Plaid Genedlaethol yr Alban Pàrtaidh Nàiseanta na h-Alba Scottis Naitional Pairtie | |
---|---|
Arweinydd | Nicola Sturgeon |
Dirprwy Arweinydd | Stewart Hosie |
Arweinydd San Steffan | Angus Robertson |
Sefydlwyd | 1934 |
Unwyd gyda | Plaid Genedlaethol yr Alban Plaid yr Alban |
Pencadlys | Gordon Lamb House 3 Jackson's Entry Caeredin EH8 8PJ |
Asgell myfyrwyr | Ffederasiwn Myfyrwyr Cenedlaetholgar |
Asgell yr ifanc | Young Scots for Independence |
Aelodaeth | 125,482 |
Cysylltiadau Ewropeaidd | European Free Alliance |
Grŵp yn Senedd Ewrop | Gwyrddion Ewrop (EFA) |
Lliw | Melyn a du |
Seddau'r Alban yn Nhŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig) | 35 / 59 |
Seddau'r Alban yn Senedd Ewrop | 2 / 6 |
Senedd yr Alban | 62 / 129 |
Awdurdod Lleol yn yr Alban | 421 / 1,227 |
Gwefan | |
http://www.snp.org/ |
Mae Plaid Genedlaethol yr Alban (Saesneg: Scottish National Party neu'r SNP, Gaeleg yr Alban: Pàrtaidh Nàiseanta na h-Alba neu'r PNA) yn blaid wleidyddol adain chwith-canol Albanaidd sy'n galw am annibyniaeth i'r Alban. Sefydlwyd y blaid yn 1934, pum mlynedd wedi sefydlu Plaid Cymru, pan gyfunwyd 'Plaid Genedlaethol yr Alban' (Saesneg: National Party of Scotland neu'r NPS) a 'Phlaid yr Alban' (Saesneg: Scottish Party. Nicola Sturgeon yw ei harweinydd cyfredol; hi hefyd yw Prif Weinidog yr Alban. Yn dilyn Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014, hi yw'r drydedd blaid mwyaf ei haelodaeth yn y Deyrnas Gyfunol, a'r fwyaf yn yr Alban - pedair gwaith yn fwy na Llafur yr Alban, Ceidwadwyr yr Alban a Rhyddfrydwyr yr Alban gyda'i gilydd.
Cynrychiolwyd yr SNP yn San Steffan ers i Winnie Ewing ennill sedd etholaeth Hamilton dros yr SNP ym 1976, flwyddyn wedi i Gwynfor Evans ennill is-etholiad Caerfyrddin, i Blaid Cymru. Pan agorodd drysau Llywodraeth yr Alban yn 1999, yr SNP oedd yr ail blaid gryfaf, a bu'n wrth-blaid am ddau dymor. Yn dilyn Etholiad yr Alban 2007, ffurfiodd Lywodraeth leiafrifol, ac yn 2011 roedd ganddi fwyafrif llethol, a ffurfiodd Lywodraeth yr Alban. Yn 2015 roedd ganddi 105,000 o aelodau, 64 Aelod Llywodraeth yr Alban a 424 cynghorydd sir. Yn 2015, roedd ganddi hefyd 56 allan o 59 Aelod Seneddol a dau aelod yn Senedd Ewrop, lle mae'n rhan o'r grŵp Cynghrair Rhydd Ewrop ac yn eistedd gydag aelodau'r Cynghrair Ewropeaidd y Blaid Werdd.
Mae ei syniadau gwleidyddol yn eitha tebyg i'r rhai Ewropeaidd ac yn gonglfaeni iddynt mae cymdeithas a democratiaeth. Ymhlith ei pholisiau y mae: priodas gyfunryw, gostwng oed pleidleisio i 16, diarfogi niwclear, gostwng trethi, dileu tlodi, codi tai fforddiadwy, addysg am ddim i bawb, gwrthwynebu codi gorsafoedd niwclear, buddsoddi mewn egni adnewyddadwy, dileu treth hedfan a chodi cyflogau nyrsus.
|title=
(help)
|url=
value (help). Scottish National Party. Cyrchwyd 17 October 2014.
|url=
value (help) ar 2014-12-09. Cyrchwyd 6 Rhagfyr 2014.