Michael Bond | |
---|---|
Ganwyd | 13 Ionawr 1926 Newbury |
Bu farw | 27 Mehefin 2017 Llundain, Paddington |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, awdur plant, sgriptiwr, hunangofiannydd, gweithredydd camera, sinematograffydd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Paddington Bear |
Perthnasau | Kate Garraway |
Gwobr/au | OBE, CBE |
Awdur plant oedd Michael Bond CBE, (13 Ionawr 1926 – 27 Mehefin 2017). Ef greodd Paddington Bear, ac ysgrifennodd hefyd am anturiaethau mochyn cwta o'r enw Olga da Polga. Roedd Bond hefyd yn ysgrifennu straeon dirgelwch coginiol ar gyfer oedolion; y prif gymeriad ydy Monsieur Pamplemousse a'i gwaetgi ffyddlon, Pommes Frites.
Fe'i ganwyd yn Newbury, Berkshire. Addysgwyd Bond yn Presentation College, ysgol Gatholig yn Reading. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gwasanaethodd yn yr RAF a Chatrawd Middlesex o'r Fyddin Brydeinig.
Dechreuodd ysgrifennu yn 1945, a gwerthodd ei stori fer gyntaf i gylchgrawn London Opinion. Yn 1958, ar ôl cynhyrchu nifer o ddramau a straeon byrion tra'n gweithio i'r BBC fel dyn camera teledu (gweithiodd ar raglen Blue Peter am gyfnod), cyhoeddwyd ei lyfr cyntaf A Bear Called Paddington. Erbyn 1967 roedd yn gallu rhoi'r gorau i'w swydd yn y BBC er mwyn dod yn awdur llawn amser. Mae anturiaethau Paddington wedi eu cyhoeddi mewn bron i ugain gwlad, mewn deugain iaith.
Roedd Bond yn briod gyda dau o blant a pedwar ŵyr. Roedd yn byw yn Llundain, ddim yn bell o Orsaf Paddington. Mae'r arth a greodd wedi ysbrydoli bandiau pop, ceffylau rasio, dramau, balwnau awyr a chyfres deledu.
Yn 1997, anrhydeddwyd Bond gyda OBE am ei wasanaethau i lenyddiaeth plant.
Ar 6 Gorffennaf 2007, gafodd Radd Anrhydedd Doctor of Letters gan Brifysgol Reading.