Iaith artiffisial a ddyfeisiwyd gan J. R. R. Tolkien yw Sindarin, ac fe'i defnyddiwyd yn ei fyd eilaidd, a elwir yn Ganol-ddaear fel arfer. Yn chwedloniaeth Tolkien, roedd Sindarin yn iaith y Sindar, ‘yr Ellyllon Llwydion’. Seliwyd Sindarin ar y Gymraeg yn ei ffurf ac yn ei sain.
Gramadeg
Ffonoleg
Mae ffonoleg y Sindarin yn debyg i ffonoleg y Gymraeg.
Cytseiniaid
gwefusol
deintiol
gorfannol
taflodol
felar
glotal
eglur
ochrol
ffrwydrol
p b
t d
k3g
trwynol
m
n
ŋ4
ffrithiol
f v
θ ð1
s
x5
h
tril
r̥6r
lled-gyffwrdd
l l̥2
j
ʍ7w
ysgrifennir <th> a <dh>
ysgrifennir <lh>
ysgrifennir <c>
ysgrifennir <ng>
ysgrifennir <ch>
ysgrifennir <rh>
ysgrifennir <wh>
Dyma gymhariaeth rhwng cytseiniaid y Sindarin gyda cytseiniaid y Gymraeg:
Sindarin
p
b
f
v
th
dh
t
d
n
s
r
rh
l
lh
i
c
g
ng
ch
w
wh
h
Cymraeg
p
b
ff
f
th
dd
t
d
n
s
r
rh
l
ll
i
c
g
ng
ch
w
chw
h
Treigladau
Mae gan Sindarin system dreigladau sy'n debyg i'r a geir yn y Gymraeg:
Elessar Telcontar: Aragorn Arathornion Edhelharn, aran Gondor ar Hîr i Mbair Annui, anglennatha i Varanduiniant erin dolothen Ethuil, egor ben genediad Drannail erin Gwirith edwen. Ar e aníra ennas suilannad mhellyn în phain: edregol e aníra tírad i Cherdir Perhael (i sennui Panthael estathar aen) Condir i Drann, ar Meril bess dîn; ar Elanor, Meril, Glorfinniel, ar Eirien sellath dîn; ar Iorhael, Gelir, Cordof, ar Baravorn, ionnath dîn. A Pherhael ar am Meril suilad uin aran o Minas Tirith nelchaenen uin Echuir.
Yn Gymraeg
Elessar Telcontar: Bydd Aragorn, marchogwr Edhelharn, brenin Gondor ac arglwydd Gwledydd y Gorllewin, yn mynd at Bont Farandwyn ar yr wythfed dydd o'r Gwanwyn, neu, yng nghyfrif y Sir ar yr ail ddydd Ebrill. Ac yno mae eisiau cyfarch ei holl gyfeillion arno : yn enwedig mae eisiau gweld y Tywysog Perhael arno (a ddylid ei alw yn Banthael ) Maer y Sir, a Meril ei wraig; ac Elanor, Meril, Glorffinniel, ac Eirien ei ferched; ac Iorhael, Gelir, Cordof, a Baraforn, ei feibion. I Berhael ac i Feril, cyfarchiad Brenin Minas Tirith; y 31ain dydd o'r Cynhyrfiad.
Mae recordiad o'r llythyr ar gael yn Sindarin yma.
Cân y Ellyllon Imladris
Yn Sindarin
A Elbereth Gilthoniel / silivren penna míriel / o menel aglar elenath! / Na-chaered palan-díriel / o galadhremmin ennorath, / Fanuilos le linnathon / nef aear, sí nef aearon
Yn Gymraeg
O Elbereth Gilthonel / wrth serennu fel gemau / disgyn gogoniant y sêr o'r nefoedd! / Wedi edrych ymhell bell / o canol-wledydd coed-wehyddol, / Bytholwen, mi ganaf i chi / ar yr ochr honno y môr, yma ar yr ochr honno y cefnfor