Math | rhanbarth |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Asia |
Gwlad | Rwsia |
Arwynebedd | 13,100,000 km² |
Gerllaw | Cefnfor yr Arctig, Y Cefnfor Tawel |
Cyfesurynnau | 60°N 105°E |
Mae Siberia (Rwseg: Сиби́рь) yn ardal enfawr o Rwsia a gogledd Casachstan sy'n cynnwys rhan helaeth Gogledd Asia. Yn ôl y diffiniad hanesyddol, fe'i ffinir gan fynyddoedd yr Wral i'r gorllewin, y Cefnfor Tawel i'r dwyrain, y Môr Arctig i'r gogledd, a bryniau Casachstan a ffiniau Mongolia a Tsieina i'r de. Gorwedda'r rhan helaeth o Siberia yn Ffederasiwn Rwsia, ac fe ffurfia 77% (13.1 miliwn cilometr sgwar) o arwynebedd y wlad honno ond gyda dim ond 28% (tua 40 miliwn) o boblogaeth Rwsia.
Roedd pobl yn byw yn Siberia rhai degau o filoedd o flynyddoedd yn ôl. Darganfuwyd olion dynol ac artiffactau yn Ogof Denisova, Crai Altai o tua 40,000 mlynedd yn ôl. Lleolir yr ogof mewn rhanbarth lle y credir bu Neanderthaliaid a homo sapiens cynnar yn byw yn yr un cyfnod. Ym Mal'ta ar lan Afon Angara ger Llyn Baikal yn Oblast Irkutsk, cafwyd hyd i gerfluniau bychain sy'n dyddio'n ôl tua 23,000 mlynedd. Cawsant eu cerfio o ifori mamoth. Yn nes ymlaen, roedd Siberia yn drigfan i wahanol grwpiau o nomadiaid, megis yr Yenet, y Nenets, yr Hyniaid, a'r Uyghur. Concrwyd yr ardal gan y Mongoliaid yn y 13g, ac fe ddaeth yn wladwriaeth annibynnol dan reolaeth Chân. Fe gychwynnodd pŵer cynyddol Rwsia tanseilio'r annibyniaeth hon yn yr 16g. Erbyn canol yr 17g, roedd yr ardaloedd o dan reolaeth Rwsia yn ymestyn i'r Cefnfor Tawel. Er hynny, ychydig iawn o ymwelwyr a ddaeth i Siberia yn y canrifoedd dilynol. Y newid mawr cyntaf yn Siberia oedd y rheilffordd Traws-Siberia, a adeiladwyd rhwng 1891 a 1903. Fe gysylltodd Siberia â Rwsia a'i diwydiant, a thrwy gydol yr 20g fe wnaed defnydd helaeth o adnoddau naturiol Siberia.
Gyda arwynebedd o 13.1 million km² (5.1 miliwn milltir sgwar), mae Siberia yn cynnwys tua 77% o holl diriogaeth Rwsia. Mae parthau daearyddol mawr yn cynnwys Gwastadedd Gorllewin Siberia a Llwyfandir Canol Siberia. Ceir tua 10% o arwyneb tir y Ddaear yn Siberia (148,940,000 km²). Mae coedwigoedd tirwedd taiga yn dominyddu yn y de gydag eangderau mawr o dirwedd twndra di-goed yn y gogledd. Y pwynt uchaf yn Siberia, yn ôl y diffiniad ehangaf, yw llosgfynydd byw Klyuchevskaya Sopka, a leolir ar Orynys Kamchatka yn y Dwyrain Pell; ei uchder yw 4,649 meter (15,253 troedfedd).
Yn ôl y diffiniad Rwsiaidd cyfoes, mae Siberia yn cynnwys:
Yn ôl y diffiniad ehangach, mae'n cynnwys hefyd:
Novosibirsk yw'r ddinas fwyaf. Mae dinasoedd mawr eraill yn cynnwys:
Yn y Siberia ehangach, ceir dinasoedd:
Does dim llyfrau Cymraeg ar gael am Siberia eto. O blith y llyfrau Saesneg ceir: