Math | stuffed flatbread, wrap |
---|---|
Deunydd | cig, Saws, llysieuyn, Bara pita, lavash |
Label brodorol | شاورما |
Gwlad | Lefant |
Yn cynnwys | lavash, cig, Saws, llysieuyn, Bara pita, Bara tabwn |
Enw brodorol | شاورما |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Siawarma (/ʃəˈwɑːrmə/; Arabeg: شاورما), hefyd shawarma, shaurma, chawarma a sillafiadau eraill, yn bryd bwyd cig o'r Dwyrain Canol sy'n seiliedig ar y cebab doner.
Yn wreiddiol o gig oen neu dafad, gall y siawarma gyfoes gynnwys cyw iâ, twcri, cig eidion neu cig lle. Torrir y cig yn dafellau tennau a'i llwytho i greu tŵr neu corn ar rhost-droellwr neu bêr-droell. Caiff tafellau tennau o'r côn sydd wedi eu cogion gan y tân, eu heillio oddi ar y wyneb wrth i'r tŵr gylchroi'r ddi-stop.
Mae'r siawarma yn un o brydau bwyd stryd mwyaf poblogaidd y byd, yn enwedig yng ngwledydd y Lefant a phenrhyn Arabia.
Ymddangosodd yr arfer o greu tŵr o gig wedi tafellu eu goginio a'i ber-droellu yn Nhwrci adeg yr Ymerodraeth yr Otomaniaid yn y 19g, lle galwyd hi yn döner kebap. Shawarma, fel gyros, yn dod ohono. Cyflwynwyd y siawarma i Fecsico gan fewnfudwyr o'r Dwyrain Canol lle ddatblygodd ar ddechrau'r 20g fewn i'r tacos al pastor.
Mae Siawarma yn ymgais Arabeg ar y gair Twrceg çevirme tʃeviɾˈme 'troi', sy'n cyfeirio at y droi'r rhost-droell/bêr-droell cig. Mae'r geiriau Twrceg a Groeg, döner a gyros, hefyd yn cyfeirio at 'droi'.
Caiff Siawarma ei baratoi wrth dorri darnau tennau o gig oen, dafad, eidion, cyw iâr, neu dwrci wedi eu marinadu. Bydd y tafelli'n cael eu llwytho ar sgiwer sydd oddeutu 2 feet (60 cm) o uchder. Caiff braster oen ei ychwanegu er mwyn ategu at y blas a lleithder. Bydd y sgiwer llawn cig yn troi'n araf o flaen tân gan rhostrio'r haen allanol. Caiff siafins o'r cig eu torri gan gyllell hir finiog, neu, teclyn drydannol pwrpasol, â llaw neu beirianyddol.
Caiff y siawarma ei weini ar blât ond mae'n fwy arferol fel brechdan wrap tu fewn bara fflat fel laffa neu bara pita. Gweinir yn aml gyda thomatos, ciwcymber, winwns, llysiau picledig a saws tahini neu saws mango amba.
Shawarma is a popular Levantine Arab specialty.
Shawarma - An Arab sandwich similar to the gyro.
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw Prichep 2015