Khrushchev i beidio â rhoi enwau pobl fyw ar ddinasoedd, adferwyd yr hen enw. Ar 5 Ionawr 1970, ar ôl marwolaeth Voroshilov ar 2 Rhagfyr 1969, newidiwyd yr enw eto i Voroshilovgrad. O'r diwedd, ar 4 Mai 1990, rhoddodd archddyfarniad gan Senedd Wcráin yr enw gwreiddiol yn ôl i'r ddinas.
Yn 1994, bu refferendwm yn Oblast Donetsk ac Oblast Luhansk, pan gefnogodd oddeutu 90% o bobl y cynnig i roi statws swyddogol i Rwseg ochr yn ochr â'r Wcreineg, ac i Rwseg fod yn iaith swyddogol ar lefel ranbarthol. Er hynny, dirymwyd y refferendwm hwn gan lywodraeth Wcráin.
Yn ystod y rhyfel yn y Donbas, cipiodd ymwahanwyr adeiladau'r llywodraeth yn yr ardal, gan ddatgan fodolaeth Gweriniaeth Pobl Luhansk. Cynhaliwyd refferendwm ar annibyniaeth, a oedd yn anghyfansoddiadol dan gyfraith Wcráin, ar 11 Mai 2014. Ni chydnabuwyd hwn fel refferendwm cyfreithlon gan unrhyw lywodraeth heblaw De Osetia. Nid yw Wcráin yn cydnabod y refferendwm a dywedodd yr UE ac UDA fod y reffereda yn anghyfreithlon hefyd.
Ar 25 Mehefin 2014, pennodd llywodraeth ymwahanol Gweriniaeth Pobl Luhansk y ddinas yn brifddinas iddi.
Ym mis Awst 2014, amgylchynodd lluoedd Wcráin Luhansk, a oedd yn nwylo'r gwrthryfedlwyr. Anafwyd nifer wedi i daflegrau fwrw'r ddinas. Ar 17 Awst, aeth milwyr Wcráin i mewn i Luhansk ac roedd ganddynt reolaeth dros orsaf heddlu am ychydig.
Ar ôl gwrthymosodiad brwydr Ilovaisk, adenillodd lluoedd y Weriniaeth Lutuhyne a maestrefi eraill yn Luhansk. Tynnodd lluoedd Wcráin yn ôl o Faes Awyr Rhyngwladol Luhansk ar 1 Medi 2014 ar ôl ymladd chwyrn.
Daeth Luhansk yn brifddinas a chanolfan weinyddol ar y Weriniaeth ac felly symudodd llywodraeth Wcráin wweinyddiaeth Oblast Luhansk i Sievierodonetsk.
Mae rhai o brifysgolion enwocaf Wcráin yn Luhansk. Luhansk yw leoliad prif gampysau Prifysgol Genedlaethol Tara Shevchenko Wcráin, Prifysgol Genedlaethol Volodymyr Dahl Dwyrain Wcráin a Phrifysgol Feddygol Wladol Luhansk.
Yng nghyfrifiad Wcráin yn 2001, 49.6% o'r drigolion oedd yn dweud mai Wcreiniaid ethnig oedden nhw a 47% mai Rwsiaid ethnig oeddynt. Roedd 85.3% yn siarad Rwsieg, yr iaith frodorol fwyaf yno, ac 13.7% oedd yn siarad Wcreineg fel iaith frodorol. Cafwyd niferoedd llai yn siarad Armeneg (0.2%) a Belarwseg (0.1%).
Mae Luhansk yn gartref i dîm pêl-droed Zorya Luhansk, sydd nawr yn chwarae ym mhencampwriaeth flynyddol Uwch Gynghrair Wcráin ac yn Stadiwm Avanhard. Enilloedd y clwb Gynghrair Uwch y Sofietiaid yn 1972.
Dynamo Luhansk oedd y tîm arall y bu'r ddinas yn gartref iddo.
Ar 7 Medi 2006, cyhoeddodd archaeolegwyr yn Wcráin iddynt ddarganfod strwythur hynafol ger Luhansk ac roedd y wasg yn adrodd mai pyramid a oedd o leiaf 300 mlynedd yn hŷn yn na rhai'r Aifft oedd hwn. Dywedwyd bod ei sylfeini cerrig yn debyg i rai pyramidau'r Asteciaid a'r Maias ym Mesoamerica. Daethpwyd i'r casgliad wedyn nad pyramid oedd y safle hwn ond ei fod o ddiddordeb mawr er hynny.
Yn ystod 2014 a 2015, bu Luhansk yn safle i ymladd chwyrn ac felly mae'r rhan fwyaf o'r adeiladau hyn wedi cael rhywfaint o ddifrod. Mae'n bosibl bod rhai wedi cael eu chwalu.