Pistyll Rhaeadr | |
Enghraifft o'r canlynol | tirffurf |
---|---|
Math | gwrthrych daearyddol naturiol, corff o ddŵr |
Rhan o | cwrs dŵr |
Yn cynnwys | dŵr, clogwyn |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ffrwd neu afon yn llifo dros ddibyn neu ar hyd lechwedd serth yw rhaeadr' (hefyd sgwd yn y De, pistyll yn y Gogledd). Ceir rhaeadrau'n llifo pan fo rhewlif neu fynydd iâ yn dadmer.
Fel arfer ffurfir y rhaeadr pan fo afon yn ifanc. Wrth i'r dŵr darro gwely'r afon gall dyllu a thynnu haen o garreg; gall hyn ddigwydd dros amser hir pan fo'r garreg yn galed, ond yn eitha sydyn gyda thywodfaen a chreigiau meddal eraill. Mae hyn yn achosi i'r rhaeadr symud yn ôl at ei thariad ar gyflymder amrywiol: hyd at un fetr a hanner y flwyddyn.
Y rhaeadr mwyaf yng Nghymru yw Rhaeadr Clogwyn y Geifr yng Nghwm Idwal, Eryri, sy'n 305 troedfedd (93 metr).