Pêl-law

Pêl-law
Enghraifft o'r canlynolmath o chwaraeon, chwaraeon olympaidd Edit this on Wikidata
Mathchwaraeon tîm, chwaraeon peli Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod1915 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gêm a chwaraeir rhwng dau chwaraewr yw Pêl-law, sy'n un o gampau Gemau Olympaidd. Mae'n eitha tebyg i bêl-droed 5-bob-ochor, gyda dwy gôl, ond fod y bêl yn cael ei daro gyda'r llaw, yn hytrach na'i gicio.

Arferid chwarae gêm o'r un enw yn yr Oesoedd Canol yng Nghymru, ac mae'n dal i gael ei chwarae - yn ddi-dor ers sawl canrif - mewn ardaloedd fel Nelson, Caerffili. Dau chwaraewr sy'n chwarae'r Pêl-law Cymreig, fodd bynnag, a wal yn hytrach na goliau.

Ymosodwr yn barod i daflu'r bêl tua'r gôl

Disgrifiad o bêl-law modern

Ceir dau gyfnod o 30 munud yr un a'r tîm sy'n sgorio fwyaf o goliau sy'n curo. Mae'r cwrt yn mesur 40 wrth 20 mettr (131 x 66 tr), gyda gôl ym mhob pen. Ceir parth 6-metr o gwmpas pob gôl - a dim ond y gôl geidwad gaiff fynd i'r parth hwn. Sgorir gôl drwy daflu'r bêl i mewn i'r gôl o du allan y parth, neu wrth "neidio" i mewn i'r parth. Y tu fewn y chwaraeir y gêm fel arfer.

Mae'r gêm yn cael ei chwarae'n sydyn iawn ac mae nifer y goliau fel arfer rhwng 20 - 35. Caniateir cyffwrdd wrth i'r amddiffynwyr geisio atal yr ymosodwyr rhag sgorio.

Fideo o bêl-law

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Saesneg y BBC; Pel-Law, Wales's forgotten sport: 'Just a ball and a wall'